Cyfarwyddiadau
CAM 1 - Cyrraedd Google Classroom
Mae gan ddefnyddwyr Hwb ddau opsiwn i gael mynediad at G Suite for Education:
Mewngofnodwch i Hwb.
Cliciwch y deilsen G Suite for Education.
Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
Byddwch chi’n cael eich arwain yn syth at Google Classroom. I ddefnyddio rhaglen wahanol, cliciwch y ‘waffl’ Apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewis y rhaglen G Suite rydych am ei defnyddio.
Ewch i google.com
Cliciwch y botwm Mewngofnodi glas (yn y gornel dde uchaf).
Rhowch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb > a chlicio Nesaf.
Cliciwch y ‘waffl’ Apiau Google (yn y gornel dde uchaf) a dewis 'Classroom'.
CAM 2 - Ymuno â'r dosbarth
Ymuno â dosbarth:
Cliciwch y symbol + (yn y gornel dde uchaf) > Ymuno â'r dosbarth.
Teipiwch god y dosbarth > a chlicio Ymuno.
CAM 3 - Defnyddio adnodd
Ewch i dudalen 'Classwork' drwy glicio ar y gair ar frig y dudalen.
Cliciwch ar un o'r adnoddau er mwyn ei agor.
Os ydych chi'n dymuno lawrlwytho'r adnodd cliciwch ar 'File' yna dewisiwch 'Download' er mwyn ei lawrlwytho (Powerpoint / Slides / Excel / Sheets / Word / Docs / PDF)
Problemau Cyffredin
Nid wyf yn gwybod fy nghyfrinair Hwb
Cysylltwch â phencampwr digidol eich ysgol. Fel arfer y cydlynydd digidol a/neu y pennaeth fydd y pencampwyr digidol. Bydd pencampwyr digidol yn gallu dod o hyd i'ch manylion mewngofnodi neu ail osod eich cyfrinair. Cliciwch yma i weld canllawiau i bencampwr digidol ar sut i reoli manylion mewngofnodi'r ysgol drwy borth rheoli defnyddwyr Hwb.
Nid wyf yn gallu ymuno a'r dosbarth - rwy'n derbyn neges yn dweud 'This code is invalid'.
Gwiriwch eich bod yn defnyddio eich cyfrif Hwb. Gallwch wneud hyn drwy glicio ar y cylch fydd yn cynnwys llythyren cyntaf eich enw yn y gornel dde uchaf. Os nad yw hwn yn dangos cyfrif sy'n diweddu â @hwbcymru.net yna cliciwch ar 'Add another account' a mewngofnodwch drwy ddefnyddio eich cyfrif Hwb.
Os ydych dal i gael trafferth wrth ymuno â'r dosbarth gwiriwch fod y cod wedi ei sillafu yn gywir. Y ffordd gorau o wirio hyn yw drwy gopïo a gludo'r cod oddi ar y dudalen gartref.