30.4.2021

Dydd Gwener / Friday - 30.4.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/4-5-21-7-5-21

Thema / Topic:

Parciau Cenedlaethol / National Parks

Mae Parciau Cenedlaethol yn diroedd sy'n cael eu gwarchod gan Awdurdodau'r Parciau. Maent yn ardaloedd o dir sy'n cael eu hystyried i fod yn brydferth iawn. Mae 15 Parc Cenedlaethol yn y DU. Mae tri o'r rhain yng Nghymru. Mae'r bywyd gwyllt a'r planhigion sydd yn y parciau hyn yn cael eu gwarchod oherwydd bod rhai ohonynt yn brin iawn neu dan fygythiad o ddiflannu’n llwyr. Mae'r trefi, y pentrefi a'r safleoedd hanesyddol yn y Parciau Cenedlaethol hefyd wedi'u gwarchod.

National Parks are lands protected by the Park Authorities. They are areas of land that are considered to be very beautiful. There are 15 National Parks in the UK. Three of these are in Wales. The wildlife and plants in these parks are protected because some are very rare or threatened with extinction. The towns, villages and historic sites in the National Parks are also protected.

Tasg 1/ Task 1:

Edrychwch ar y map. Ydych chi'n gallu trafod gydag oedolyn pa Barc Cenedlaethol sydd yn y Gogledd, De a'r Gorllewin?


Take a look at the map. Can you discuss with an adult which National Park is in North, South and West Wales?

Tasg 2/ Task 2:

Mae yna lawer o anifeiliaid, planhigion a blodau ym Mharciau Cenedlaethol Cymru. Eich tasg yw mynd am helfa natur yn eich ardal chi i chwilio am bethau byw. Defnyddiwch y daflen fel cymorth.

There are many animals, plants and flowers in the National Parks of Wales. Your task is to go on a nature hunt near where you live and find living things. Use the sheet for support.

Celf / Art:

Mae'r tywydd wedi newid ac rydym yn dechrau croesawu'r haf. Eich gwaith yr wythnos hon yw mynd am dro ac i arsylwi ar y newidiadau o'n cwmpas. Ydych chi'n gallu casglu pethau naturiol e.e. blodau, dail gwahanol liw, brigau ayyb er mwyn creu llun / collage naturiol? Gallwch greu beth bynnag yr hoffech, felly byddwch yn greadigol. Gweler syniadau isod:

The weather has turned a bit warmer and we are beginning to welcome the summer. Your task this week is to go on a walk and observe all the changes around us. Can you collect some natural items such as flowers, different coloured leaves, sticks etc. and make a natural picture or a collage? You are welcome to make anything you like and be as creative as you wish. Here are some ideas:

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Gan ein bod yn canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol Cymru ac yr awyr agored yr wythnos hon, eich tasg yw mynd am dro a defnyddio eich synhwyrau yn yr amgylchedd. Mae'r clip yn siarad am yr hydref ond a allwch chi ddefnyddio'r technegau ar gyfer taith gerdded yr haf?


Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo.

As we are concentrating on Welsh National Parks and outdoors this week, your task is to go for a walk and use mindfulness to notice your surroundings. The clip speaks about autumn but can you use the techniques for a summer walk?

Click on the link to watch the video.

Gwaith cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:

Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer sillafu. Ceisiwch eu hymarfer drwy ddefnyddio'r dull isod: / Here are some key words to practise. Try to practise them by using the method below:


rydw i yn (I am) / mae (there is) / nhw (they) / rhai (some) / doedd (there wasn't) /

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Sillafu dwdl / Doodle spelling

Mathemateg / Mathematics:

Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn edrych ar hanner a chwarter troeon a symud yn glocwedd a gwrthglocwedd.

Ydych chi'n gallu ymarfer symud gwrthrych a disgrifio sut rydych chi wedi ei symud gan ddefnyddio'r iaith gywir? Ydych chi wedi ei symud 'troad cyfan', 'hanner troad' neu 'chwarter troad'? Yn glocwedd neu'n wrthglocwedd?


This week we have been looking at half and quarter turns and moving clockwise and anticlockwise.

Can you practise moving an object and describe how you've rotated it by using the correct language? Have you moved it a 'full turn', 'half a turn' or a 'quarter turn'? Has it moved clockwise or anticlockwise?

Ydych chi'n gallu gorffen y daflen isod? / Can you finish the worksheet below?