1.2.2021-5.2.2021

1.2.2021 - 5.2.2021

Sesiwn Dal Lan / Catch Up Session:

Bydd sesiwn dal lan byw y dosbarth yn digwydd am 10yb ar ddydd Llun. Bydd y sesiwn hon yn digwydd ar Google Classroom. Dylech fynd mewn i’ch dosbarth ar Google Classroom am 10yb a chlicio ar y ddolen. (Efallai na fydd y ddolen yn gweithio os ydych chi’n ei thrio cyn yr amser dechrau.)

Cofiwch ddarllen y canllawiau a’r rheolau isod cyn eich sesiwn os gwelwch yn dda.

Catch up session:

Our live catch up session will take place at 10am on Monday. The session will take place on Google Classroom. You should go into your class on Google Classroom at 10am and click on the link. (If you click on the link before this time, it might not work.)

Remember to read the instructions and the rules below before your session please.

Rheolau Sesiynau Byw.pdf
Canllawiau rhieni - Google Classroom.pdf

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/1-2-21-5-2-21

Gwasanaeth/Assembly

Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. I ddechrau’r wythnos, dewch i wrando ar wasanaeth gan Mr Dobson, sy’n esbonio mwy am thema’r flwyddyn hon.

It’s Children’s Mental Health Week this week. To start the week, listen to Mr Dobson’s assembly explaining a little more about this year’s theme.

Gwasanaeth Wythnos Iechyd meddwl plant.mp4

Geiriau Sillafu / Spellings:

Dyma rai geiriau i ymarfer sillafu yr wythnos hon./Here are some words to practise spelling this week.

rydw i (I am)

dydw i (I don't)

aeth (went)

roedd (it was; there was)

Yr wythnos hon, beth am greu wal sillafu er mwyn ymarfer sillafu'r geiriau? Gallwch ysgrifennu'r geiriau gan ddefnyddio mathau o lawysgrifen gwahanol a lliwiau gwahanol. Byddwch yn greadigol! Edrychwch ar y llun isod am syniad.

This week, how about creating a spelling wall to help you practise spelling the words? You could use different styles of handwriting and different colours. Be creative! Look at the picture below for an idea of how to do this.

Cliciwch ar y linc isod i glywed sut i ynganu'r geiriau.

Click on the link below to hear how the words are pronounced.

1/2 geiriau sillafu.mp4

Dydd Llun / Monday (1.2.21)

Iaith/Literacy

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Cliciwch ar y linc i'r dde, os hoffech ddarllen y stori yn annibynnol.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Click on the link to the right if you would like to read the story independently.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

Rwy'n ddigon dydd Llun.mp4
Dw i’n ddigon (I am Enough) - stori

Tasg 1/Task 1

Tynnwch lun blodyn ac yna ar y petalau nodwch ansoddeiriau i ddisgrifio pa fath o berson ydych chi. Mae pawb yn unigryw, felly meddyliwch beth sydd yn gwneud chi, yn chi? Defnyddiwch y mat ansoddeiriau i'ch helpu.

Draw a picture of a flower and on each petal write a word that describes you. We are all unique, so think about what makes you, you! Use the adjective mat below to help you.

Tasg 2/Task 2

Fedrwch chi ffeindio chwe gair o'r stori 'Rwy'n ddigon' yn y grid isod?

Can you find six words from the story 'Rwy'n ddigon' in the wordsearch below?

Mathemateg/Mathematics

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

amser dydd Llun.mp4

Tasg/Task

Fedrwch chi gyfateb y clociau gyda'r amseroedd cywir? Mae yna tri set o glociau. Dewiswch un set i'w cwblhau.

Could you match each clock with the correct time? There are three sets of clocks. Choose one set to complete.

Dewch i chwarae gêm cyfateb amseroedd gan glicio ar y linc isod.

How about playing a matching time game by clicking on the link below?

Thema / Topic:

Ioga gyda Emma

Beth am gychwyn yr wythnos drwy ryddhau unrhyw egni negyddol sydd gennym.


Yoga with Emma

Let's begin the week by releasing any negative energy we're holding within.

Caru canu - Symud i'r gân

Gwrandewch ar eiriau'r gân hon. Mae'n sôn am ben, ysgwyddau, coesau a thraed. Cyd-ganwch i'r gân gan geisio a chyffwrdd y darnau o'r corff sy'n cael ei dweud.e.e.. pan mae'n dweud 'pen' rhaid i chi gyffwrdd eich pen.

Love to sing - move to the song

Listen to the words of this song. It says head, shoulders, knees and toes. Try and sing along to the song and touch the body parts that are being sung .i.e when it says 'head', touch your head.

Tynnwch lun o'ch teimladau.

I ddechrau trafod ein hemosiynau, beth am dynnu llun o sut ydym yn teimlo heddiw? Lluniwch amlinelliad o'ch corff yna cymerwch eiliad i sylwi sut mae eich corff yn teimlo. Yna ewch ati i liwio eich corff i'ch teimladau.

Draw your feelings.

To start discussing our emotions, why not draw a picture of how we feel today? Draw an outline of your body then take a moment to notice how your body is feeling. Then colour your body to your feelings.

Dydd Mawrth / Tuesday (2.2.21)

Iaith/Literacy

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

berfau dydd Mawrth.mp4

Tasg 1/Task 1

Fedrwch chi sillafu'r berfau yn y lluniau isod? Mae yna tri set gwahanol. Dewiswch un set i'w cwblhau.

Could you spell the verbs in the pictures below? There are three different sets. Choose one set to complete.

Tasg 2/Task 2

Fy niddordebau/My interests

Fedrwch chi nawr ysgrifennu am eich diddordebau?

Beth ydych chi'n mwynhau gwneud? Pa weithgareddau sydd yn gwneud i chi deimlo'n hapus?

Ysgrifennwch am eich diddordebau gan ddilyn y patrwm isod;

Rydw i'n mwynhau......

Mae yna boster gweithgareddau i'ch helpu os oes angen.

Could you now write about your interests?

What do you enjoy doing? What activities make you feel happy?

Write about your interests by following the sentence pattern below;

Rydw i'n mwynhau...... (I enjoy....)

There is an activity vocabulary poster to help, if required.

Mathemateg/Mathematics

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

amser dydd Mawrth.mp4

Tasg 1/Task 1

Darllenwch yr amser ar y clociau isod.

Mae yna tri set o glociau, dewiswch un set i'w cwblhau. Nodwch yr amseroedd ar y daflen neu yn eich llyfrau gwaith cartref.

Tell the time on the clocks below. There are three sets of clocks, choose one to complete. Note the times on the sheet or in your homework books.

Tasg 2/Task 2

Cofnodwch yr amseroedd ar y clociau isod. Mae yna tri set o glociau, dewiswch un set i'w cwblhau. Copïwch a chwblhewch y dasg yn eich llyfrau gwaith cartref, neu os hoffech gallwch dangos yr amseroedd ar gloc go iawn.

Display the times on the clocks below. There are three sets of clocks, choose one set to complete. Copy and complete the task in your homework books, or alternatively display the different times on an actual clock.

Thema / Topic:

Ioga gyda Casi

Beth am gychwyn heddiw drwy wneud bach o ymarferion ioga gyda Casi?

Yoga with Casi

Let's begin today by doing some yoga exercises with Casi.

Diolchgar / Thankful

Diolchgar

Enwch 3 pheth yr ydych yn ddiolchgar amdanynt. Tynnwch lun neu ysgrifennwch restr o'r pethau hyn a'u rhoi mewn man amlwg.
e.e.. byddwch yn ddiolchgar am eich rhieni, am gael bwyd pob dydd, am gael tŷ i fyw ynddo, am gael anifail anwes os oes un gennych, am gael dillad i wisgo a.y.b..

Thankful

Name 3 things for which you are grateful. Draw a picture or write a list of these things and place them in a prominent place.
e.g. be grateful for your parents, for having daily food, for having a house to live in, for having a pet if you have one, for getting clothes to wear etc.

Caredigrwydd

Gwnewch un weithred o garedigrwydd i rhywun, fel mynd a rhywun allan am dro i gerdded.


Kindness

Do one act of kindness for someone, like taking someone out for a walk.

2k Rhithiol

Dydd Mercher / Wednesday (3.2.21)

Iaith/Literacy

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

emosinau dydd Mercher.mp4

Tasg 1/Task 1

a). Fedrwch chi gyfateb y lluniau gyda'r emosiynau?/ Can you match the pictures with the different emotions?

b). Edrychwch ar y lluniau o'r stori 'Rwy'n ddigon!' Nodwch pa emosiwn neu emosiynau rydych chi'n meddwl mae'r ferch yn teimlo. / Look at the pictures from the story 'Rwy'n ddigon!' Can you write down what emotion or emotions you think the girl is feeling?

cysglyd - tired / trist - sad / nerfus - nervous / hapus - happy / crac - angry / cyffrous - excited

Tasg 2/Task 2

Sut ydych chi'n teimlo heddiw? Tynnwch lun o'ch hun yn dangos sut ydych yn teimlo.

Yna fedrwch chi ysgrifennu cwpl o frawddegau yn nodi sut rydych yn teimlo? Defnyddiwch y patrwm brawddeg;

Rydw i'n teimlo'n......

Os hoffech, gallwch ymestyn y frawddeg gan nodi rheswm am yr emosiwn neu emosiynau rydych yn teimlo.

Defnyddiwch y templedi isod os hoffech.


How are you feeling today? Draw a picture of yourselves, showing how you are feeling.

Could you then write a couple of sentences noting how you are feeling? Use the sentence pattern;

Rydw i'n teimlo'n...... (I feel.....) achos... (because)

You could extend your sentences by providing a reason for the way you are feeling.

Use the templates below if you wish.

Mathemateg/Mathematics

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

amser dydd Mercher.mp4

Tasg 1/Task 1

Fedrwch chi nawr defnyddio eich dealltwriaeth o amser i nodi faint o'r gloch rydych yn gwneud pethau yn ystod y dydd?

Fedrwch chi nodi'r amseroedd mewn geiriau ac ar y clociau?

Could you use your understanding of time to note the times that you do different things during the day?

Could you note the times in words and on the clocks.

Tasg 2/Task 2

Gwyliwch y gân amser Cyw gan glicio ar y linc isod.

Ar ôl gwylio'r gân, fedrwch chi nodi faint o'r gloch mae'r anifeiliaid yn gwneud y pethau gwahanol sydd yn y lluniau isod?

Gallwch nodi'r amseroedd ar y daflen neu yn eich llyfrau gwaith cartref.

Watch Cyw's time song by clicking on the link below.

After watching the song, could you note the time that the animals do the different things in the pictures below?

You could note the times on the worksheet or in your homework books.

Thema / Topic:

Gwynebau gwag di deimlad

Dyma daflen sydd a 6 hwyneb gwag, o dan y wynebau mae'n dweud pa deimlad mae'r person yn ei ddangos. Allwch chi dynnu llun o'r wyneb sydd yn cyd-fynd â'r teimlad? Sut wyneb sydd gyda chi os ydych yn hapus? Ewch i edrych yn y drych yn gyntaf i weld eich wyneb chi. Gwyliwch y gân Teimladau eto i'ch helpu.

Empty emotionless faces

On this worksheet there are 6 blank faces, underneath each face the emotion of the person is written. Can you draw the emotion on the face? What do you look like if you're happy? Go and look in the mirror to see your face first before starting to draw.

Watch the Teimladau song again to help you.

Helfa Drysor Yr Ardd.

Dyma sialens a allwch ei wneud gydag aelod arall o'r teulu. Cyntaf i ddod o hyd i'r mwyaf o'r eitemau sydd ar y daflen. Efallai, os oes oedolyn ar gael, medrwch fynd am dro i chwilio am eitemau nad ydych wedi dod o hyd iddynt. Pob lwc a rhannwch eich helfa gyda ni.

Garden Treasure Hunt

Here's a challenge you can do with another family member. First to find the most of the items on the sheet. Perhaps, if an adult is available, you can go for a walk looking for items you haven't found. Good luck and share your hunt with us.

Dydd Iau / Thursday (4.2.21)

Iaith/Literacy

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

Iaith dydd Iau 4/2.mp4

Tasg 1/Task 1

Thema wythnos Iechyd Meddwl Plant eleni yw 'Mynegwch eich hun'. Felly heddiw, fedrwch chi greu map calon? Yn y map, ydych chi'n gallu nodi pobl, llefydd a phethau rydych yn caru neu sydd yn bwysig i chi?

Mae yna ddau dempled isod os hoffech eu defnyddio neu gallwch greu un eich hun. Mae Mrs Dalgleish wedi dechrau creu map calon fel y gweler isod.

The theme of this year's Children's Mental Health Week is 'Express Yourself'. Today, could you create a heart map? On the map, could you note the people, places and things that you love or that are important to you?

There are two templates below if you wish to use them, or alternatively you could create your own. Mrs Dalgleish has started to create her own heart map and the example can also be seen below.

Tasg 2/Task 2

Dewch i wylio rhaglen Shwshaswyn gan glicio ar y linc. Yna fedrwch chi atebwch y cwestiynau isod?

Watch the Shwshaswyn programme by clicking on the link below. Could you then answer the questions below?

Mathemateg/Mathematics

Gwyliwch y cyflwyniad gwers gan glicio ar y linc, ac yna cyflawnwch y dasg isod.

Watch the lesson introduction by clicking on the link and then complete the following task.

Cyflwyniad Gwers / Lesson Introduction:

amser dydd Iau.mp4

Tasg 1/Task 1

Fedrwch chi gyfrifo cyfnodau amser?

Edrychwch ar y clociau ar yr ochr chwith yn y tabl ac yna dangoswch yr amser sydd wedi pasio ar y clociau ar y dde.

Mae yna dair set o glociau, dewiswch un set i'w cwblhau.

Can you calculate and display the passing of time?

Look at the clocks on the left hand side of the table and then display on the clocks on the right, the time that has passed.

There are three sets of clocks, choose one set to complete.

Tasg 2/Task 2


Rydyn ni'n gwybod bod 60 munud mewn awr gyfan, ond beth allwch chi gyflawni o fewn un munud?

Fedrwch chi drio'r gweithgareddau gwahanol sydd yn y tabl isod? Cyfrifwch sawl gwaith fedrwch chi wneud pob un o fewn munud. Cofnodwch eich canlyniadau ar y tabl neu yn eich llyfrau gwaith cartref.


We know that there are 60 minutes in 1 hour, but what can be achieved in one minute?

Can you complete the activities in the table below? Count how many times you can do each activity within a minute. Note your results in the table or in your homework books.

Thema / Topic:

Dydd Miwsig Cymru (DMC) Yfory

Byddwn ni'n dathlu #DyddMiwsigCymru ddydd Gwener 5 Chwefror. Rydyn ni'n edrych ymlaen i ddarganfod a dathlu'r holl fiwsig Cymraeg anhygoel sydd ganddon ni.

Mae #Miwsig yn ffordd o helpu pawb i ddysgu rhagor o Gymraeg.
Dyma'r rhestr chwarae rydyn ni'n gwrando arni: https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1

Welsh Language Music Day Tomorrow

We’ll be celebrating #DyddMiwsigCymru - #WelshLanguageMusicDay on Friday 5th February. We can’t wait to discover and celebrate amazing #Miwsig made in the Welsh language.
Listening to #Miwsig is helping us learn even more Welsh.
Check out the playlist we’re listening to.
https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1

Creu Poster DMC

Beth am greu poster eich hunain yn barod at Ddydd miwsig Cymru? Gallwch ychwanegu llun o’ch hoff fand neu hoff gân, neu gallwch dynnu llun o sut mae eich hoff gân yn gwneud i chi deimlo. Byddwch mor greadigol a lliwgar a phosib. Cofiwch rannu eich gwaith gyda ni, unai ar ‘Twitter’ neu ei yrru ar ‘Seesaw’. Diolch, a phob lwc i chi.

Design a Poster for DMC

Why not create your own poster ready for Wales Music Day? You can add a picture of your favorite band or song, or you can draw how your favorite song makes you feel. Be as creative and colourful as possible. Remember to share your work with us, either on 'Twitter' or send it on 'Seesaw'. Thank you, and good luck to you.

Gweithgareddau Chwefror / February Activities

Dydd Gwener Lles / Well-being Friday:

Lles / Well-being:

Dewch i wrando ar y stori, ‘Weithiau, dwi'n teimlo'n heulog’, yn cael ei darllen. Fersiwn Gymraeg o'r stori:

Cymraeg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4

Listen to the story, ‘Sometimes, I feel sunny', being read.

The English version of the story:

Saesneg - Weithiau dwi'n teimlo'n heulog.mp4

Thema ein sesiwn lles yr wythnos hon yw ‘emosiynau’.

Mae’r stori yn cyfeirio at wahanol emosiynau a’r pethau sy’n gwneud i ni deimlo fel hyn. Weithiau mae’n anodd i ni ddangos ein hemosiynau a dydy rhai ddim yn hoffi trafod eu hemosiynau.

Creu cymeriadau emosiynau:

Eich tasg chi yw i greu cymeriadau emosiynau fel y rhai isod gan ddefnyddio pethau sydd gyda chi yn y tŷ. Gallwch ddefnyddio y rhain pan rydych chi eisiau dangos eich emosiynau.


The theme of this week’s well-being session is ‘emotions’.

The story refers to different emotions and the things that make us feel like this. Sometimes, we find it hard to express and show our emotions.

Creating emotion characters:

This task will help you show and explain your emotions. Make emotion characters similar to the ones below using things that you have at home.

Addysg Gorfforol a Meddwlgarwch:

Physical Education and Mindfulness:

Beth am gymryd rhan mewn sesiwn Addysg Gorfforol heddiw? Ceir nifer o syniadau am weithgareddau ar y wefan hon. Mae ail wers Meddwlgarwch Mr Dobson ar gael ar y wefan hefyd.

How about taking part in a P.E session today? There are many ideas for activities on this website. Mr Dobson’s second Mindfulness lesson is on the website too.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/tudalen-addysg-gorfforol-ygc/hafan-home

Celf / Art:

Tasg: Cliciwch ar y ddolen er mwyn dysgu sut i arlunio wynebau yn dangos gwahanol emosiynau. Beth am greu mwgwd ‘emoji’, tynnu llun o’ch hunain yn ei wisgo a’i anfon i ni?

Task: Click on the link to learn how to draw faces showing different emotions. Why not create an ‘emoji’ mask, take a picture of yourself wearing it and send it to us?

Tasg ychwanegol / Additional task:

Cofiwch am y digwyddiad hwn sy’n fyw, bob prynhawn dydd Gwener:


Remember about this event, which takes place live, every Friday:

Dydd Miwsig Cymru / Welsh Language Music Day:

Am 12:30 heddiw, mae’r Urdd yn cynnal disgo yn fyw o Lan-llyn i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn ymuno mewn.

At 12:30 today, the Urdd will be holding a live disco from Glan-llyn to celebrate Dydd Miwsig Cymru. Click on the link below at 12:30 to join in.

Mwynhewch y penwythnos!

Enjoy the weekend!