21.5.2021

Dydd Gwener / Friday - 21.5.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/24-5-21-28-5-21

Thema / Topic:

Pyllau Glo yng Nghymru/ Coal Mines in Wales

Roedd angen mawr am lo ar gyfer tanwydd i’r diwydiannau copr, gweithfeydd haearn a rheilffyrdd. Defnyddiwyd glo hefyd i gynhesu adeiladau ac i goginio bwyd. Roedd De Cymru yn enwog yn fyd eang am ei byllau glo. Yn Bari roedd y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd. Caerdydd oedd yr ail gan fod glo yn cael ei gludo yno ar y rheilffordd.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llai o ofyn am lo wrth i ddiwydiannau ddefnyddio olew a phrynu glo’n rhatach dramor. Dioddefodd y pyllau glo, collodd 14,000 o ddynion eu gwaith wrth i 241 o byllau glo orfod cau.


Cliciwch ar y linc i wylio'r fideo ac edrychwch ar y lluniau i ddysgu mwy am y pyllau glo.


Coal was an important commodity to fuel the copper, ironworks and railway industries. Another important purpose of coal was to heat buildings as well as to cook food. South Wales became famous globally for its coal mines. Barry was the largest coal exporting port in the world and Cardiff was the second largest as coal was transported there by rail. After the First World War, there was less demand for coal due to industries using oil. Cheaper coal was also imported. The Welsh coal mines suffered. By 1936, 140,000 men had lost their jobs as 241 mines were closed because they were not making enough money.


Click on the link to watch the video and look at the pictures to learn more about the coal mines.

Tasg/ Task:

Mae'r fideo yn sôn am swyddi oedd gan blant yn y pyllau glo. Eich tasg chi yw gwneud rhestr o'r swyddi roedd plant yn eu gwneud yn y pyllau glo ac ateb y cwestiynau isod.

  1. Pa mor beryglus oedd hi i blant yn y pyllau glo?

  2. Pa mor hanfodol oedd plant wrth redeg y pyllau glo yn llyfn?

  3. Pam ydych chi'n meddwl roedd plant yn gweithio yn byllau glo?


The video talks about jobs children had in the coal mines. Your task is to make a list of the jobs children did in the coal mines and answer the questions below.

  1. How dangerous was it for children in the mines?

  2. How essential were children to the smooth running of the coal mines?

  3. Why do you think children worked in coal mines?

Celf / Art:

Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar byllau glo. Eich tasg chi yw tynnu llun fel yr enghraifft isod neu greu celf sy'n ymwneud a'r pyllau glo.

This week we are concentrating on coal mines. Your task is to draw a picture like the example below or make some kind of art relating to the mines.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Cliciwch ar y linc ar gyfer sesiwn Addysg Gorfforol.

Click on the link for a PE workout.

Gwaith Cartref / Homework:

Darllen / Reading:

Yr wythnos hon, rydym wedi bod yn dysgu am Malala Yousafzai. Darllenwch y wybodaeth amdani ar y wefan drwy glicio ar y linc (mae yna opsiwn i wrando ar recordiad o'r wybodaeth tuag at waelod y dudalen i'ch helpu).

This week, we have been learning about Malala Yousafzai. Read the information about her by following the link to the website (there is an option to listen to a recording of the information towards the end of the page to help you).

Yna, dilynwch y linc i'r cwis i weld os allwch chi sgorio 10/10! Pob lwc!

Then, follow the link to the quiz to see if you can score 10/10! Good luck!

Sillafu / Spelling:

Geiriau o fewn geiriau / Words within words


Faint o eiriau gallwch chi eu creu mas o'i henw?

How many words can you make from her name?

Malala Yousafzai

Mathemateg: Arwynebedd / Maths: Surface Area

Darganfyddwch beth yw arwynebedd y siapiau yma. Mae tair her ar eich cyfer. Dewiswch yr her sydd fwyaf addas i chi. Cofiwch: Arwynebedd = Hyd x Lled

Calculate the surface area of these shapes. There are three challenges for you. Choose the most appropriate challenge for you. Remember: Surface area = Length x Width

Arwynebedd 1
Arwynebedd 3
Arwynebedd 2