19/11/21

19/11/21:

Iaith - Llythyren yr wythnos / Language - Letter of the week:

Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn edrych ar y llythyren 'r'. Cliciwch ar y linc isod i wrando ar y gân ac i ddysgu'r ffordd gywir i'w ffurfio.

This week, we have been looking at the letter 'r'. Click on the link below to listen to the song and to learn the correct way to form it.

Ydych chi'n gallu ymarfer ffurfio'r llythyren 'r' gyda botymau neu ddarn o raff?

Can you practise forming the letter 'r' with buttons or a piece of rope?


Mae 'r' am 'roced'. Beth am greu roced enw fel yn y llun gyferbyn?

'r' is for 'rocket'. How about making a name rocket like the picture opposite.

Mathemateg / Mathematics :

Rydyn ni wedi bod yn dechrau edrych ar arian yr wythnos hon. Mae'r plant yn gyfarwydd ag 1c ac yn ei ddefnyddio wrth chwarae rôl. Beth am chwarae gydag arian yn y tŷ, yn talu am eitemau gydag 1 ceiniogau hyd at 10c? Ydych chi'n gallu helpu oedolyn talu am bethau mewn siop?

We have started looking at money this week. The children are familiar with '1c' (1p) and have been using it whilst role playing. How about playing with money in the house, paying for items with 1p up to 10p? Can you help an adult to pay for things in a shop?


Defnyddion ni'r gêm yma i helpu ni. Dewiswch yr opsiwn 'one coin' ac yna'r '1p'.

We used this game to help us. Choose the 'one coin' option and then '1p'.

Lliw yr wythnos / Colour of the week:

Pinc oedd lliw'r wythnos yr wythnos hon. Roedd y plant wedi mwynhau cymysgu powdr gwyn gyda phowdr coch i wneud pinc. Pa bethau pinc ydych chi'n gallu gweld yn eich ardal leol?

Pink was the colour of the week this week. The children enjoyed mixing white power with red powder to make pink. What pink things can you see in your local area?