Cefnogaeth G-Suite
Cefnogaeth i ddysgwyr a rhieni
Dyma fideo defnyddiol y gallwch ei rannu gyda dysgwyr a rhieni i gyflwyno Google Classroom ac i enghreifftio sut i'w ddefnyddio i reoli llif y gwaith. Gallwch glicio ar 'Share' ar y fideo er mwyn gallu gyrru'r cyfeiriad ymlaen i rieni a dysgwyr.
Cefnogaeth i Athrawon
Mae nifer o adnoddau ar lein sy'n rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio rhaglenni'r G-suite. Dilynwch y doleni isod i gael mynediad at yr adnoddau hyn. Yn anffodus dim on yn Saesneg mae nifer o'r adnoddau hyn ar gael.
Google Classroom
Mae'r adnodd hwn yn eich tywys drwy'r holl agweddau o Google Classrom gam wrth gam. Gallwch chi ddewis pa rannau o'r adnodd yr ydych yn dymuno eu dilyn. Cliciwch yma i weld yr adnodd.
Google Forms
Dyma adnodd sy'n eich cyflwyno i Google Forms fel arf i lunio holiaduron ar lein ac hefyd i greu prawf neu gwis i brofi dealltwriaeth y dysgwyr. Cliciwch yma i weld yr adnodd.
Google Docs
Gall Google Docs fod yn ffordd wych i chi gefnogi gwaith ysgrifennu y dysgwyr drwy alluogi i chi roi sylwadau ar ddarnau penodol o'r gwaith a hwyluso'r broses o godi safon ieithyddol. Cliciwch yma i weld yr adnodd.
Google Slides
Dyma fersiwn Google o feddalwedd cyflwyno - tebyg i Power Point. Gall fod yn arf defnyddiol i alluogi i chi gyflwyno gwybodaeth i'ch dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn o ddysgu o bell. Cliciwch yma i weld ar adnodd.
Cliciwch yma i weld canllawiau Hwb ar sut i ddefnyddio G-Suite drwy eich cyfrif Hwb.