02.07.21

Dydd Gwener / Friday 02/07/21

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch i edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/28-6-21-2-7-21

Thema / Topic:

Yr Wyddfa / Snowdon

Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru a Lloegr.

Dewch i ddringo i'r copa drwy wylio'r fideo hwn.

Snowdon is the highest mountain in Wales and England.

Come and climb to the summit by watching this video.

Tasg 1: Gwrandewch ar y ffeithiau am Yr Wyddfa a phenderfynwch os yw'r ffeithiau yn y tabl yn gywir neu'n anghywir.

Task 1: Listen to the facts about Snowdon and decide if the facts in the table are true or false.

Yr Wyddfa.mp4
Ffeithiau cywir neu anghywir.pdf

Mae pob un o gerbydau Trên Bach Yr Wyddfa yn cael eu henwi ar ôl enwogion Cymreig. Shirley Bassey yw un o'r enwogion hynny, cliciwch ar y botwm isod i weld hi yn ymweld â'r Wyddfa am y tro cyntaf.

Tasg 2: Fedrwch chi feddwl am rywun enwog o Gymru y gallai'r cerbyd nesaf gael ei enwi ar ei ôl? Ysgrifennwch y rhesymau dros eich dewis.

All Snowdon Mountain Rail carriages are named after Welsh celebrities. Shirley Bassey is one of those celebrities, click on the button below to see her visiting Snowdon for the first time.

Task 2: Can you think of a Welsh celebrity the next carriage could be named after? Write down the reasons for your choice.

Celf / Art:

Defnyddiwch bapur lliw i greu tirlun mynyddig fel yn yr enghreifftiau isod. Rhaid rhwygo'r papur a pheidio â defnyddio siswrn.

Use coloured paper to create a mountainous landscape like in the examples below. You must tear the paper and not use scissors.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Dewch i wneud sesiwn ymarfer corff gyda'r 'Froggy Coach!'

Come and do a workout session with the Froggy Coach!

Gwaith Cartref / Homework:

Sillafu / Spelling:

Mae'r Wyddfa yn cynnwys y sŵn wy.

Faint o bethau'n cynnwys y sŵn wy ydych chi'n medru eu gweld yn y llun?

Sillafwch y geiriau yn ofalus ac yna chwarae'r gêm ar y linc isod i wyrio eich atebion.

Yr Wyddfa, the Welsh name for Snowdon, contains the wy sound.

How many things containing the wy sound can you find in the picture?

Spell the words carefully and then play the game on the link below to check your answers.

wy.pdf

Darllen / Reading:

Cystadleuaeth Darllen / Reading Competition

Eisiau ennill pentwr o lyfrau newydd i'r ysgol?

Gofynnwch i rywun dynnu llun ohonoch yn darllen yn eich hoff le a'i anfon i ni ar Seesaw.

Want to win a pile of new books for the school?

Ask someone to take a picture of you reading in your favourite place and send it to us on Seesaw.

Mathemateg / Mathematics:

Dadansoddi data mewn pictogram / Analysing data in a pictogram:

Dewisiwch un o'r pictogramau isod ac yna atebwch y cwestiynau. Byddwch yn ofalus wrth edrych ar yr allwedd sy'n dangos gwerth y lluniau.

Choose one of the pictograms below and then answer the questions. Take care when looking at the key that shows the value of the pictures.

Pictogram: Hoff raglenni Cymraeg / Favourite Welsh programs.


  1. Faint o blant sy'n hoffi Larfa? (How many children like Larfa?)

  2. Faint o blant sy'n hoffi Ysbyty Hospital? (How many children like Ysbyty Hospital?)

  3. Pa raglen yw’r mwyaf poblogaidd? (Which program is the most popular?)

  4. Pa raglen yw’r lleiaf poblogaidd? (Which program is least popular?)

  5. Faint yn fwy o blant sy'n hoffi Larfa o gymharu â Spynj Bob Pantsgwâr? (How many more children like Larfa compared to Spynj Bob Pantsgwâr?)

Pictogram: Hoff far siocled / Favourite chocolate bar .


  1. Faint o blant sy'n hoffi KitKat? (How many children like KitKat?)

  2. Pa siocled yw’r mwyaf poblogaidd? (Which chocolate is the most popular?)

  3. Pa siocled yw’r lleiaf poblogaidd? (Which chocolate is least popular?)

  4. Pa ddau far siocled sydd yr un mor boblogaidd? Which two chocolate bars are equally popular?

  5. Faint yn fwy o blant sy'n hoffi KitKat o gymharu â Milkybar? (How many more children like KitKat compared to Milkybar?)