1/10/21

1/10/21:

Iaith - Llythyren yr wythnos / Language - Letter of the week:

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn edrych ar y llythyren 'p'. Cliciwch ar y linc isod i wrando ar y gân ac i ddysgu'r ffordd gywir i'w ffurfio.

This week, we have been looking at the letter 'p'. Click on the link below to listen to the song and to learn the correct way to form it.

Ydych chi'n gallu ymarfer ffurfio'r llythyren 'p' mewn tywod neu mewn reis?

Can you practise forming the letter 'p' in sand or in rice?

Mathemateg / Mathematics :

Rydyn ni wedi parhau i ymarfer ein sgiliau cyfri ac adnabod rhifau 1 - 5 / 10 yr wythnos hon. Cliciwch ar y linc isod i ganu caneuon gyda Miss Emery.

We have been continuing to practise counting and recognising numbers 1 - 5 / 10 this week. Click on the link below to sing songs with Miss Emery.

Ydych chi'n gallu sylwi ar rifau yn y tŷ? Beth am chwarae gem guddio rhifau o gwmpas y tŷ? Casglwch rifau sydd ar ddarnau o bapur neu rifau pren ac yna gwaeddwch y rhifau allan pan fyddwch wedi dod o hyd iddynt.

Can you notice numbers in the house? How about playing a game of hiding numbers around the house, collect numbers that are on pieces of paper or wooden numbers then shout out the number when you have found them?

Lliw yr wythnos / Colour of the week

Melyn oedd lliw'r wythnos yr wythnos hon. Ydych chi'n gallu arogli neu flasu bwydydd melyn? E.e. lemwn / banana ayyb.

Yellow was the colour of the week this week. Can you smell or taste yellow foods? I.e lemon / banana etc.