25.6.2021

Dydd Gwener / Friday - 25.6.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/21-6-21-25-6-21

Thema / Topic:

Mae'r traeth a'r profiad o fynd ar lan y môr wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf. Gwyliwch y clipiau isod a darllenwch y pwerbwynt i weld rhai o'r newidiadau yna.

Ydych chi'n gallu didoli'r lluniau i brofiadau 'ddoe' neu brofiadau 'heddiw'? Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw beth sydd wedi aros yr un peth?

The beach and the experience of going to the seaside has changed a lot over the years. Watch the clip below and read the Powerpoint to see some of those changes.

Can you sort the pictures into experiences 'then' and experiences 'now'. Did you notice anything that has stayed the same?

Ar lan y mor ddoe a heddiw.ppt

Celf / Art:

Roedd sioeau 'Punch a Judy' yn boblogaidd iawn ar lan y môr amser maith yn nol. Mae sioeau ac adloniannau dal yn digwydd ar lan y môr ond o bosib mewn ffurf wahanol i'r sioeau hyn. Ydych chi'n gallu creu sioe bypedau eich hun? Defnyddiwch 'jync' ailgylchu neu tynnwch luniau ar ddarnau o bapur.


'Punch and Judy' shows were very popular at the seaside a long time ago. Shows and entertainment still happen at the seaside but maybe in different forms to these shows. Can you make puppets for your own show? Use recycling 'junk' or draw pictures on pieces of paper.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Dewch i wylio'r fideo canlynol ar ioga i blant.

Mae'r bennod hon yn canolbwyntio ar anadlu dros y tonnau.

Come and watch the following video on yoga for children.

This episode concentrates on breathing over the waves.

Gwaith cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:


Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer sillafu. / Here are some key words to practise.

neithiwr (last night) / ddoe (yesterday) / echddoe (the day before yesterday) / yfory (tomorrow) / heddiw (today) / diwethaf (last) / nesaf (next)

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Beth am ymarfer eu ffurfio drwy ddefnyddio brigau / dail / blodau / petalau (llygad y dydd neu flodyn menyn) fel y lluniau isod?

How about practising forming the words by using twigs / leaves / flowers / petals (from daisies or buttercups) like the pictures below?

Mathemateg / Mathematics:

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ffracsiynau o rifau. Cofiwch i gyfri fesul y rhif sydd ar waelod y ffracsiwn a gweld sawl bys sydd gennych i fyny.

e.e. 1/4 o 12. Cyfrwch fesul 4 nes eich bod yn cyrraedd 12. Sawl bys sydd gennych i fyny? 3? Da iawn!

Felly 1/4 o 12 = 3.

Ond byddwch yn ofalus! Weithiau mae'r cwestiynau yn gofyn am fwy nag un chwarter / treian / pumed.

This week, we have been working on fractions of numbers. Remember to count in steps of the number that is at the bottom of the fraction and see how many fingers you have up.

e.g. 1/4 of 12. Count in 4's until you reach 12. How many fingers do you have up? 3? Well done!

1/4 of 12 = 3.

But be careful! Sometimes the questions ask for more than one quarter / third / fifth.