Dysgu Da
D - Dysgu: Wyt ti wedi dysgu heddiw?
Myfyrio ar y dysgu
D - Dysgu: Wyt ti wedi dysgu heddiw?
Myfyrio ar y dysgu
Dechrau arni gydag ymarfer myfyriol
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Mae'r cymysgedd hwn o erthygl a fideo yn trafod beth yw Ymarfer Myfyriol, ac yn amlinellu buddion gwneud y defnydd mwyaf o ymarfer myfyriol yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae'n cefnogi'r holl fuddion a nodwyd yn yr ymchwil y tu ôl i Ymarfer Myfyriol, ac yn darparu modelau clir i ddangos yr ymchwil a wnaed.
Cambridge International Education Teaching and Learning Team (Saesneg unig)
Cambridge Assessment International Education
Dysgu Digidol
A selection of digital activities and resources which can be used to allow learners to reflect on their learning. The above resources can also be shared with learners electronically, to be completed independently or collaboratively.
Jamboard
Gall y dysgwyr ddefnyddio'r Jamboard 'D-DYsgu:Wyt ti wedi dysgu heddiw?' fel ffordd ryngweithiol o fyfyrio ar eu dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr rannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu a nodi'r camau nesaf yn eu dysgu, a hynny trwy roi nodyn gludiog ar y bwrdd. Gallwch hefyd ofyn i'ch dysgwyr asesu eu gwaith eu hunain a gwaith cymheiriaid, a hynny'n unol â'r meini prawf llwyddiant, a rhannu hyn trwy Jamboard. Gellir rhannu ffotograffau o waith ar Jamboard, fel ffordd o ddathlu'r profiad dysgu. Efallai yr hoffech hefyd ofyn i'ch dysgwyr nodi 'yr hyn a aeth yn dda' a 'hyd yn oed yn well pe’. Gellir gosod nodynnau gludiog ar Jamboard newydd neu ar fwrdd sy'n bodoli eisoes i ddelweddu'r daith ddysgu sydd wedi digwydd.
Mentimeter
Mae Mentimeter yn offeryn rhyngweithiol sy'n caniatáu i ymarferwyr adeiladu cyflwyniadau ymgysylltiol yn hawdd ar-lein, a hynny trwy gwestiynau, arolygon barn, cwisiau, sleidiau a delweddau. Gellir rhannu cyflwyniadau â'ch dysgwyr, gan ganiatáu cyfleoedd iddynt ymateb mewn 'amser real' ac mewn amryw o ffyrdd. Mae'r ymatebion hyn yn cynnwys: cymylau geiriau, cwestiynau amlddewis, graddfeydd, matricsau a chwestiynau penagored. Mae'r offeryn hwn yn caniatáu i ymarferwyr a dysgwyr fyfyrio ar y profiad dysgu, gan nodi'r dysgu sydd wedi digwydd a mynd i'r afael ag unrhyw gamdybiaethau. Yn eich rôl o fod yn ymarferwr, gallwch ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon i lywio cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Flipgrid
Gellir defnyddio Flipgrid yn offeryn i'r dysgwyr fyfyrio ar eu dysgu. Gall y dysgwyr greu fideos Flipgrid i siarad am eu profiad dysgu, dangos eu gwaith, trafod ym mha fodd yr oeddent yn llwyddiannus, a nodi 'hyd yn oed yn well pe’. Gall y dysgwyr fyfyrio ar eu dysgu a darparu awgrymiadau ar gyfer cyfleoedd dysgu yn y dyfodol. Gall eich dysgwyr hefyd rannu fideos â'u cymheiriaid, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer asesiadau effeithiol gan gymheiriaid a chyfleoedd i ddathlu'r gwaith. Yn rôl yr ymarferwr gallwch ddefnyddio Flipgrid i roi adborth effeithiol i'ch dysgwyr, a hynny trwy ymateb i'w fideos yn unigol.
🌐 Flipgrid - Mynediad ar y cyfrifiadur – Dysgwyr.
🌐 Flipgrid - Mynediad ar yr ipad - Dysgwyr
Padlet - Tynnu cipluniau o'ch dysgu
Gall dysgwyr ddefnyddio Padlet fel offeryn cydweithredol i fyfyrio ar eu dysgu. Gofynnwch i'r dysgwyr 'dynnu ciplun o'u profiad dysgu' trwy ysgrifennu sylwadau, nodiadau neu lanlwytho ffotograffau/fideos ar fwrdd Padlet. Gall dysgwyr grynhoi'r dysgu sydd wedi digwydd, nodi'r hyn a aeth yn dda a gofyn unrhyw gwestiynau pellach. Gall dysgwyr hefyd nodi sut y mae'r dysgu wedi symud ymlaen trwy gydol y profiad, awgrymu lle y gallant fynd nesaf ar eu taith ddysgu, ac amlygu sut y gellir cymhwyso'r dysgu ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill.
🌐 Padlet