1.2.21 - 5.2.21

Sesiwn dal lan yr wythnos / This week's catch up session:

Bydd sesiwn dal lan byw y dosbarth yn digwydd am 9:15am ar ddydd Llun. Bydd y sesiwn hon yn digwydd ar Google Classroom. Dylech fynd mewn i’ch dosbarth ar Google Classroom am 9:15am a chlicio ar y ddolen. (Efallai na fydd y ddolen yn gweithio os ydych chi’n ei thrio cyn yr amser dechrau.) Cofiwch ddarllen y canllawiau a’r rheolau isod cyn eich sesiwn os gwelwch yn dda.

Our live catch up session will take place at 9:15am on Monday. The session will take place on Google Classroom. You should go into your class on Google Classroom at 9:15am and click on the link. (If you click on the link before this time, it might not work.) Remember to read the instructions and the rules below before your session please.

https://drive.google.com/file/d/1ih5t8U2XVJ2GCxbGyS-M-copQLODnX2u/view

Canllawiau rhieni - Google Classroom.pdf
Rheolau Sesiynau Byw.pdf
Ymuno gyda Google Meet.pdf

Y Siarter Iaith:

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/1-2-21-5-2-21

Gwasanaeth / Assembly:

Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. I ddechrau’r wythnos, dewch i wrando ar wasanaeth gan Mr Dobson, sy’n esbonio mwy am thema’r flwyddyn hon.

It’s Children’s Mental Health Week this week. To start the week, listen to Mr Dobson’s assembly explaining a little more about this year’s theme.

Gwasanaeth Wythnos Iechyd meddwl plant.mp4

Sillafu yr Wythnos / Spellings of the Week

Sillafu / Spelling:

Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer yr wythnos hon. Rydyn ni'n mynd i ganolbwyntio ar eiriau sy'n cynnwys y sŵn 'oe' yr wythnos hon. Cofiwch i'w hymarfer yn ddyddiol a cheisiwch eu sillafu drwy ddefnyddio'r dulliau isod:

Here are some key words to practise this week. We are going to concentrate on words that include the sound 'oe' this week. Remember to practise them daily and practise spelling them by using some of the methods below:


oer (cold) / coeden (tree) / coes (leg) / toes (dough) / croes (cross) / croen (skin) / poeth (hot)

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Ysgrifennwch y gair cymaint o weithiau ag y gallwch chi o amgylch amlinelliad llun neu siâp.

/ Write the word as many times as you can around an outline of a picture or shape.

Ysgrifennwch y gair cymaint o weithiau ag y gallwch chi o fewn un munud.

/ Write the words as many times as you can within one minute.

Llyfr yr Wythnos / Book of the Week

Cwmwl Cai - y stori
Cwmwl Cai - CP.mp4

Dydd Llun 1.2.2021 / Monday 1.2.2021

Gwaith Iaith / Literacy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your language work today.

Iaith 1.2.21.mp4

Shwshaswyn:

Mae hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon, felly yn lle darn darllen, hoffwn ni i chi wylio'r rhaglen ganlynol 'Shwshaswyn', ac yna atebwch y cwestiynau sy'n ei ddilyn.

It is Children's Mental Health Week this week, therefore instead of reading a text, we would like you to watch the following 'Shwshaswyn' programme and ansewr the following questions.


Cwestiynau / Questions:

  1. Beth yw enw'r cwmwl? / What is the cloud's name?

  2. Sut mae'r tywydd yn y bennod hon? / What is the weather like in this episode?

  3. Ble glaniodd y degan? / Where did the toy land?

  4. Pa siap yw'r degan? / What colour is the toy?

  5. Ydy'r tegan yn drwm neu yn ysgafn? / Is the toy heavy or light?

  6. Ydy'r tegan yn suddo neu yn arnofio? / Does the toy sink or float?

7 Beth yw'r degan? / What is the toy?

8. Ble mae Seren yn cuddio? / Where is Seren hiding?

9. Beth mae'r parasol yn gallu gwneud? / What can the parasol do?

Atebion / Answers:

  1. Fflwff

  2. Gwyntog / Windy

  3. Yn y pwll cerrig / In the rock pool.

  4. Cylch / Circle

  5. Ysgafn / Light

  6. Arnofio / Float

  7. Cylch rwber / Rubber ring

  8. Tu ôl i'r parasol / Behind the parasol

  9. Agor a chau / Open and close

Ysgrifennu / Writing:

Gan ei bod hi'n 'Wythnos Iechyd Meddwl Plant' yr wythnos hon, rydyn ni'n mynd i edrych ar waith o dan y thema ' Mynegwch Eich Hun'. Yn stori Cwmwl Cai, mae Cai yn mwynhau bwyta ei frechdan gaws. Ydych chi'n hoffi brechdanau caws? Dewch i ysgrifennu pa fwydydd rydych chi yn hoffi a pha fwydydd dydych chi ddim yn ei hoffi. Defnyddiwch y patrymau iaith ganlynol:

Rydw i yn hoffi.....

Dydw i ddim yn hoffi....

Fy hoff fwyd yw.....

Fy hoff bwdin yw...

Gallwch ddefnyddio'r templed isod os yr hoffech, neu ysgrifennwch yn syth yn eich llyfrau gwaith.

As it is 'Children's Mental Health Week' this week, we are going to look at the theme 'Express Yourself'. In the story 'Cwmwl Cai', Cai enjoys eating his cheese sandwich. Do you like cheese sandwiches? Come and write which foods you do like, and which foods you don't like. Use the following language patterns.

Rydw i'n hoffi... (I like...)

Dydw i ddim yn hoffi... (I don't like...)

Fy hoff fwyd yw... (My favourite food is...)

Fy hoff bwdin yw... (My favourite dessert is...)

You can use the following template if you wish, or write straight into your workbooks.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith mathemateg heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your maths work today.

Maths 1.2.21.mp4

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Rydyn ni'n mynd i edrych ar amser yr wythnos hon. Edrychwch ar y llun isod i fynd dros yr eirfa rydyn ni'n defnyddio wrth ddarllen yr amser. / We will be looking at redaing clocks this week. Look at the image below to revise the words associated with time.

Dewch i chwarae'r gêm ganlynol i ymarfer defnyddio'r eirfa yn gywir cyn mynd ati i gwblhau'r tasgau. / Click on the link below to practise using the correct words before completeing the tasks.

Tasg 1 - Darllen yr amser / Task 1 - Reading the time :

Faint o'r gloch yw hi ar y clociau isod? Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / What is the time on the following clocks? Choose the most suitable set for you.

Tasg 2 - Dydd a Nos / Task 2 - Day and Night :

Ydych chi'n gallu didoli'r gweithgareddau i amser cywir y dydd? Ydych chi'n gallu meddwl am unrhyw beth arall i fynd yn y grwpiau? / Can you group the activities to the correct time of day? Can you think of anything else that fits into the groups?

Thema / Theme:

Cliciwch ar y linc i wrando ar y gân 'Teimladau'.

Click on the link to listen to the 'Teimladau' (Feelings) song.

Fel yr ydych yn gwybod, thema Wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni yw 'Mynegwch Eich Hun'. Gallwn fynegi ein hunain drwy lawer o wahanol ffyrdd. Un o'r ffyrdd yw drwy ein dillad neu steil gwallt.

Tasg: Dyluniwch eich crys-t delfrydol. Dylai gynnwys eich hoff liwiau a lluniau o bethau sydd yn eich gwneud yn hapus.

As you know, this year's theme for Child Mental Health Week is 'Express yourself'. We can express ourselves in many different ways. One of the ways is through our clothes or hairstyle.

Task: Design your ideal t-shirt. It should include your favourite colours and pictures of things that make you happy.

Crysau-T.pdf

Chwaraeon Torfaen / Torfaen Sports:

Gweithgareddau Chwefror / February's Activities:

Mae Swyddogion Datblygu Chwaraeon Torfaen wedi rhoi’r syniadau hyn at ei gilydd ar gyfer mis Chwefror. Faint ohonyn nhw gallwch chi eu gwneud?

Torfaen Sports Development Officers have put this log of activities together for February. How many of them can you complete?

Dydd Mawrth 2.2.2021 / Monday 2.2.2021

Gwaith Iaith / Literacy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your language work today.

Iaith 2.2.21.mp4

Shwshaswyn:

Mae hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon, felly yn lle darn darllen, hoffwn ni i chi wylio'r rhaglen ganlynol 'Shwshaswyn', ac yna atebwch y cwestiynau sy'n ei ddilyn.

It is Children's Mental Health Week this week, therefore instead of reading a text, we would like you to watch the following 'Shwshaswyn' programme and ansewr the following questions.

Cwestiynau / Questions

1) Beth sydd gan y Capten? / What does the Captain have?

2) Pa fath o sŵn ydy'r can dŵr yn ei wneud? / What kind of sound does the watering can make?

3) Beth arall ydy'r can dŵr yn gallu ei wneud? / What else can the watering can do?

4) Beth sy'n digwydd i'r hadau os ydych chi'n dyfrio'r pridd? / What happens to the seeds if you water the soil?

5) Pwy sy'n plannu’r hadau? / Who is planting the seeds?

6) Pa flodyn sydd wedi tyfu? / What flower has grown?

7) Mae'r dant y llew yn grwn fel beth? / The dandelion is round like a what?

8) Beth sy'n digwydd i hadau dant y llew? / What happens to the dandelion's seeds?

Atebion / Answers

1) Can dŵr / Watering can

2) Drwm / Drum

3) Dyfrio'r pridd / Water the soil

4) Mae blodau yn tyfu / Flowers grow

5) Seren

6) Dant y llew / Dandelion

7) Pêl / Ball

8) Hedfan i ffwrdd / Fly away

Ysgrifennu / Writing

Yn stori 'Cwmwl Cai', mae Cai yn defnyddio ei hoff degan i'w helpu i dawelu gyda'r nos. Ydych chi'n cael trafferth cysgu weithiau? Beth am dynnu llun eich hoff fwyd a'ch hoff degan a'u labelu? Mae un Cai wedi ei wneud i chi isod fel esiampl.

Gallwch ddefnyddio'r templed isod, neu tynnwch luniau yn eich llyfrau gwaith eich hunain.

In the story 'Cwmwl Cai', Cai uses his favourite toy to help him focus and stay calm during the night. Do you have trouble sleeping sometimes? How about drawing a picture of your favourite food and your facourite toy and labelling them? Cai's has been completed as an example.

You can use the template below , or draw pictures in your workbooks yourselves.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith mathemateg heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your maths work today.

Maths 2.2.21.mp4

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Defnyddiwch y wybodaeth yma eto i'ch helpu chi gyda'r dasg heddiw. / Use this infoarmation again to help you with today's task.

Tasg 1 - Dangos yr amser / Tasg 1 - Show the time :

Darllenwch yr amser sydd o dan bob cloc ac yna lluniwch y bysedd mawr a bach yn y llefydd cywir. Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / Read the time under each clock then draw the big and small hands in the correct places. Choose the most suitable set for you.

Gallwch chi ddangos yr amseroedd fel yn y lluniau isod hefyd. / You can show the times like in the pictures below too.

Gwrandewch ar y gan 'Amser' gan Cyw. / Listen to the song ' Amser' by Cyw.

Tasg 2 - Amseroedd y dydd / Task 2 - Times of the day :

Yn y gân 'Amser' gan Cyw, maen nhw'n dangos pa amser maen nhw'n cwblhau gweithgareddau gwahanol. Ydych chi'n gallu dangos amseroedd eich diwrnod chi? Pa amser ydych chi'n deffro, bwyta a mynd i gysgu a.y.b? / In the song 'Amser' by Cyw, they show what time they complete different activities. Can you show the times of your day? What time do you wake up, eat and go to sleep etc?

Thema / Theme:

Mynegi teimladau / Expressing feelings

Dewch i wylio sut yr ydym yn mynegi ein teimladau gyda'n cyrff.

Cymerwch ran yn y gêm 'Helo, Shwmae.'

Come and watch how we express our feelings through our bodies.

Take part in the 'Helo, Shwmae' game.

Map Meddwl / Mind Map

Dewiswch emosiwn a chreu map meddwl yn dangos y pethau sydd yn gwneud i chi deimlo'r ffordd honno.

Dyma enghraifft o fap meddwl o'r pethau a all wneud i chi deimlo yn hapus.

Choose an emotion and create a mind map showing the things that make you feel that way.

Here is an example of a mind map showing the things that could make you feel happy.

Map meddwl hapus.pdf
emosiwn.pdf
emotions.pdf
Map meddwl.pdf

Dydd Mercher 3.2.2021 / Wednesday 3.2.2021

Gwaith Iaith / Literacy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your language work today.

Iaith 3.2.21.mp4

Shwshaswyn:

Mae hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon, felly yn lle darn darllen, hoffwn ni i chi wylio'r rhaglen ganlynol 'Shwshaswyn', ac yna atebwch y cwestiynau sy'n ei ddilyn.

It is Children's Mental Health Week this week, therefore instead of reading a text, we would like you to watch the following 'Shwshaswyn' programme and ansewr the following questions.


Cwestiynau / Questions

  1. Beth sydd wedi denu sylw Fflwff heddiw? / What has caught Fflwff's attention today?

  2. Sut mae'r blodyn yn symud? / How does the flower move?

  3. Sawl petal sydd ar y blodyn? / How many petals are on the flower?

  4. Beth sy'n gwneud y swn gwichian? / What makes the squeaking noise?

  5. Ble glaniodd y Capten? / Where did the Captain land?

  6. Beth sydd gan Seren? / What does Seren have?

Atebion / Answers

  1. Blodyn / A flower

  2. Yn ôl ac ymlaen / Backwards and forwards

  3. 6

  4. Siglen / The swing

  5. Mewn pwll o fwd / In a muddy puddle

  6. Esgid rowlio / A roller skate


Ysgrifennu / Writing

Yn y stori 'Cwmwl Cai', mae Cai yn disgrifio teimlo'n 'drwm fel eliffant'. Ydych chi yn teimlo fel hyn weithiau? Beth am geisio cymharu ein teimladau gwahanol fel anifeiliaid gwahanol? Edrychwch ar y siart emosiynau isod i'ch helpu.

Gallwch ddefnyddio'r templed isod, neu beth am ysgrifennu brawddegau eich hunain yn eich llyfrau gwaith?

In the story 'Cwmwl Cai', Cai describes feeling 'heavy like an elephant'. Do you feel like this sometimes? How about trying to compare your different feelings with different animals? Look at the emotion chart below to help you.

You may use the template below, or how about writing your own sentences in your workbooks?

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith mathemateg heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your maths work today.

Maths 3.2.21.mp4

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Heddiw rydyn ni'n mynd i symud ymlaen i edrych ar glociau digidol. Edrychwch ar y llun isod i weld sawl munud sydd mewn awr, hanner awr, chwarter awr a tri chwarter awr a sut i gofnodi ar gloc digidol. / Today we are moving on to digital clocks. Look at the image below to see how many minutes are in an hour, half hour, quarter of an hour and three quarters of an hour, and how to record it on a digital clock.

Pan rydyn ni'n darllen cloc digidol, rydyn ni'n darllen o'r dde i'r chwith. e.e. 7:15, mae'r 15 yn dangos i ni taw chwarter wedi 7 yw'r amser. / When we read a digital clock, we read from right to left. e.g 7:15, the 15 shows that the time is quarter past 7.


Mae 9.45 yn dweud wrthon ni taw chwarter i 10 yw hi, mae 45 munud o'r 9fed awr wedi mynd, a'r awr nesaf yw 10. / 9.45 tells us that it is quarter to 10, 45 minutes of the 9th hour has passed and the next hour is 10.


Tasg 1 - Faint o'r gloch yw hi? / Task 1 - What's the time? :

Faint o'r gloch yw hi ar y clociau isod? Defnyddiwch y wybodaeth uchod i'ch helpu chi. Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / What is the time on the following clocks? Use the information above to help you. Choose the most suitable set for you.

Chwaraewch y gêm isod cyn mynd ati i gwblhau tasg 2. / Play the game below before completing task 2.

Tasg 2 - Cyfateb yr amseroedd / Tasg 2 - Match the times.

Cyfatebwch y cloc analog gyda'r cloc digidol sy'n dangos yr un amser. / Match the analogue clock with the digital clock that shows the same time.

Thema / Theme:

Meddwlgarwch Plu Eira / Snowflake Mindfulness


Dewch i ddychmygu eich bod yn gorwedd yn yr eira mewn sesiwn Meddwlgarwch gydag Emma.

Come and imagine yourself lying in the snow in a Mindfulness session with Emma.


Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y fideo i greu plu eira papur hardd.

Cofiwch anfon llun i ni ar 'Seesaw' neu dudalen 'Trydar' (@ygcwmbran) yr ysgol.

Follow the instructions on the video to create beautiful paper snowflakes.

Remember to send us a picture on 'Seesaw' or the school's Twitter page (@ygcwmbran).


Dydd Iau 4.2.2021 / Thursday 4.2.2021

Gwaith Iaith / Literacy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your language work today.

Iaith 4.2.21.mp4

Shwshaswyn:

Mae hi'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon, felly yn lle darn darllen, hoffwn ni i chi wylio'r rhaglen ganlynol 'Shwshaswyn', ac yna atebwch y cwestiynau sy'n ei ddilyn.

It is Children's Mental Health Week this week, therefore instead of reading a text, we would like you to watch the following 'Shwshaswyn' programme and ansewr the following questions.


Cwestiynau / Questions

  1. Beth yw teitl y bennod yma? / What is this episode's title?

  2. Beth ddigwyddodd i'r swigen pan aeth Fflwff yn rhy agos? / What happened to the bubble when Fflwff went too close?

  3. Pwy sydd wedi bod yn chwythu'r holl swigod? / Who has been blowing the bubbles?

  4. Pwy sy'n rheoli'r swigen enfawr yn yr awyr? / Who is controlling the big bubble in the air?

  5. Gyda beth mae Seren yn chwarae wedyn? What does Seren play with afterwards?

  6. I ble aeth y bêl? / Where did the ball go?

Atebion / Answers

  1. Swigod / Bubbles

  2. Popiodd y swigen / The bubble popped

  3. Capten

  4. Seren

  5. Pêl / A ball

  6. I mewn i'r gôl / Into the goal

Ysgrifennu / Writing

Pan mae Cai yn teimlo fod pethau ychydig yn ormod, mae'n cymryd amser i edrych y tu allan i'w ffenest. Mae'n dilyn amlinelliad y mynyddoedd mae'n gweld ac mae hyn yn ei helpu i weld a theimlo yn gliriach. Ydych chi weithiau yn teimlo fel hyn?

Beth am dynnu llun o'r hyn a welwch chi y tu allan i'ch ffenest ac ysgrifennwch pa bethau sy'n eich helpu chi i weld yn gliriach?

Mae esiampl wedi'i greu isod i chi. Gallwch ddefnyddio'r dempled isod, neu tynnwch lun eich hunain yn eich llyfrau gwaith / ar ddarn o bapur.

When Cai feels slightly overwhelmed, he takes the time to look outside his window. He follows the outline of the mountains that he can see and this helps him see and feel clearer. Do you sometimes feel like this?

How about drawing what you can see from your window an write what things help you to see clearer?

An example is shown below. You can use the template below, or draw a picture in your workbooks / on a piece of paper.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Cliciwch ar y fideo i weld cyflwyniad byr o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith mathemateg heddiw.

Click on the video to see a short introduction on what you need to do for your maths work today.

Maths 4.2.21.mp4

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Defnyddiwch y wybodaeth yma ar clociau digidol eto heddiw i gwblhau'r dasg. / Use this information on digital clocks again today to complete the task.

Tasg 1 - Dangos yr amser / Task 2 - Show the time:

Darllenwch yr amser sydd o dan bob cloc ac yna ysgrifennwch yr amser yn y ffurf digidol. Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / Read the time under each clock then write the time in the digital form. Choose the most suitable set for you.

Chwaraewch y gêm isod cyn mynd ati i gwblhau tasg 2. / Play the game below before completing task 2.

Tasg 2 - Llenwch y bylchau. / Task 2 - Fill in the gaps :

Llenwch y bylchau i ddangos yr un amser ar y ddau cloc. / Fill in the gaps to show the same time on both clocks.

Thema / Theme:

Dydd Miwsig Cymru 2021 / Welsh Language Music Day 2021

Fel y gwyddoch, mae hi'n Ddydd Miwsig Cymru yfory. Diwrnod i ddathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg.

Beth am ddechrau'r dathlu yn gynnar a dawnsio o gwmpas y gegin? Mae cerddoriaeth ar y dolenni isod i chi fwynhau yn eich disgo. Cofiwch anfon llun i ni ar 'Seesaw' neu dudalen 'Trydar' (@ygcwmbran) yr ysgol.

As you know, it's Welsh Language Music Day tomorrow. It is a day to celebrate all forms of Welsh Language music.

Why not start the celebrations early and have a dance around your kitchen? There's music on the links below for you to enjoy in your disco. Remember to send us a picture on 'Seesaw' or the school's Twitter page (@ygcwmbran).

Tasg: Dewch i gwrdd â chymeriadau doniol 'Dydd Miwsig Cymru'. Beth am greu un eich hunain? Dylai'r cymeriad fod yn lliwgar ac yn gwneud rhywbeth i'w wneud a cherddoriaeth. Anfonwch lun ohono i ni ar 'Seesaw' neu dudalen 'Trydar' (@ygcwmbran) yr ysgol.

Task: Meet the funny 'Dydd Miwsig Cymru' mascots. Why not create your own? The character should be colourful and doing something to do with music. Send us a picture of your mascot on 'Seesaw' or the school's Twitter page (@ygcwmbran).

Digwyddiad Menter iaith BGTM / BGTM's Welsh language event:

Dydd Gwener Lles / Well-being Friday:

Lles / Well-being:

Dewch i wrando ar y stori, ‘Weithiau, dwi'n teimlo'n heulog’, yn cael ei darllen. Fersiwn Gymraeg o'r stori:

Listen to the story, ‘Sometimes, I feel sunny', being read.

The English version of the story:

Cymraeg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4
Saesneg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4

Thema ein sesiwn lles yr wythnos hon yw ‘emosiynau’.

Mae’r stori yn cyfeirio at wahanol emosiynau a’r pethau sy’n gwneud i ni deimlo fel hyn. Weithiau mae’n anodd i ni ddangos ein hemosiynau a dydy rhai ddim yn hoffi trafod eu hemosiynau.

Creu cymeriadau emosiynau:

Eich tasg chi yw i greu cymeriadau emosiynau fel y rhai isod gan ddefnyddio pethau sydd gyda chi yn y tŷ. Gallwch ddefnyddio y rhain pan rydych chi eisiau dangos eich emosiynau.


The theme of this week’s well-being session is ‘emotions’.

The story refers to different emotions and the things that make us feel like this. Sometimes, we find it hard to express and show our emotions.

Creating emotion characters:

This task will help you show and explain your emotions. Make emotion characters similar to the ones below using things that you have at home.

Addysg Gorfforol a Meddwlgarwch:

Physical Education and Mindfulness:

Beth am gymryd rhan mewn sesiwn Addysg Gorfforol heddiw? Ceir nifer o syniadau am weithgareddau ar y wefan hon. Mae ail wers Meddwlgarwch Mr Dobson ar gael ar y wefan hefyd.

How about taking part in a P.E session today? There are many ideas for activities on this website. Mr Dobson’s second Mindfulness lesson is on the website too.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/tudalen-addysg-gorfforol-ygc/hafan-home

Celf / Art:

Tasg: Cliciwch ar y ddolen er mwyn dysgu sut i arlunio wynebau yn dangos gwahanol emosiynau. Beth am greu mwgwd ‘emoji’, tynnu llun o’ch hunain yn ei wisgo a’i anfon i ni?

Task: Click on the link to learn how to draw faces showing different emotions. Why not create an ‘emoji’ mask, take a picture of yourself wearing it and send it to us?

Tasg ychwanegol / Additional task:

Cofiwch am y digwyddiad hwn sy’n fyw, bob prynhawn dydd Gwener:


Remember about this event, which takes place live, every Friday:

Dydd Miwsig Cymru / Welsh Language Music Day:

Am 12:30 heddiw, mae’r Urdd yn cynnal disgo yn fyw o Lan-llyn i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn ymuno mewn.

At 12:30 today, the Urdd will be holding a live disco from Glan-llyn to celebrate Dydd Miwsig Cymru. Click on the link below at 12:30 to join in.

Mwynhewch y penwythnos!

Enjoy the weekend!