Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn edrych ar y llythyren 'c'. Cliciwch ar y linc isod i wrando ar y gân ac i ddysgu'r ffordd gywir i'w ffurfio.
This week, we have been looking at the letter 'c'. Click on the link below to listen to the song and to learn the correct way to form it.
Rydyn ni wedi bod yn edrych ar gartrefi'r wythnos hon, 'c' am 'cartref'. Ydych chi'n gallu creu llun o'ch cartref / tŷ chi? Pa fath o dŷ ydych chi'n byw mewn?
This week we have been looking at homes, 'c' am 'cartref' (home). Can you draw a picture of your home / house? What type of house do you live in?
Rydyn ni wedi bod yn adnabod rhifau mas o drefn yr wythnos hon. Ydych chi'n gallu darllen ac adnabod y rhif/au eich drws blaen, pa rif tŷ ydych chi'n byw mewn?
We have been recognising numbers out of order this week. Can you read and recognise the number/s on your front door, what number house do you live in?
Ydych chi'n gallu adnabod ac enwi'r rhifau wrth chwarae gêm fel yr isod?
Can you recognise and name the numbers by playing a game like below?
Porffor oedd lliw'r wythnos yr wythnos hon. Roedd y plant wedi mwynhau gweld y lliwiau coch a glas yn cymysgu i greu porffor. Ydych chi'n gallu chwilio am bethau porffor o amgylch y tŷ / tu allan? Dyma beth oedd yn yr ysgol.
Purple was the colour of the week this week. The children enjoyed seeing the colours red and blue mix together to make purple. Can you find purple objects around the house / outside? Here's what we found in school.
Rydyn ni wedi bod yn dysgu'r gân 'Adeiladu tŷ bach' yr wythnos hon i gyd-fynd â'r thema cartrefi / tai. Beth am ganu i'ch rhieni?
We have been learning the song 'Adeiladu tŷ bach' this week to go along with the theme homes / houses. How about singing it to your parents?