7.5.2021

Dydd Gwener / Friday - 7.5.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/10-5-21-14-5-21

Thema / Topic:

Afonydd a llynnoedd yng Nghymru/ Rivers and Lakes in Wales

Mae yna lawer o afonydd a llynnoedd yng Nghymru. Bydd eich gwaith heddiw yn seiliedig ar rhein.

Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo am afonydd a llynnoedd yng Nghymru.

There are many rivers and lakes in Wales. Your work today will be based on these.


Click the link to watch the video about rivers and lakes in Wales.


Tasg 1/ Task 1:

Isod gweler enwau afonydd yng Nghymru. Mae'r enwau wedi cymysgu. Ydych chi'n gallu ysgrifennu'r atebion yn gywir?

Below are names of rivers in Wales. The names have been mixed up. Can you write the answers correctly?

Atebion/ Answers:

Tasg 2/ Task 2:

Edrychwch ar y lluniau isod. Dyma luniau o anifeiliaid sydd yn byw yn ein hafonydd a llynnoedd. Eich tasg yw gosod enwau'r anifeiliaid yn drefn y wyddor.

Look at the pictures below. These are pictures of animals that live in our rivers and lakes. Your task is to place the names of the animals in alphabetical order.

Celf / Art:

Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar afonydd a llynnoedd yng Nghymru. Eich tasg chi yw creu celf sydd yn cynrychioli afon neu lyn. Edrychwch ar y lluniau isod am syniadau.

This week we are concentrating on rivers and lakes in Wales. Your task is to create a piece of art that represents a river or lake. Look at the pictures below for ideas.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Cliciwch ar y linc ar gyfer sesiwn Addysg Gorfforol.

Click on the link for a workout.

Gwaith Cartref / Homework

Darllen / Reading:

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn darllen y llyfr 'Y Ddinas Uchel' gan Huw Aaron. Darllenwch y stori eich hun neu rhannwch y stori gydag aelod o'ch teulu.

This week, we have been reading the book 'Y Ddinas Uchel' by Huw Aaron. Read the story yourself over the weekend or share the story with a member of your family.

Tasg: / Task:

Meddyliwch am deitl newydd i’r llyfr ac esboniwch pam eich bod wedi’i ddewis.

Think of a new title for the book and explain why you chose it.

Y Ddinas Uchel

Sillafu / Spelling:

Mewn Munud / Just a Minute


Faint o weithiau gallwch chi ysgrifennu'r geiriau mewn munud? Dewiswch unrhyw dri.

How many times can you write the words in a minute? Choose any three.

fyny awyr uchel estyn tyrau

mwy dinas adeiladu ceisio ychydig

disgyn cerrig byth defnyddio cymylau

Mathemateg / Maths:

Tynnu / Subtraction

Atebwch y cwestiynau tynnu yma. Cofiwch i ddefnyddio'r dull colofnau. Dewiswch yr her sydd fwyaf addas i chi.

Answer these subtraction questions. Remember to use the columns method. Choose the most appropriate challenge.

Tynnu 7.5.2021