3/12/21

3/12/21:

Iaith - Llythyren yr wythnos / Language - Letter of the week:

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn adolygu'r llythrennau melyn Tric a Chlic i gyd. Cliciwch ar y linciau isod i wrando ar y ganeuon eto ac i ddysgu'r ffordd gywir i'w ffurfio.

This week, we have been revising all the yellow Tric a Chlic letters. Click on the links below to listen to the songs again and to learn the correct way to form them.

Ydych chi'n gallu gweld y llythrennau yma o gwmpas y tŷ / eich ardal leol? Beth am gael cystadleuaeth gyda rhywun yn y tŷ i weld pwy sy'n gallu ffeindio llythyren yn gyntaf?

Can you see these letters around the house / your local area? Why not have a competition with someone in your house to see who can find a letter first?

Mathemateg / Mathematics :

Rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar ddysgu dyddiau'r wythnos yr wythnos hon drwy ganu'r gân 'dyddiau'r wythnos' ar ddechrau pob dydd. Beth am ganu adref gyda’ch gilydd? Ydych chi'n gallu defnyddio'r gân i helpu gweithio mas pa ddiwrnod fydd hi yfory?

We have been concentrating on learning the days of the week this week by singing the 'days of the week' song at the start of every day. How about singing it at home together? Can you use the song to help you work out what day it will be tomorrow?


Dyma fersiwn gwahanol gan Cyw.

Here is another version by Cyw.

Lliw yr wythnos / Colour of the week:


Amryliw / enfys oedd lliw'r wythnos yr wythnos hon. Mae'r plant yn hoff iawn o'r gân gyferbyn, beth am ganu gyda'ch gilydd?

Multicoloured / rainbow was the colour of the week this week. The children are very fond of the song opposite, how about singing it together?

Ydych chi'n gallu creu enfys gan ddefnyddio lliwiau pethau gwahanol o gwmpas y tŷ?

Can you make a rainbow using different coloured things from around the house?