14/1/22

14/1/22:

Iaith - Llythyren yr wythnos / Language - Letter of the week:

Rydyn ni'n mynd i ddechrau edrych ar ein llythrennau melyn Tric a Chlic mewn mwy o fanylder. Mae'r plant yn adnabod y llythrennau yn wych erbyn hyn, ond nawr mae angen i ni weithio ar feddwl am eirfa sy'n dechrau gyda'r ffonem a chlywed y ffonem ar ddechrau geiriau.

We are going to start looking at our yellow Tric a Chlic letters in more detail. The children can recognise the letters brilliantly by now, but we now need to work on bringing to mind words that begin with the sound and hearing the sound at the beginning of words.

Tasg / Task :

Ydych chi'n gallu meddwl am bedwar gair (geirfa Cymraeg yn unig) sy'n dechrau gyda'r sain 'm' a thynnu llun ohonyn nhw? Fedrwch chi eu cynnwys mewn brawddeg? e.e. Mae mam yn hoffi mefus.

Can you think of four words (please ensure that the vocabulary is in Welsh) that begin with the 'm' sound and draw a picture of them? Can you include them in a sentence? e.g. Mae mam yn hoffi mefus. (Mam likes strawberries.)

Dyma enghraifft o eiriau i'ch helpu. / Here are examples of words to help you.

HER / CHALLENGE:

Ceisiwch ddarllen y geiriau isod. Mae'r llythrennau o'r cam melyn Tric a Chlic.

Try and read the words below. The letters are from the Tric a Chlic yellow stage.

Mathemateg / Mathematics :

Rydyn ni wedi bod yn trefnu eitemau o ran maint yr wythnos hon. Rydyn ni wedi dysgu'r eirfa 'mwyaf' a 'lleiaf'. Ydych chi'n gallu trefnu pethau sydd gyda chi yn y tŷ / yn yr awyr agored o'r lleiaf i'r mwyaf? Mae lluniau isod i helpu.

We have been ordering items in regards to their size this week. We have learnt the vocabulary 'mwyaf' (biggest) and 'lleiaf' (smallest). Can you order things that you have in your house / outside from the smallest to the biggest? There are pictures below to help.

Dewch i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 100 mlwydd oed

Come and celebrate the Urdd's 100th birthday

Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar y gân isod i geisio'i dysgu ar gyfer pen-blwydd yr Urdd.

We have been listening to the song below to try and learn it for the Urdd's birthday.