21.5.2021

Dydd Gwener / Friday - 21.5.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/24-5-21-28-5-21

Thema / Topic:

Pyllau Glo yng Nghymru/ Coal Mines in Wales

Roedd galw mawr am lo ar gyfer tanwydd i’r diwydiannau copr, gweithfeydd haearn a rheilffyrdd. Defnyddiwyd glo hefyd i gynhesu adeiladau ac i goginio bwyd. Roedd De Cymru yn enwog yn fyd eang am ei byllau glo. Yn y Bari roedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd. Caerdydd oedd yr ail gan fod glo yn cael ei gludo yno ar y rheilffordd.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llai o ofyn am lo wrth i ddiwydiannau ddefnyddio olew a phrynu glo’n rhatach dramor. Dioddefodd y pyllau glo, collodd 140,000 o ddynion eu gwaith wrth i 241 o byllau glo orfod cau.


Coal was an important commodity to fuel the copper, ironworks and railway industries. Another important purpose of coal was to heat buildings as well as to cook food. South Wales became famous globally for its coal mines. Barry was the largest coal exporting port in the world and Cardiff was the second largest as coal was transported there by rail. After the First World War, there was less demand for coal due to industries using oil. Cheaper coal was also imported. The Welsh coal mines suffered. By 1936, 140,000 men had lost their jobs as 241 mines were closed because they were not making enough money.

Cliciwch ar y linc i wylio y fideo i ddysgu mwy am y pyllau glo.

Click on the link to watch the video and learn more about the coal mines.

Plant yn y pyllau glo/ Children in the mines

Amser maith yn ôl, roedd hi’n dderbyniol i blant weithio yn y pyllau glo. Nid oedd hyn yn iach iawn gan eu bod yn gweithio mewn tywyllwch am 12 awr heb awyr iach. Golygai hyn hefyd nad oeddynt yn gallu mynd i’r ysgol. Yn 1843 roedd y llywodraeth wedi stopio plant weithio yn y pyllau glo ac roedd rhaid iddynt fynd i’r ysgol.


A long time ago, it was acceptable for children to be sent down the mines to work. They worked for twelve hours a day in the dark with no fresh air. It also meant that they had no education as they could not go to school. In 1843, a law was passed banning women and children (under the age of 10) from working in coal mines.

Tasg/ Task:

Ar ôl darllen y wybodaeth a gwylio'r fideo a fyddech chi'n hoffi gweithio yn y pyllau glo? Eich tasg chi yw ysgrifennu neu dweud wrth oedolyn rhesymau o blaid ac yn erbyn plant yn gweithio yn y pyllau glo.


After reading the information and watching the video would you like to work in the mines? Your task is to write down or tell an adult reasons for and against children working in the mines.

Celf / Art:

Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar byllau glo. Eich tasg chi yw tynnu llun fel yr enghraifft isod neu creu celf sy'n ymwneud a'r pyllau glo.

This week we are concentrating on coal mines. Your task is to colour the pictures below, draw a picture like the example below or complete your own artwork relating to the mines.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Cliciwch ar y linc i wylio y fideo ac chopio'r gweithgareddau.

Click on the link to watch the video and copy the activities.

Gwaith cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:


Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer sillafu. / Here are some key words to practise.

mae (there is) / merch (girl) / merched (girls) / bachgen (boy) / bechgyn (boys)

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Beth am ymarfer eu sillafu drwy ddefnyddio'r dull 'llythrennau swigod'? Ceisiwch sillafu'r geiriau yn gywir gan ddefnyddio llythrennau swigod fel a welir yn y llun. /

How about practising spelling them by using the method 'bubble letters'? Try spelling the words correctly by using bubble writing like in the picture.

Cofiwch i ymarfer eich priflythrennau hefyd. / Remember to practise your capital letters too.

Mathemateg / Mathematics:

Rydyn ni wedi bod yn edrych ar arian eto'r wythnos hon. Ydych chi'n gallu gweithio allan faint o newid bydd ar ôl prynu’r eitemau? Tynnwch y degau yn gyntaf ac yna cyfrwch nôl yr unedau. Dangoswch pa geiniogau gewch chi. Dewiswch y set fwyaf addas i chi.

We have been looking at money again this week. Can you work out how much change you will have after buying the items? Subtract the tens first then count back the units. Show which coins you will have. Choose the most suitable set for you.

Dewch i chwarae'r gemau isod. / Come and play the games below.