"Mae'n llawer haws ar Gordon Ramsey, Heston Blumenthal a'r holl gogyddion byd-enwog eraill lawer nag ar athrawon. Maent yn ffodus iawn i allu dewis un rysáit er mwyn gwneud y pryd perffaith. Ni waeth faint yr hoffai athrawon (a llunwyr polisïau) i hynny fod yn wir, ym myd addysg nid oes yna'r fath beth â rysáit sy'n gweithio ym mhob achos.”
"Gordon Ramsey, Heston Blumenthal and all the other world-famous chefs have it much easier than teachers. They have the luxury of choosing a single recipe to make a perfect dish. No matter how much teachers (and policy-makers) would like it to be true, in education there is no such thing as a recipe that works in all circumstances.”

Pedro De Bruycker

Beth yw Dysgu Da?

Adnodd sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yw Dysgu Da, sy'n ceisio cefnogi addysgu a dysgu gwych yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae llwyddiant Dysgu Da, sy'n rhan annatod o raglen Dysgu ar gyfer Rhagoriaeth ERW, wedi golygu ei fod wedi tyfu i fod yn adnodd addysgeg ar-lein sy'n cefnogi athrawon yng Nghymru gyda'u datblygu proffesiynol parhaus yn yr amseroedd digynsail hyn, ac mae'n cynnwys enghreifftiau ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth a dysgu digidol o bell.

Dysgu Da

Gellir rhannu'r poster Dysgu Da â'ch dysgwyr, er mwyn iddynt ddod yn ysgogwyr i'w dysgu eu hunain a theimlo cymhelliant i berchnogi eu dysgu. Gall Dysgu Da gynorthwyo dysgwyr i nodi a gwireddu dibenion dysgu, i ddod yn unigolion myfyriol, ac i nodi a gweithredu ar y camau nesaf yn eu taith ddysgu. Mae Dysgu Da hefyd yn cefnogi dysgwyr i wneud cysylltiadau, trosglwyddo sgiliau a dyfnhau, cryfhau ac atgyfnerthu eu dysgu.

Dysgu_Da_Cymraeg.pdf