28/1/22

28/1/22:

Iaith - Llythyren yr wythnos / Language - Letter of the week:

Rydyn ni'n mynd i ddechrau edrych ar ein llythrennau melyn Tric a Chlic mewn mwy o fanylder. Mae'r plant yn adnabod y llythrennau yn wych erbyn hyn, ond nawr mae angen i ni weithio ar feddwl am eirfa sy'n dechrau gyda'r ffonem a chlywed y ffonem ar ddechrau geiriau.

We are going to start looking at our yellow Tric a Chlic letters in more detail. The children can recognise the letters brilliantly by now, but we now need to work on bringing to mind words that begin with the sound and hearing the sound at the beginning of words.

Tasg / Task :

Ydych chi'n gallu meddwl am bedwar gair (geirfa Cymraeg yn unig) sy'n dechrau gyda'r sain 'p' a thynnu llun ohonyn nhw? Fedrwch chi eu cynnwys mewn brawddeg? e.e. Mae Patrick yn prynu pensil pinc.

Can you think of four words (please ensure that the vocabulary is in Welsh) that begin with the 'p' sound and draw a picture of them? Can you include them in a sentence? e.g. Mae Patrick yn prynu pensil pinc. (Patrick buys a pink pencil.)

Dyma enghreifftiau o eiriau i'ch helpu. / Here are examples of words to help you.



Ydych chi'n gallu ymarfer ffurfio'r llythyren p?

Can you practise forming the letter p?

Penwythnos gwylio adar / Big Garden Birdwatch

Y penwythnos hwn, mae’n benwythnos gwylio adar yn yr ardd. Cyfrwch yr adar rydych chi’n eu gweld yn eich gardd, o’ch balconi neu yn eich parc lleol am awr rhwng 28 a 30 Ionawr. Cadwch restr o’r adar rydych chi’n eu gweld!

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan.

This weekend is the Big Garden Birdwatch. Simply count the birds you see you in your garden, from your balcony or in a local park for one hour between 28 and 30 January. Keep a record of the birds you see.

For more information, visit the website.