7.5.2021

Dydd Gwener / Friday - 7.5.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/10-5-21-14-5-21

Thema / Topic:

Afonydd a llynnoedd yng Nghymru/ Rivers and Lakes in Wales

Mae yna lawer o afonydd a llynnoedd yng Nghymru. Bydd eich gwaith heddiw yn seiliedig ar rhein.

Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo am afonydd a llynnoedd yng Nghymru.

There are many rivers and lakes in Wales. Your work today will be based on these.


Click the link to watch the video about rivers and lakes in Wales.

Tasg 1/ Tasg 1:

Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar afonydd a llynnoedd. Eich tasg yw i gyfateb yr anifeiliaid isod gyda'u cynefin cywir. E.e.. cynefin y cranc yw'r môr.


This week we're focusing on rivers and lakes. Your task is to place the animals below in their correct habitat. E.g . A crab's habitat is the sea.

Tasg 2/ Task 2:

Cynefin yr anifeiliaid yn y llun yw afonydd a llynnoedd. Ydych chi'n gallu ysgrifennu ffeil o ffeithiau am un o'r anifeiliaid yn y llun? Gallwch ddefnyddio'r daflen am gymorth neu greu ffeil o ffeithiau mewn unrhyw ffordd yr hoffech.


The animals in the picture live in or near rivers and lakes. Can you write a fact file about one of the animals in the picture? You can use the sheet for help or create a fact file in any way you like.

Celf / Art:

Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar afonydd a llynnoedd yng Nghymru. Eich tasg chi yw creu celf sydd yn cynrychioli afon neu lyn. Edrychwch ar y lluniau isod am syniadau.

This week we are concentrating on rivers and lakes in Wales. Your task is to create a piece of art that represents a river or lake. Look at the pictures below for ideas

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Cliciwch ar y linc i wylio y fideo ac i gopio.

Click on the link to watch the video and copy.

Gwaith cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:


Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer sillafu. / Here are some key words to practise.

dydw i ddim (I don't) / aeth (went) / daeth (came) / byw (live) / pwy (who)

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Rydyn ni wedi bod yn edrych ar brif lythrennau'r wythnos hon. Ydych chi'n gallu mynd ati i gyfateb y prif lythrennau gyda'r llythrennau bach cywir? Dewch i ymarfer ffurfio’r prif lythrennau hefyd.

We have been looking at capital letters this week. Can you correspond the capital letters to the correct lower case letters? Practice forming the capital letters too.


Dewch i ymarfer sillafu ein geiriau sillafu'r wythnos. Beth am geisio sillafu mewn prif lythrennau hefyd?

Come and practise spelling our spelling words of the week. How about trying to spell them in capital letters too?

Mathemateg / Mathematics:

Rydyn ni wedi bod yn casglu a thrin data yr wythnos hon trwy greu pictogramau. Eich gwaith cartref chi yw i greu siart rhicbren yn dangos data yr ydych wedi'i gasglu cyn mynd ati i greu pictogram ar y data. Gall hwn fod yn y nifer o flodau lliwiau gwahanol sydd yn eich gardd, lliwiau gwahanol geir sy'n pasio eich cartref neu gallwch fynd ar helfa trychfilod ac arddangos eich canfyddiadau i ni.

Cliciwch ar y linc isod i weld fideo o sut i gasglu data ac edrychwch ar yr esiampl o bictogramau isod.

We have been collecting and analysing data this week by creating pictograms. Your homework this week is to create a tally chart showing data you have collected before creating a pictogram with the information. This could be the colours of different flowers in your garden, the colours of cars passing your house or you could go on a minibeast hunt and display your findings to us.

Click on the link below to see a video on data collection and look at the example of a pictograms below.