Dysgu Da
S - Sut?

Wyt ti’n gwybod sut i fod yn llwyddiannus yn dy ddysgu?

John Hattie: Bwriadau Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant

Trosolwg byr o'r cyd-destun: yn y fideo, mae John Hattie yn egluro pwysigrwydd rhannu bwriadau dysgu. Dilyn yr honiad sylfaenol fod gan y dysgwyr yr un syniad â'u hathro o ran yr hyn sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth, a'r hyn y dylent fod yn ei ddysgu o ganlyniad i wneud. Nid yw llawer o ddysgwyr yn mynd i wybod hyn oni bai y tynnir sylw clir ato – bwriadau (neu amcanion) dysgu, a chanlyniadau dysgu (neu feini prawf llwyddiant) sy'n darparu'r cyfeiriad hwn. Mae Hattie yn trafod sawl ffordd wahanol o rannu a hyd yn oed cyd-lunio meini prawf llwyddiant gyda'r dysgwyr i gael yr effaith fwyaf.

John Hattie (Saesneg Unig)

🌐 STEM Learning - John Hattie: Learning intentions and success criteria

Grid Camau at Lwyddiant


Mae'r adnoddau hyn yn gwneud yn union yr hyn y maent yn ei ddatgan! Grid sy'n caniatáu i'r dysgwyr feddwl am gydrannau darn o ddysgu llwyddiannus. Gellir newid y penawdau i weddu i ofynion y dasg, a gellir defnyddio ysgrifbinnau o liwiau gwahanol ar gyfer pob adran i ddangos y camau dysgu gwahanol yn eglur.

Cymraeg Steps to Success
Meini Prawf Llwyddiant

Meini Prawf Llwyddiant

Mae'r adnodd hwn yn caniatáu i'r dysgwyr ymgysylltu gyntaf â'r set teitlau/cwestiynau – gan wneud nodiadau yn yr adrannau bylbiau golau. Beth y mae'r dasg a osodwyd yn gofyn iddynt ei wneud mewn gwirionedd?

Yna, maent yn mynd i'r afael â'r dasg trwy dorri'r dasg a'u gwybodaeth yn benawdau – yn yr achos hwn Pwy, Beth, Pryd, Ble, Pam, gyda Sut ychwanegol. Gellir newid y penawdau hyn yn dibynnu ar y dasg a osodwyd.

Mae adran y casgliad yn annog y dysgwr i feddwl am gyfeiriad ei waith a datblygu ei farn ei hun ar y dasg a osodwyd (os oes angen).

Dysgu Digidol

Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i alluogi'r dysgwyr i feddwl am eu 'camau i lwyddiant' a'u cofnodi. Gellir hefyd rannu'r adnoddau uchod â dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.

Jamboard

Gall y dysgwyr ddefnyddio'r Jamboard 'S-Sut?' i gofnodi eu 'camau at lwyddiant' eu hunain. Gall pob dysgwr yn eich dosbarth gyfrannu at y bwrdd 'camau at lwyddiant' trwy ychwanegu nodyn gludiog, a rhannu ei syniadau a'i farn am y modd y bydd yn llwyddiannus yn ei ddysgu. Gall y dysgwyr ddefnyddio nodynnau gludiog o liwiau gwahanol i ddiffinio'r dasg, y gynulleidfa, y meini prawf llwyddiant a'r eirfa allweddol. Gellir creu Jamboard newydd ar gyfer y dasg hon, neu gall ymarferwyr ychwanegu sleid arall at fwrdd sy'n bodoli eisoes i greu parhad dysgu, fel y dangosir yn yr 'Enghraifft o Ddysgu Digidol ar Jamboard'.

Flipgrid

Gellir defnyddio Flipgrid yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r dysgwyr rannu a chofnodi sut y byddant yn llwyddiannus yn eu dysgu. Yn rôl yr ymarferwr gallwch greu a rhannu fideos â'ch dysgwyr trwy Topics, cyn y profiad dysgu, i esbonio'r bwriadau dysgu a gofyn cwestiynau priodol. (Efallai yr hoffech ddefnyddio rhai o'r strategaethau uchod gan John Hattie i greu eich fideo.) Gall eich dysgwyr ymateb gyda'u fideos eu hunain, gan rannu eu dealltwriaeth o'r dysgu ac egluro eu 'camau at lwyddiant' eu hunain. Gall y dysgwyr, yr ymarferwyr a chymheiriaid gydweithio trwy'r eicon 'reply' i ddyfnhau a chryfhau dealltwriaeth. Ar ôl i'r dysgu ddigwydd, gall eich dysgwyr ymateb i'w fideo gwreiddiol, gan fyfyrio ar eu 'camau at lwyddiant' gwreiddiol, a'u gwerthuso.
🌐 Flipgrid - Mynediad ar yr ipad - Dysgwyr

🌐 Popplet


Popplet

Mae Popplet yn caniatáu i'ch dysgwyr gofnodi, trefnu a rhannu syniadau ynghylch eu dysgu. Gall y dysgwyr ddefnyddio Popplet i gynllunio eu 'camau at lwyddiant', a hynny trwy greu diagram llif rhyngweithiol, gan ddechrau gyda'r cyfle dysgu yn y canol. Gall y dysgwyr ehangu eu syniadau, ynghyd â chynnwys manylion a gwybodaeth bellach, megis y diben, y gynulleidfa, y meini prawf llwyddiant, a'r dyfyniadau neu eirfa allweddol.