Gwaith ychwanegol / Extra work

Iaith / Language:

Cofiwch i ddefnyddio'r apiau defnyddiol yma i'ch helpu. / Remember to use the following apps to help you.

Tasg 1: Yr wyddor / Task 1: The alphabet

Ydych chi'n gallu ysgrifennu'r wyddor yn y drefn gywir mewn llythrennau bach, sut mae'r prif lythrennau yn edrych am y llythrennau yma? / Can you write the Welsh alphabet in the correct order in lower case letters, how do the capital letters look for these letters?


Rhowch eich capiau meddwl ymlaen, ydych chi'n gallu chwarae'r gêm A - Y. Meddyliwch am fwydydd ac anifeiliaid sy'n dechrau gyda'r llythrennau’r wyddor. / Put your thinking caps on, can you play the A - Y game? Think of foods and animals that start with the letters in the Welsh alphabet.

Dyma enghraifftiau: / Here are examples:

Tasg 2: i, u, y? / Task 2: i, u, y?

Mae'r llythrennau 'i, u ac y' yn debyg iawn ac yn gallu creu'r un synnau mewn geiriau gwahanol. Ydych chi'n gallu llenwi'r bylchau yn y taflenni isod gyda'r llythrennau cywir? /

The letters ' i, u and y' are very similar and can create the same sounds within different words. Can you fill the gaps within the next few worksheets with the correct letters?

Tasg 3: Berfau 'ais' ac 'odd'. / Task 2: 'ais' and 'odd' verbs.

Pan rydyn ni'n sôn am ein hunain, rydyn ni'n gorffen ein berfau gyda'r llythrennau 'ais' e.e. Cerddais i i lawr y stryd. Pan rydyn ni'n sôn am rywun arall, rydyn ni'n gorffen ein berfau gyda'r llythrennau 'odd' e.e. Cerddodd Ben i lawr y stryd. Ydych chi'n gallu llenwi'r bylchau yn y tabl isod yn gywir? Beth am wedyn fynd ati i ysgrifennu rhai brawddegau yn dechrau gyda'r berfau yma? /

When we are talking about ourselves, we finish our verbs with 'ais' i.e. Cerddais i i lawr y stryd (I walked down the road). When we are talking about someone else, we finish our verbs with the letters 'odd' i.e. Cerddodd Ben i lawr y stryd (Ben walked down the street). Can you fill the blanks in the table below? After completing it, how about trying to write some sentences starting with these verbs?


Mathemateg / Mathematics:

Cofiwch am yr ap a'r wefan isod i ymarfer eich sgiliau. / Remember the app and website below to practise your skills.

Tasg 1: Arian / Task 1: Money

Sawl ffordd ydych chi'n gallu creu'r cyfansymiau isod gan ddefnyddio'r ceiniogau yma? / How many ways can you make the amounts below using these coins?



Beth am chwarae'r gêm yma i helpu datblygu sgiliau gweithio gydag arian?


How about playing this game to help develop working with money skills?

Tasg 2: Gwerth Lle / Task 2: Place Value

Edrychwch yn ofalus ar y tablau isod i lenwi'r bylchau drwy adio neu dynnu 1, 10 neu 100. / Look carefully at the tables below to fill the blanks by adding or subtracting 1, 10 or 100.

Tasg 3: Siapiau / Task 3 : Shapes

Beth am adolygu ein gwybodaeth ar siapiau 2D? Ar ôl edrych ar y pwerbwynt, ceisiwch fynd ati i greu llun gan ddefnyddio siapiau 2D yn unig. Edrychwch ar yr esiamplau isod fel enghreifftiau.

How about revising our knowledge on 2D shapes? After looking at the powerpoint, try to create a picture using only 2D shapes. Look at the ideas below as examples.

wl-n-158--perbwynt-siapiau-2d-perbwynt-welsh-cymraeg

Beth am chwarae'r gem didoli a dosbarthu yma er mwyn gwella ein dealltwriaeth?


How about playing this sorting game to improve our understanding?

Thema / Topic:

Tasg 1: Y gofod / Task 1: Space

Gofynnodd y plant llawer o gwestiynau am y gofod i gyd fynd a'n thema 'Ti, Fi ar Byd'. Beth am edrych ar luniau o'r gofod, y planedau a'r lleuad, a cheisio ail greu'r llun yn eich ffordd eich hun. Fe allech chi ddefnyddio paent, sialc, creonau neu ludwaith.


The children asked many questions about space to go with our topic 'Ti, Fi ar Byd' (Me, You and the World). Why not look at pictures of space, the planets and the moon, and try to recreate the picture in your own way. You could use paint, chalk, crayons or make a collage, the choice is yours.

Tasg 2: Newid hinsawdd / Task 2: Climate change

Dewch i wrando ar y fideo yma am newid hinsawdd ac yna ewch ati i ysgrifennu pa 3 pheth gallwn ni wneud i helpu achub y blaned. Beth am fynd ati i greu poster i annog eraill i geisio dilyn eich syniadau chi hefyd? Edrychwch ar y lluniau isod fel esiamplau.


Come and listen to the video about climate change and then write 3 things that you think we could do to help save the planet. How about creating a poster to persuade others to follow your ideas too? Look at the pictures below for examples.

Newid Hinsawdd (1).mp4