Tymor 2 / Term 2

Dydd Llun / Monday 4-01-21

Iaith / Literacy:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

Y Dasg / Task:

Heddiw edrychon ni ar glawr y stori, 'Pwtyn'. Yfory fe fyddwn ni'n darllen y stori gyfan.

Eich tasg chi heddiw, yw i gopio'r tabl isod i'ch llyfrau gwaith cartref.

Yna fedrwch chi restru tri gair sydd yn cychwyn gyda phob un o'r llythrennau yn yr enw Pwtyn?

Hynny yw, fedrwch chi restru tri gair sydd yn cychwyn gyda'r llythrennau canlynol: p, w, t, y, n ?

Today we looked at the cover of the story 'Pwtyn'. Tomorrow we will be reading the full story.

Today's task is to copy the table below into your homework books, Can you then list three words that begin with each of the letters that form the title of this stori- Pwtyn.

Can you list three words that begin with the following letters: p, w, t, y, n.

gwers iaith dydd Llun.mp4

*Her/Challenge

Beth am lunio cwpl o frawddegau gan ddefnyddio rhai o'r geiriau rydych wedi'u rhestru?

How about forming a few sentences, using some of the words that you have listed?

Mathemateg / Mathematics:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

gwers siap dydd llun.mp4

Y Dasg / Task:

Cliciwch ar y linc isod a sganiwch y codau QR ac yna ysgrifennwch enw’r siapiau sydd yn ymddangos. Yna ceisiwch dynnu llun y siapiau yn eich llyfrau gwaith cartref neu ar yr ap Seesaw.

Os nad oes yr ap ‘QR scanner’ gyda chi, mae’n bosib ei lawrlwytho am ddim.

Click on the link below and scan the QR codes and write down the name of each shape that appears. Then try and draw the shapes in your homework books or on the Seesaw app.

If you do not have the QR code reader app, it’s possible to download it free of charge.

codau qr newydd.pdf

Beth am wrando ar gân siapiau Cyw? How about listening to Cyw's shape song?

Cliciwch ar y linc isod/Click on the link below.

Gwaith Thema / Topic Work:

Cwmwl Gobaith / Hope Cloud

Mae’r flwyddyn 2020 wedi bod yn un gwahanol iawn. Gwnewch lun o gwmwl gobaith a dangoswch i ni sut y byddech yn hoffi gweld y flwyddyn 2021. Ydych chi eisiau gweld blwyddyn wahanol i 2020? Sut ydych chi eisiau i 2021 fod yn wahanol?

The year 2020 has been a very different one to the usual. Draw a hope cloud and show us how you would like to see 2021. Do you want to see a different year to 2020? How do you want 2021 to be different?

Dydd Mawrth / Tuesday 5-01-20

Iaith / Literacy:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

iaith dydd mawrth .mp4

Y Dasg / Task:

Nawr rydyn ni wedi darllen y stori, 'Pwtyn', ewch ati i ateb y cwestiynau isod yn eich llyfrau gwaith cartref.

Now we have read the story, 'Pwtyn', answer the questions below in your homework books.

Tasg Ychwanegol/Additional Task

Fedrwch chi nawr ddod o hyd i chwe gair o'r stori yn y chwilair isod?

Can you now find six words from the story in the wordsearch below?

Mathemateg / Mathematics:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

maths dydd Mawrth.mp4

Y Dasg / Task:

Ewch ati i chwilota am siapiau 2D gwahanol o amgylch y tŷ.

Sawl siâp fedrwch chi ffeindio?

Yna fedrwch chi dynnu llun y pethau gwahanol a’u labelu, fel y gweler yn yr enghraifft gerllaw?

Neu os hoffech, gallwch dynnu llun y siapiau gwahanol gyda chamera neu ffon ac yna lanlwytho a’u labelu ar yr ap Seesaw.

Now go on a search around your home for different 2D shapes.

How many shapes can you find?

Could you draw and label the different shapes you find? Please see the example to the right

Alternatively, you could take pictures of the shapes you find with a camera or phone and then upload to the Seesaw app. You could then label the pictures on Seesaw.

Gwaith Thema / Topic Work:

Didoli eitemau ailgylchu / Sorting recyclable materials.

Didoli eitemau ailgylchu

Didoli eitemau ailgylchu.

Mae ailgylchu yn rhywbeth pwysig iawn i ni ei wneud i helpu'r byd a'r amgylchedd. A allwch chi ddidoli'r eitemau hyn yn ei lleoliad ailgylchu cywir?

Wrth wneud hyn gallwch wrando ar gân ailgylchu cyw.

Sorting recyclable materials.

Recycling is a very important thing for us to do to help the world and the environment. Can you sort these items in their correct recycling location?

While doing this you can listen to Cyw's recycling song.

Dydd Mercher / Wednesday 6-01-20

Iaith / Literacy:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

gwers iaith dydd Mercher.mp4

Y Dasg / Task:

Tynnwch lun o lygoden a chwilen yn eich llyfrau gwaith cartref.

Darllenwch yr eirfa yn y tabl isod ac yna ysgrifennwch y geiriau sy'n cynnwys y llythyren 'll' yn y llygoden a'r geiriau sy'n cynnwys 'ch' yn y chwilen.

Draw a picture of a mouse and a beetle in your homework books.

Read the words in the table below and then write the words that contain the letter 'll' in the mouse (llygoden) and the words that contain the letter 'ch' in the beetle (chwilen).

*Her/Challenge

Fedrwch chi rhestru mwy o eiriau sy'n cynnwys llythyren 'll'?

Can you list more words that contain the double letter 'll'?

Mathemateg / Mathematics:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

Maths siap dydd Mercher.mp4

Tasg 1 / Task 1:

Nodwch enwau'r chwe siâp 3D isod yn eich llyfrau gwaith cartref.

Write the names of these six 3D shapes in your homework books.

Tasg 2 / Task 2:

Edrychwch ar y llun isod. Sawl siâp 3D fedrwch chi weld?

Copïwch a chwblhewch y tabl isod yn eich llyfrau gwaith cartref. Nodwch sawl un o bob siâp 3D sydd yn y llun. Mae'r un cyntaf wedi ei wneud yn barod.

Look at the picture below. How many 3D shapes can you see?

Copy and complete the table into your homework books. Note how many of each 3D shape is in the picture. The first shape has already been done for you.

Beth am wrando ar gân siapiau 3D Cyw?/ How about listening to Cyw's 3D shape song?

Cliciwch ar y linc isod/Click on the link below.

Thema / Topic:

Diwrnod adar y byd / National Bird Day

WL-T-T-5279-Perbwynt-Fideo-Adar-Bach-yr-Ardd
Adar yr ardd - cyfri.pdf

Ddoe roedd hi'n ddiwrnod adar y byd. Diwrnod i gydnabod pwysicrwydd adar. Tra bod adar yn anhygoel, maen nhw hefyd yn grŵp anifeiliaid enfawr sydd dan fygythiad penodol. Ac enwyd yr ymadrodd “canary in the coal mine” ar ôl adar am reswm - nhw yw baromedrau iechyd amgylcheddol ein planed. Mae'r ffaith bod cymaint o rywogaethau adar dan fygythiad diolch i'r fasnach anifeiliaid anwes anghyfreithlon, afiechyd a cholli cynefinoedd yn golygu ei bod hi'n bwysicach nag erioed i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o anghenion adar. Mae goroesiad cannoedd o rywogaethau yn dibynnu arno! Gwyliwch y pwerbwynt uchod i ddysgu mwy am adar yr ardd.

Beth am i chi ddefnyddio neu greu taflen tebyg i hon i gyfri'r adar sydd yn eich gardd chi?

T-T-5279-Birds-Video-Powerpoints
Garden Birds Count.pdf

Yesterday was World Bird Day. A day to recognize the importance of birds. While birds are amazing, they are also a huge group of animals that are under particular threat. And the phrase "canary in the coal mine" was named after birds for a reason - they are the barometers of our planet's environmental health. The fact that so many bird species are threatened by the illegal pet trade, disease and habitat loss means that it is more important than ever to raise public awareness of the needs of birds. The survival of hundreds of species depends on it! Watch the power point above to learn more about garden birds.

Why not use or create a leaflet similar to this one to count the birds in your garden?

Dydd Iau / Thursday 7-01-20

Iaith / Literacy:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

iaith dydd Iau.mp4

Tasg 1 / Task 1:

Tynnwch lun o Pwtyn y llygoden.

Yna fedrwch chi ei labelu? Defnyddiwch yr eirfa yn y tabl i'ch helpu, os oes angen.

Draw a picture of Pwtyn the mouse.

Can you label the different parts of Pwtyn? Use the words in the table, if needed.

Tasg 2 / Task 2:

Yn ein stori'r wythnos hon, Pwytyn oedd hoff degan Twm.

Beth yw eich hoff degan chi?

Fedrwch chi nodi beth yw eich hoff degan gan ddilyn yr enghraifft yn y llun gerllaw?

Nodwch beth yw eich hoff degan a pham gan ddilyn y patrwm brawddeg isod;

Fy hoff degan yw....... oherwydd.......

Yn olaf, tynnwch lun o'ch hoff degan.

In our story this week, Pwytyn was Twm's favourite toy.

What is your favourite toy?

Can you write about it by following the example in the picture to the right?

Write the name of the toy and why it is your favourite, following the sentence pattern below;

Fy hoff degan yw....... oherwydd....... (My favourite toy is.......because......)

Finally, can you draw a picture of your favourite toy?

Mathemateg / Mathematics:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

siap gwers dydd Iau.mp4

Tasg 1 / Task 1:

Cyfatebwch yr eitemau yn y llun isod gyda'r enwau siapiau 3D cywir.

Match the items in the picture below with the correct 3D shape.

Tasg 2 / Task 2:

Fedrwch chi nawr chwilota am siapiau 3D gwahanol yn eich cartrefi neu wrth fynd am dro?

Gallwch dynnu llun yr eitemau yn eich llyfrau gwaith cartref a'u labelu gydag enw'r siâp. Neu os hoffech gallwch dynnu llun y siapiau gwahanol gyda chamera neu ffon ac yna lanlwytho a’u labelu ar yr ap Seesaw.

Can you now search for different 3D shapes in your home or whilst you are out walking?

You could draw and label the different items in your homework books. Alternatively you could take pictures with a camera or phone and upload and label them on Seesaw.

Gwaith Thema / Topic Work:

Tywydd

Y Tywydd.

Sut mae'r tywydd heddiw? Edrychwch a gwrandewch ar y pwerbwynt i gael cymorth.

The Weather.

How is the weather today? Take a look and listen to the powerpoint for some help.

WL-L-45-Siart-Sut-maer-Tywydd-Heddiw-Calendr-Arddangosfa.pdf

Edrychwch mas trwy'r ffenestr neu ewch allan i edrych ar y tywydd heddiw. Ydych chi'n gweld siapiau yn y cymylau? Tynnwch lun o'r tywydd heddiw.

Look through your window or head outside to see what the weather's like today. Can you see shapes in the clouds? Draw a picture of the weather today.

Amser Chwarae ar Zoom - Welsh Playtime on Zoom

Dydd Gwener / Friday 8-01-20

Iaith / Literacy:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the task below.

gwers iaith dydd gwener.mp4

Y Dasg / Task:

Paciodd Twm chwe eitem yn ei gês.

Tynnwch lun a labelwch chwe eitem byddwch chi’n pacio os byddwch chi’n aros dros nos gyda nain, taid neu aelod arall o’r teulu.

Gweler yr enghraifft isod.

Twm packed six items in his case to visit his grandma.

Draw a picture of a suitcase and then draw and label six items you would pack if you were staying overnight with a grandparent or another family member.

Please see example below.

Mathemateg / Mathematics:

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc , ac yna cyflawnwch y dasgau isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link below and then complete the tasks below.

maths siap dydd Gwener mp4

Tasg 1 / Task 1:

Didolwch y siapiau 2D a 3D gan glicio ar y linc isod.

Can you sort the 2d and 3D shapes by clicking on the link below.

Tasg 2 / Task 2:

Pa siâp ydw i?/ What shape am I?

Darllenwch y cliwiau isod ac yna ysgrifennwch neu tynnwch lun pob siâp yn eich llyfrau gwaith cartref.

Read the clues below and write down or draw each shape in your homework books.

Gwaith thema / Theme work:

Pwtyn allan o siapiau 2D.

Dyma Pwtyn fel ydych yn gwybod. Heddiw, a allwch chi greu llun o Pwtyn drwy ddefnyddio siapiau 2D yn unig?


Mae enghraifft o dedi allan o siapiau yn y llun isod.

Pwtyn out of 2D shapes.

Here is Pwtyn as you already know. Today, can you draw Pwtyn using only 2D shapes?


There's and example of a bear out of 2D shapes below.