Gwaith ychwanegol / Extra work

Cofiwch y gallwch chi ddangos eich gwaith i mi drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw'. Gweler y llythyr yn eich llyfr gwaith cartref am ragor o fanylion.

Remember you can show me your work by uploading it on 'Seesaw'. Please see the letter in your homework book for more information.

Diolch, Miss Hughes

14.12.20

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Hughes. Ewch i 'Log in with Google' a rhowch eich e-bost Hwb i mewn. Diolch yn fawr.

Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Hughes. Go to 'Log in with Google' and you'll need to enter your Hwb e-mail to gain access. Diolch yn fawr.

Iaith / Language:

Antur Fawr Panta Clos

Rydyn ni wedi bod yn edrych ar y stori yma yn y dosbarth, beth am ei ail ddarllen trwy glicio isod, neu gwrandewch ar Miss Hughes yn ei ddarllen? / We have looked at this story in class, how about reading it yourselves, or listen to Miss Hughes reading it?

Antur Fawr Panta Clos
Antur Fawr Panta Clos.mp4

Mae nifer o eiriau yn y stori yma yn odli. Ydych chi'n gallu llenwi'r tabl isod drwy ffeindio'r geiriau sy'n odli gyda'r rhai ar y chwith? / There are many words in this story that rhyme. Can you fill the table below by finding the words that rhyme with the words on the left?

Ydych chi'n gallu meddwl am fwy o eiriau sy'n odli gyda'r geiriau hyn? Beth am greu brawddegau gwirion gyda geiriau sy'n odli? Edrychwch isod am esiamplau. / Can you think of more words that rhyme with these? How about writing silly sentences with words that rhyme? Look below for examples.

Beth am chwarae'r gem yma er mwyn gweld os ydych yn gallu cyfateb y geiriau sy'n odli? / How about playing this game to see if you can match the words that rhyme?

Mathemateg / Mathematics:

Dewch i edrych ar y llun Nadoligaidd isod a cheisiwch ateb y cwestiynau amdano. Gallwch fynd ati i greu pictogram / graff bar ar jit5 (Hwb) o'r hyn rydych wedi'i ddarganfod. / Look at this Christmas picture and answer the questions about it. You could create a pictogram / bar graph on jit5 (Hwb) about all that you have found.

  1. Sawl carw sydd yn y llun? / How many reindeers are there in the picture?

  2. Sawl dyn eira sydd yn y llun? / How many snowmen are there in the picture?

  3. Sawl pluen eira sydd yn y llun? / How many snowflakes are there in the picture?

  4. Sawl corach sydd yn y llun? / How many elves are there in the picture?

  5. Sawl celyn sydd yn y llun? / How many sprigs of holly are there in the picture?

  6. Sawl coeden Nadolig sydd yn y llun? / How many Christmas trees are there in the picture?

  7. Sawl hosan Nadolig sydd yn y llun? / How many Christmas stockings are there in the picture?

  8. Faint yn fwy o geirw sydd yn y llun na dynion eira? / How many more reindeers are there than snowmen?

  9. Ar ol gweithio allan sawl dyn eira sydd yn y llun, lluoswch gyda 2 i ddarganfod sawl llygad dyn eira sydd yno. / After working out how many snowmen are in the pitcure, mulitply by 2 to discover how many snowmen eyes there are.

  10. Ar ol gweithio allan sawl carw sydd yn y llun, ydych chi'n gallu lluosi gyda 4 i weld sawl coeden carw sydd yn y llun? / After working out how many reindeers there are in the picture, can you multiply by 4 to discover how many reindeer legs there are in the picture?

Atebion / Answers:

  1. 8

  2. 3

  3. 8

  4. 6

  5. 6

  6. 3

  7. 3

Thema / Theme:

Mae na nifer fawr o estroniaid gwahanol yn y stori hon. Rhai mawr, rhai bach, rhai tenau, rhai llydan. Dewch i ddylunio estron eich hunain. Sawl llygad fydd ganddo? Beth fydd ei enw? Pa liw fydd eich estron? Tynnwch lun ohono yn eich llyfrau a cheisiwch ei ddisgrifio drwy ddefnyddio'r patrwm iaith 'Mae fy estron i yn...'. Cofiwch ddylunio pants arbennig iddo / iddi./

There are many different aliens in this story. Big ones, small ones, thin ones, wide ones. Design your own alien. How many eyes will it have? What will be it's name? What colour will your alien be? Draw a picture of him / her in your books and describe your alien by using the language pattern 'Mae fy estron i yn...' (My alien is...). Remember to design some special underpants for him / her.

Antur yr Adfent / Advent Adventure

Dewch i weld beth sydd tu ol i ddrws rhif 14 heddiw! Mwynhewch! / Come and watch what is behind door number 14 today! Enjoy!

15.12.20

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Hughes. Ewch i 'Log in with Google' a rhowch eich e-bost Hwb i mewn. Diolch yn fawr.

Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Hughes. Go to 'Log in with Google' and you'll need to enter your Hwb e-mail to gain access. Diolch yn fawr.

Iaith / Language:

Antur Fawr Panta Clos

Atgoffwch eich hunain o'r stori Antur Fawr Panta Clos trwy glicio ar y linc isod. / Remind yourselves of our story 'Antur Fawr Panta Clos' by clicking on the link below.

Antur Fawr Panta Clos
Antur Fawr Panta Clos.mp4

Dewch i ysgrifennu sgwrs rhwng dau gymeriad o'r stori. Rhaid cofio ychydig o bethau wrth ysgrifennu sgwrs . Edrychwch isod am y prif bethau sydd eu hangen.

  • Dyfynodau (" ") . Rhaid rhoi rhain cyn i rywun ddechrau siarad ac ar ôl i nhw orffen siarad.

  • Priflythrennau ar ddechrau pob brawddeg.

  • Atalnod llawn ar ddiwedd pob brawddeg.

  • Ceisiwch amrywio sut mae'r cymeriadau yn siarad. e.e. sibrydodd / gwaeddodd / dywedodd / criodd ayb.

Mae dechreuad i sgwrs isod, gallwch ddefnyddio hwn fel esiampl, neu ei hysgrifennu yn eich llyfrau a pharhau ag e.

Write a short conversation between two characters from the story. Remember some important things when writing a conversation. Please see below for the main points.

  • Speech marks (" "). These must be used before somebody talks and after they finish.

  • Capital letters at the start of every sentence.

  • Full stops at the end of every sentence.

  • Try to vary the way the characters speak. i.e. whispered / shouted / said / cried etc.

Below is the start of a conversation, use this as an example, or write it in your books and continue with the conversation.

“Dyma bants neis!” meddai’r estron. / "Here are some nice pants" said the alien.

“Mae angen i ni lapio’r anrhegion i gyd, brysia!” meddai’r corrach. / "We need to wrap the presents, hurry!" said the elf.

“Ond dwi eisiau newid pob anrheg i fod yn bâr o bants lliwgar!” meddai’r estron. / "But I want to change every present for a pair of colourful pants!" said the alien.

“Na! Teganau a thedis mae plant bach Cymru eisiau!” cwynodd y corrach. / "No! Toys and teddies are what the children of Wales want!" the elf complained.

Beth am ffeindio dau degan sydd gennych yn y ty a chreu sioe bypedau fer ar Seesaw ohonynt yn siarad am y Nadolig? Recordiwch y sgwrs ar Seesaw.

How about finding two toys that you have at home and creating a short puppet show on Seesaw with them discussing Christmas. Record the conversation on Seesaw.

Mathemateg / Mathematics:

Rydyn ni'n danfon cardiau Nadolig bob blwyddyn. Mae rhain yn costio arian. Dewch i ateb y cwestiynau isod am bris cardiau. Cofiwch i ddewis y set fwyaf addas i chi.

We send Christmas cards every year. These cost money. Answer the questions below about the price of Christmas cards. Remember to choose to most suitable set for you.

Beth am chwarae'r gêm yma er mwyn gwella ein dealltwriaeth o arian? /

How about playing this game to improve our understanding of money and coins?

Thema / Theme:

Rydyn ni wedi bod yn ymarfer ein sgiliau torri gyda siswrn yn yr ysgol. Beth am ymarfer ychydig mwy adref? Gallwch ddefnyddio'r llun isod i dorri sipiau a'u gosod yn y llefydd cywir, neu beth am ffeindio cylchgronnau, torri pethau allan a chreu collage ohonynt? Edrychwch isod am esiamplau.

We have been practising our scissor cutting skills in school. How about practising a little more at home? You can use the picture below to cut out the shapes and glue them in the correct spaces, or how about finding magazines that aren't used anymore at home and cut images out to create a collage of your own? Look below for examples.

torri a gludo siapiau.pdf

Antur yr Adfent / Advent Adventure

Dewch i weld beth sydd tu ol i ddrws rhif 15 ac 16 heddiw! Mwynhewch! / Come and watch what is behind door number 15 and 16 today! Enjoy!

16.12.20

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Hughes. Ewch i 'Log in with Google' a rhowch eich e-bost Hwb i mewn. Diolch yn fawr.

Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Hughes. Go to 'Log in with Google' and you'll need to enter your Hwb e-mail to gain access. Diolch yn fawr.

Iaith / Language:

Tasg 1 / Task 1:

Dewch i wrando a chanu'r gân 'Pwy Sy'n Dwad'. Yna ewch ati i gopio'r darn ysgrifenedig sydd o dan y linc gan lenwi'r bylchau gyda'r geiriau cywir. /

Come and listen and sing along to the song 'Pwy Sy'n Dwad'. Then copy the written piece underneath it by filling in the blanks with the correct words.

Atebion / Answers

Pwy sy'n dwad dros y bryn,

Yn ddistaw, ddistaw bach?

A'i farf yn llaes,

A'i wallt yn wyn,

A rhywbeth yn ei sach.

A phwy sy'n eistedd ar y to,

Ar bwys y simne fawr?

Sion Corn, Sion Corn,

Helo, Helo,

Tyrd yma, tyrd i lawr.

Tasg 2 / Task 2:

Dewch i wrando a chanu'r gân 'Dymunwn Nadolig Llawen'. Yna atebwch y cwestiynau sydd yn dilyn. /

Come and listen and sing along to the song 'Dymunwn Nadolig Llawen'. Then answer the questions that follow.

Atebion / Answers

  1. Melyn / Yellow

  2. Coch / Red

  3. Sinsir / Ginger

  4. Dafad / Sheep

  5. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda / Merry Christmas and a Happy New Year

  6. 3

  7. Coch a glas / Red and blue

  8. Llwyd / Grey

  9. Gwyn a du / White and black

  10. Coch, gwyrdd a melyn / Red, green and yellow

Mathemateg / Mathematics:

Tasg 1 / Task 1:

Dewch i ymarfer eich sgiliau dyblu. Chwaraewch y gêm yma a cliciwch ar 'doubles'.

Come and practise your doubling skills. Play this game by clicking on the 'doubles' button.

Tasg 2 / Task 2:

Beth am geisio cwblhau'r tasgau lliwio isod drwy ddilyn yr allweddi cywir. / How about completing the colouring tasks below by following the correct keys.

dyblu'r Nadolig.pdf

Tasg 3 / Task 3:

Dewch i gwblhau'r patrymau yma trwy chwarae'r gêm Nadolig isod. / Come and complete the patterns by playing the Christmas game below.

Thema / Theme:

Dewch i greu animeiddiad o olygfa Nadoligaidd drwy ddefnyddio jit5 ar Hwb. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i'w gwblhau.

Complete a Christmas animation by using jit5 on Hwb. Follow the instructions below.

Cliciwch isod i weld un syml gan Miss Hughes. / Click below to see a simple animation by Miss Hughes.

Antur yr Adfent / Advent Adventure

Dewch i weld beth sy'n cuddio tu ôl i weddill drysau Theatr Na Nog! / Come and see what is hidden behind the rest of Theatr Na Nog's doors.

Nadolig Llawen iawn i chi i gyd! / Merry Christmas to you all!

Iaith / Language:

Cofiwch i ddefnyddio'r apiau defnyddiol yma i'ch helpu. / Remember to use the following apps to help you.

Tasg 1: Yr wyddor / Task 1: The alphabet

Ydych chi'n gallu ysgrifennu'r wyddor yn y drefn gywir mewn llythrennau bach, beth mae'r prif lythrennau yn edrych am y llythrennau yma? / Can you write the Welsh alphabet in the correct order in lower case letters, what do the capital letters look for these letters?


Rhowch eich capiau meddwl ymlaen, ydych chi'n gallu chwarae'r gêm A - Y? Meddyliwch am fwydydd ac anifeiliaid sy'n dechrau gyda'r llythrennau’r wyddor. / Put your thinking caps on, can you play the A - Y game? Think of foods and animals that start with the letters in the Welsh alphabet.

Dyma enghreifftiau: / Here are examples:

Tasg 2: i, u, y? / Task 2: i, u, y?

Mae'r llythrennau 'i, u ac y' yn debyg iawn ac yn gallu creu'r un synnau mewn geiriau gwahanol. Ydych chi'n gallu llenwi'r bylchau yn y taflenni isod gyda'r llythrennau cywir? /

The letters ' i, u and y' are very similar and can create the same sounds within different words. Can you fill the gaps within the next few worksheets with the correct letters?


Tasg 3: Berfau 'ais' ac 'odd'. / Task 2: 'ais' and 'odd' verbs.

Pan rydyn ni'n sôn am ein hunain, rydyn ni'n gorffen ein berfau gyda'r llythrennau 'ais' e.e. Cerddais i i lawr y stryd. Pan rydyn ni'n sôn am rywun arall, rydyn ni'n gorffen ein berfau gyda'r llythrennau 'odd' e.e. Cerddodd Ben i lawr y stryd. Ydych chi'n gallu llenwi'r bylchau yn y tabl isod yn gywir? Beth am wedyn fynd ati i ysgrifennu rhai brawddegau yn dechrau gyda'r berfau yma? /

When we are talking about ourselves, we finish our verbs with 'ais' i.e. Cerddais i i lawr y stryd (I walked down the road). When we are talking about someone else, we finish our verbs with the letters 'odd' i.e. Cerddodd Ben i lawr y stryd (Ben walked down the street). Can you fill the blanks in the table below? After completing it, how about trying to write some sentences starting with these verbs?


Mathemateg / Mathematics:

Cofiwch am yr ap a'r wefan isod i ymarfer eich sgiliau. / Remember the app and website below to practise your skills.

Tasg 1: Arian / Task 1: Money

Sawl ffordd ydych chi'n gallu creu'r cyfansymiau isod gan ddefnyddio'r ceiniogau yma? / How many ways can you make the amounts below using these coins?



Beth am chwarae'r gêm yma i helpu datblygu sgiliau gweithio gydag arian?


How about playing this game to help develop working with money skills?

Tasg 2: Gwerth Lle / Task 2: Place Value

Edrychwch yn ofalus ar y tablau isod i lenwi'r bylchau drwy adio neu dynnu 1, 10 neu 100. / Look carefully at the tables below to fill the blanks by adding or subtracting 1, 10 or 100.

Tasg 3: Siapiau / Task 3 : Shapes

Beth am adolygu ein gwybodaeth ar siapiau 2D? Ar ôl edrych ar y pwerbwynt, ceisiwch fynd ati i greu llun gan ddefnyddio siapiau 2D yn unig. Edrychwch ar yr esiamplau isod fel enghreifftiau.

How about revising our knowledge on 2D shapes? After looking at the powerpoint, try to create a picture using only 2D shapes. Look at the ideas below as examples.

wl-n-158--perbwynt-siapiau-2d-perbwynt-welsh-cymraeg

Beth am chwarae'r gem didoli a dosbarthu yma er mwyn gwella ein dealltwriaeth?


How about playing this sorting game to improve our understanding?

Thema / Topic:

Tasg 1: Y gofod / Task 1: Space

Gofynnodd y plant llawer o gwestiynau am y gofod i gyd fynd a'n thema 'Ti, Fi ar Byd'. Beth am edrych ar luniau o'r gofod, y planedau a'r lleuad, a cheisio ail greu'r llun yn eich ffordd eich hun. Fe allech chi ddefnyddio paent, sialc, creonau neu ludwaith.


The children asked many questions about space to go with our topic 'Ti, Fi ar Byd' (Me, You and the World). Why not look at pictures of space, the planets and the moon, and try to recreate the picture in your own way. You could use paint, chalk, crayons or make a collage, the choice is yours.

Tasg 2: Newid hinsawdd / Task 2: Climate change

Dewch i wrando ar y fideo yma am newid hinsawdd ac yna ewch ati i ysgrifennu pa 3 pheth gallwn ni wneud i helpu achub y blaned. Beth am fynd ati i greu poster i annog eraill i geisio dilyn eich syniadau chi hefyd? Edrychwch ar y lluniau isod fel esiamplau.


Come and listen to the video about climate change and then write 3 things that you think we could do to help save the planet. How about creating a poster to persuade others to follow your ideas too? Look at the pictures below for examples.

Newid Hinsawdd (1).mp4