25.1.21-29.1.21

Sesiwn dal lan yr wythnos / This week's catch up session:

Sesiwn dal lan:

Bydd sesiwn dal lan byw y dosbarth yn digwydd am 9.15 ar ddydd Mawrth (26.1.21) . Bydd y sesiwn hon yn digwydd ar Google Classroom. Dylech fynd mewn i’ch dosbarth ar Google Classroom am 9.15 a chlicio ar y ddolen. (Efallai na fydd y ddolen yn gweithio os ydych chi’n ei thrio cyn yr amser dechrau.)

Cofiwch ddarllen y canllawiau a’r rheolau isod cyn eich sesiwn os gwelwch yn dda.

Catch up session:

Our live catch up session will take place at 9.15 on Tuesday (26.1.21). The session will take place on Google Classroom. You should go into your class on Google Classroom at 9.15 and click on the link. (If you click on the link before this time, it might not work.)

Remember to read the instructions and the rules below before your session please.

Canllawiau rhieni - Google Classroom.pdf
Rheolau Sesiynau Byw.pdf
Ymuno gyda Google Meet.pdf

Sut i gofnodi eich gwaith / How to record your work:

Cofiwch y gallwch chi ddangos eich gwaith i mi drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw'. Gweler y llythyr yn eich llyfr gwaith cartref am ragor o fanylion.

Remember you can show me your work by uploading it on 'Seesaw'. Please see the letter in your homework book for more information.

Diolch, Miss Emery

Y Siarter Iaith:

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/25-1-21-29-1-21

Wythnos 25.1.2021-29.1.2021 / Week 25.1.2021-29.1.2021:

Geiriau sillafu am yr wythnos / Spelling words for the week

Sillafu / Spelling:

Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer yr wythnos hon. Ry'n ni'n mynd i ganolbwyntio ar eiriau sy'n cynnwys y llythrennau 'b' a 'd'. / Here are some key words to practise this week. We will be concentrating on words that include the letters 'b' and 'd'.

bwyd (food) / brown (brown) / brawd (brother) / bwrdd (table) / dysgu (learning) / darllen (reading) / doniol (funny)

Cliciwch ar y linc i glywed sut i ynganu'r geiriau. / Click on the link to hear how to pronounce these words.

Cofiwch i'w hymarfer yn ddyddiol a cheisiwch eu sillafu drwy ddefnyddio'r dulliau isod: / Remember to practise them daily and practise spelling them by using some of the methods below:

Mewn munud: Faint o weithiau gallwch chi ysgrifennu'r gair mewn munud? / In a minute: How many times can you write the word in one minute?

Ar draws ac i lawr: Ysgrifennwch y geiriau ar draws fel arfer ac yna i lawr o dan y lythyren gyntaf. / Across and down: Write the words across as usual then down under the first letter.

Torri a gludo: Torrwch y llythrennau cywir sydd angen i adeiladu'r geiriau sillafu. / Cut and paste: Cut the correct letters needed to build the spelling words.

Llyfr yr wythnos / Book of the week

Llyfr yr wythnos hon yw 'Tylluanod Bach'. Cliciwch ar y linc isod i ddarllen hi eich hunain neu gwyliwch y fideo i glywed Miss Emery yn ei ddarllen. / This week's book is 'Tylluanod Bach'. Click on the link below to read it yourself or watch the video to listen to Miss Emery reading it.

Tylluanod Bach.pptx
Tylluanod bach.mp4

Dydd Llun 25.1.2021 / Monday 25.1.2021

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Emery. / Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Emery.

Cyflwyniad gwaith Iaith / Literacy work introduction

Iaith 25.1.21.mp4

Cyflwyniad gwaith Mathemateg / Numeracy work introduction

Maths 25.1.21.mp4

Gwaith Iaith / Literacy Work

Darllen / Reading

Dewch i ddarllen y llyfr 'Santes Dwynwen' neu gwrandewch ar Miss Hughes yn ei ddarllen. Yna ewch ati i ateb y cwestiynau sy'n ei ddilyn. / Come and read the book 'Santes Dwynwen' or listen to Miss Hughes reading it. Then answer the questions that follow.

llyfr Santes Dwynwen
Santes Dwynwen.mp4

Cwestiynau / Questions:


  1. Beth oedd enw'r dywysoges? / What was the princess' name?

  2. Beth oedd enw'r tywysog? / What was the prince's name?

  3. Beth yw'r ddau ansoddair sy'n disgrifio Dwynwen? / Which two adjectives are used to describe Dwynwen?

  4. Beth oedd Maelon eisiau ei wneud? / What did Maelon want to do?

  5. Pa dri cwestiwn gofynnodd yr angel wrth Dwynwen? / What were the angel's three questions?

  6. Beth roddodd yr angel i Dwynwen? / What did the angel give Dwynwen?

  7. Pa ddyddiad yw 'Dydd Santes Dwynwen? / What is the date of 'Santes Dwynwen's 'day?

Atebion / Answers:

  1. Dwynwen

  2. Maelon

  3. pert ac ifanc / pretty and young

  4. priodi / get married

  5. Beth sy'n bod? Pam wyt ti'n crio? Sut allai helpu? / What's wrong? Why are you crying? How can I help?

  6. Diod arbennig / A special drink

  7. Y 25ain o Ionawr / The 25th of January

Ysgrifennu / Writing :


Mae angen i ni newid diweddglo berfau gwahanol pan rydyn ni yn ysgrifennu am bobl gwahanol.

Os ydyn ni yn siarad am ein hunain, rydyn ni yn rhoi 'ais' ar ddiwedd berf e.e. byddai 'cerdded' yn newid i 'cerddais i'.

Os ydyn ni yn siarad am un person arall, rydyn ni yn rhoi 'aist' ar ddiwedd berf e.e. byddai 'cerdded' yn newid i 'cerddaist ti'.

Yn y stori 'Tylluanod Bach' mae'r awdur yn trafod mwy nag un tylluan. Mae'r berfau yma yn gorffen gydag 'on' e.e. byddai 'cerdded' yn newid i 'cerddon nhw'.

Ydych chi'n gallu llenwi'r tabl isod trwy newid y berfau i fod yn rhai cywir? Neu copiwch tabl tebyg yn eich llyfrau. Mae rhai wedi eu cwblhau i chi yn barod.


When writing about other people we have to change the ending of verbs.

If we are writing about ourselves, we put an 'ais' at the end of verbs i.e. 'cerdded' would change to 'cerddais'. ('walk' would change to 'I walked'.)

If we are writing about one other person, we put 'aist' at the end of verbs i.e. 'cerdded' would change to 'cerddaist ti'. ('walk' would change to 'he/she walked'.)

In the story 'Owl Babies' the author writes about more than one owl. These verbs end with 'on' i.e. 'cerdded' would change to 'cerddon nhw'. ('walk' would change to 'they walked'.)

Can you fill the table below by changing the verbs to the correct forms? Or copy the table in your homework books. Some have been completed for you.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Rydyn ni'n mynd i edrych ar ddehongli wybodaeth yr wythnos hon. Rydyn ni'n mynd i ddechrau drwy edrych ar bictogramau. Dewch i chwarae'r gĂŞm ganlynol i wella eich dealltwriaeth ohono cyn cyflawni'r dasg sy'n dilyn.

We will be looking at interpreting data this week. We will be starting by looking at pictograms. Click on the link below to work on your understanding of it before completing the task that follows.

Tasg / Task :

Edrychwch ar y graff isod ac atebwch y cwestiynau sydd i ddilyn. Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / Look at the graph below and answer the questions that follow. Choose the most suitable set for you.

Thema / Theme:

Rysáit Cariad / Recipe for Love

Heddiw yw Dydd Santes Dwynwen, pan mae'r Cymry yn dathlu eu cariad.

Tasg: Creu rysáit cariad.

Gallwch ddewis i ysgrifennu'ch rysáit (gweler y templed isod), neu dynnu lluniau y tu mewn i siâp calon. Meddyliwch am eiriau neu luniau rydych chi'n meddwl sy'n gysylltiedig â chariad i lenwi'r rysáit. Isod mae banc o eiriau i'ch helpu chi.

Er enghraifft: 1 cwpan o gwtsh mawr.

2 gwpan o garedigrwydd.

Today is St Dwynwen's Day, when the Welsh celebrate their love.

Task: Create a recipe for love.

You can choose to write out your recipe (see template below), or draw pictures inside a heart shape. Think of words or pictures that you think are related to love to fill in the recipe. Below is a bank of words to help you.

For example : 1 cup of big hugs.

2 cups of kindness.

Rysait cariad.pdf
Love recipe.pdf
Llun rysait.pdf

Dydd Mawrth 26.1.2021 / Tuesday 26.1.2021

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Emery. / Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Emery.

Cyflwyniad gwaith Iaith / Literacy work introduction

Iaith 26.1.21.mp4

Cyflwyniad gwaith Mathemateg / Numeracy work introduction

Maths 26.1.21.mp4

Gwaith Iaith / Literacy Work

Darllen / Reading:

Dewch i wrando ar podlediad cam 2 oren, Tric a Chlic gydag Eirian. Cofiwch i gael pensil a phapur yn barod! / Come and listen to stage 2, orange podcast with Eirian. Remember to have a pencil and paper ready!

Tasg / Task:

Ydych chi'n gallu ffeindio'r geiriau cam oren, Tric a Chlic yn y chwilair isod? / Can you find the orange, Tric a Chlic words in the wordsearch below?

Ysgrifennu / Writing:

Rydych chi wedi bod yn newid y berfau i orffen gyda'r ffurf cywir wrth ysgrifennu am wahanol bobl. Ydych chi nawr yn gallu ysgrifennu brawddegau gwahanol yn disgrifio'r tylluanod ar wahanol adegau o'r stori?

Gallwch ddefnyddio'r dempled isod fel cymorth, neu gallwch feddwl am ferfau eich hunain.

You have changed the endings of verbs to the correct forms whilst writing about different people. Can you now write sentences describing the owls at different parts of the story?

You can use the following template as a guide or you can think of your own verbs.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Heddiw rydyn ni'n mynd i ddehongli gwybodaeth drwy edrych ar dablau rhicbren. Dewch i chwarae'r gĂŞm ganlynol i wella eich dealltwriaeth ohono cyn cyflawni'r dasg sy'n dilyn.

Today we are going to interpret information be looking at tally charts. Click on the link below to work on your understanding of it before completing the task that follows.

Mae'r symbol yma yn cynrychioli 5. / This symbol represents 5.

Tasg / Task :

Edrychwch ar y tabl rhicbren isod, llenwch y bylchau ac yna atebwch y cwestiynau sydd i ddilyn. Dewiswch y set fwyaf addas i chi. / Look at the tally chart below, fill in the gaps and answer the questions that follow. Choose the most suitable set for you.

Thema / Theme:

Y Tymhorau / The Seasons

Gwyliwch y fideo ble mae yna rywbeth rhyfedd iawn yn digwydd i ardd Jen a Jim. Mae dail y coed wedi colli eu lliw ac mae rhai o'r anifeiliaid wedi diflannu. Beth sydd yn digwydd?


Watch the video where something very strange is happening to Jen and Jim's garden. The leaves of the trees have lost their colour and some of the animals have disappeared. What's happening?

Tasg: CopĂŻwch y tabl o'r pedwar tymor. Cyfatebwch y lluniau i'r tymor cywir.

Er enghraifft, mae wyn bach yn cael eu geni yn y gwanwyn, felly bydd llun yr oen yn mynd yn y blwch gwanwyn.

Task: Copy the table of the four seasons. Match the pictures to the correct season.

For example, lambs are born in the spring, so the picture of the lamb goes in the spring box.

Tabl tymhorau.pdf
Didoli y tymhorau.pdf

Dydd Mercher 27.1.2021 / Wednesday 27.1.2021

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Emery. / Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Emery.

Cyflwyniad gwaith Iaith / Literacy work introduction

Iaith 27.1.21.mp4

Cyflwyniad gwaith Mathemateg / Numeracy work introduction

Maths 27.1.21.mp4

Gwaith Iaith / Literacy Work

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen y gerdd 'Ôl traed yn yr eira' neu gwrandewch ar Miss Emery yn ei ddarllen. Yna ewch ati i ateb y cwestiynau sy'n ei ddilyn. / Come and read the poem 'Ôl traed yn yr eira' or listen to Miss Emery reading it. Then answer the questions that follow.

Cwestiynau / Questions:

1) Beth yw teitl y gerdd? / What is the poem's title?

2) Pwy yw'r bardd? / Who is the poet?

3) Pa liw yw'r Ă´l traed yn yr eira? / What colour ar the foot prints in the snow?

4) Pa ansoddair sy'n disgrifio sut mae angen cerdded? / What adjective is used to describe how you need to walk?

5) Beth sydd o hyd yn ei dilyn? / What still follows her?

6) Beth sy'n mynd drwy'r llun? / What goes through the picture?

7) Beth yw ystyr y gair 'dianc'? / What does the word 'dianc' mean?

Atebion / Answer:

1) Ôl traed yn yr eira

2) Myrddin ap Dafydd

3) Du / Black

4) Bwyllog / Carefully

5) Olion / Tracks

6) Llinell / Line

7) Escape

Ysgrifennu / Writing:

Mae'r tylluanod yn mynd trwy nifer o emosiynau gwahanol yn y stori yma. Gan edrych ar lun y tylluanod isod, ydych chi yn gallu ceisio meddwl fel y tylluanod a chwblhau bywgraffiadur tebyg i'r un isod? Meddyliwch beth fyddai'r tylluanod bach yn ei ddweud, sut fyddan nhw'n teimlo, beth fyddai'n mynd trwy eu meddyliau a beth fyddai eu dymuniadau?

Gallwch gwblhau'r daflen neu gallwch greu un tebyg yn eich llyfrau gwaith.

The little owls experience many different emotions during this story. By looking at this particular photograph of the owls, can you try and think like them and complete a 'body biography' like the one below? Think what the owls would say, how they would feel, what would be going through their minds and what their wishes would be?

You may complete the following worksheet or you can create your own in your workbooks.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Heddiw rydyn ni'n mynd i gasglu data. Dewch i chwarae'r gĂŞm ganlynol i wella eich dealltwriaeth ohono cyn cyflawni'r tasgau ymarferol sy'n dilyn.

Today we are going to collect data. Click on the link below to work on your understanding of it before completing the practical tasks that follow.

Tasg 1 / Task 1:

Heddiw rydyn ni eisiau i chi gasglu data eich hun mewn ffurf tabl rhicbren. Gallwch chi gasglu data ar:

  • nifer o'r un fath o degan

  • lliwiau ceir yn y stryd

  • siapiau o gwmpas y tĹ·

  • lliwiau teganau

  • ffrwyth neu lysiau yn y tĹ·

Neu unrhyw beth arall gallwch chi feddwl am. Mae yna dabl gwag isod i chi ddefnyddio neu lluniwch un eich hun yn eich llyfrau gwaith. Cofiwch i ddangos 5 yn gywir gyda'r marciau rhicbren.


Today we would like you to collect your own data in the form of a tally chart. You can collect data on:

  • the amount of same type of toys

  • colours of cars in the street

  • shapes around the house

  • colours of toys

  • fruit or vegetables in the house

Or anything else that you can think of. There is a blank table below for you to use or you could draw your own in your work books. Remember to show 5 in the right way in the tally chart.

Tasg 2 / Task 2:

Ydych chi'n gallu dangos eich data mewn graff pictogram fel yr enghreifftiau isod? / Can you show your data in a pictogram graph like the examples below?

Thema / Theme:

Ioga / Yoga

Dewch i gymryd rhan mewn sesiwn 'Cydbwyso' ioga gydag Emma.

Ar Ă´l gorffen y sesiwn, defnyddiwch y cerdiau ystumiau ioga isod i greu dilyniant o symudiadau ioga eich hunain. Ceisiwch ddewis siapiau fydd yn haws i chi symud o un i'r llall.

Come and take part in a 'Balance' yoga session with Emma.

When you finish the session, use the yoga poses below to create your own yoga movement sequence. Try to choose shapes that you can easily move from one to the other.

Ystumiau ioga.pdf
Yoga movement.pdf

Dydd Iau 28.1.2021 / Thursday 28.1.2021

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Emery. / Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Emery.

Cyflwyniad gwaith Iaith / Literacy work introduction

Iaith 28.1.21.mp4

Cyflwyniad gwaith Mathemateg / Numeracy work introduction

Maths 28.1.21.mp4

Gwaith Iaith / Literacy Work

Darllen / Reading:

Dewch i wrando ar podlediad nesaf cam 2 oren, Tric a Chlic gydag Eirian. Cofiwch i gael pensil a phapur yn barod! / Come and listen to the next stage 2, orange podcast with Eirian. Remember to have a pencil and paper ready!

Tasg / Task:

Ydych chi'n gallu ail-drefnu'r geiriau yn y gĂŞm isod i greu rhai o'r geiriau o'r cam oren, Tric a Chlic? / Can you rearrange the words in the following game from the orange stage of Tric a Chlic?

Ysgrifennu / Writing:

Ar ddechrau'r stori mae'r tylluanod bach yn teilmo'n ofnus ac yn nerfus. Wrth edrych ar y lluniau, rydych chi'n gallu gweld hyn yn eu hwynebau a siâp eu cyrff. Ewch ati i ddisgrifio'r tylluanod yn y ddau lun isod. Defnyddiwch y patrymau iaith wedi'i gosod i chi.

At the start of the story, the owl babies feel scared and nervous. We can see this in their faces and the shapes of their bodies in the pictures. Describe the owls in the pictures below. Use the language patterns provided.

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Dewch i chwarae'r gĂŞm ganlynol i wella eich dealltwriaeth o ddehongli gwybodaeth cyn cyflawni'r tasgau sy'n dilyn. / Click on the link below to work on your understanding of interpreting information before completing the tasks that follow.

Tasg 1 / Task 1:

Edrychwch ar y llun yn ofalus. / Look at the photo carefully.

Llenwch y tabl rhicbren isod neu lluniwch dabl eich hun gan ddangos y nifer cywir o bob anifail ac eitem. / Fill in the tally chart below or draw your own chart showing the correct amount of each animal and item.

Tasg 2 / Task 2 :

Atebwch y cwestiynau yma. / Answer these questions.

Thema / Theme:

Ble mae adar yn byw? / Where do birds live?

Dewch i wylio Rapsgaliwn yn dysgu ble mae adar yn byw.

Come and watch Rapsgaliwn learning where birds live.

Sesiwn Fawr Gwylio Adar 2021 / Big Garden Birdwatch 2021

Y penwythnos hwn mae llawer o bobl ar draws Prydain yn cymryd rhan mewn arolwg adar. Beth am i chi wneud arolwg adar eich hunain, yn yr ardd, yn edrych allan o'r ffenestr, neu yn y parc? Defnyddiwch y daflen isod i adnabod yr adar a gwnewch restr o enwau'r adar yr ydych yn eu gweld.


This weekend many people across Britain are taking part in a bird survey. Why not do a bird survey of your own, in the garden, looking out of the window, or in the park? Use the sheet below to identify the birds and make a list of the names of those you see.

Beth welsoch chi.pdf
what bird did you see.pdf

Digwyddiad Menter iaith BGTM / BGTM's Welsh language event:

Dydd Gwener 29.1.2021 / Friday 29.1.2021

Bore da! Cliciwch ar y linc cyn dechrau eich gwaith er mwyn gweld neges gan Miss Emery. / Good morning! Click on the link before starting your work to see a message from Miss Emery.

Cyflwyniad gwaith Iaith / Literacy work introduction

Iaith 29.1.21.mp4

Cyflwyniad gwaith Mathemateg / Numeracy work introduction

Maths 29.1.21.mp4

Gwaith Iaith / Literacy Work

Darllen / Reading:

Dewch i ddarllen y gerdd isod neu cliciwch ar y linc i glywed Miss Hughes yn ei ddarllen. / Come and read the following poem or click on the link to listen to Miss Hughes reading it.

Ydych chi'n gallu ysgrifennu'r bennill gyntaf allan yn ofalus a cheisio ei dysgu hi? Recordiwch eich hunain ar Seesaw yn ei hadrodd hi. Edrychwch ar fideo Miss Hughes isod fel esiampl.

Can you write the first verse out carefully and try to learn it? Record yourselves on Seesaw reciting the verse. Look at Miss Hughes' video below as an example.

Cariad.mp4

Ysgrifennu / Writing:

Heddiw, hoffwn ni i chi feddwl am adeg pryd roeddech chi yn teimlo'n ddewr, fel y tylluanod bach. Ydych chi erioed wedi teimlo'n ofnus, yn nerfus, neu yn unig? Beth wnaethoch chi er mwyn dod dros y teimlad yma? Ysgrifennwch am yr adeg yma gan ddefnyddio'r patrymau iaith isod. Gallwch ddefnyddio'r dempled isod, neu ysgrifennwch yn eich llyfrau gwaith.

Today, we would like you to think of a time when you were brave like the owl babies. Have you ever felt scared, nervous or lonely? What did you do to overcome this feeling? Write about this time by using the language patterns below. You may use the template or write in your workbooks.

Un tro roeddwn i... (Once, I was....)

Teimlais i yn ... (I felt...)

Roeddwn i yn... (I was...)

Gwaith Mathemateg / Numeracy Work

Mathemateg pen / Mental maths:

Cliciwch ar y linc i gwblhau symiau mathemateg pen. Beth am recordio eich hun ar Seesaw yn ateb y cwestiynau? / Click on the link to complete mental maths sums. How about recording yourself on Seesaw answering the questions?

Tasg / Task :

Heddiw rydyn ni am i chi greu graff eich hun gan ddefnyddio'r wybodaeth yn y tabl rhicbren o'r dasg ddoe. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i fynd a chi ar Jit5 (hwb) i greu eich graff neu gwnewch un eich hun ar bapur / yn eich llyfrau neu hyd yn oed ar y llawr (lluniau gyferbyn fel enghraifft).

Today we would like you to make your own graph using the information in the tally chart from yesterdays task. Follow the instructions below to take you to Jit5 (hwb) to make your graph or, you can make your own on paper / in your books or even on the floor (pictures opposite as an example).

Y tabl rhicbren i helpu os oes angen. / The tally chart to help if needed.

Thema / Theme:

Diwrnod Prysur yr Adar / A Busy Day for Birds


Dewch i wrando ar stori am adar.

Come and listen to a story about birds.

Teclyn bwydo adar / Bird feeder

Tasg: Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y fideo isod i greu teclyn bwydo adar yn defnyddio ysbwriel o'ch bin ailgylchu. Cofiwch anfon llun i ni ar 'Seesaw' neu dudalen 'Trydar' (@ygcwmbran) yr ysgol.

Task: Follow the instructions in the video below to create a bird feeder using rubbish from your recycling bin. Remember to send us a picture on the school's 'Seesaw' or Twitter page (@ygcwmbran).