Dysgu Da
A - Anelu'n uchel:
A - Anelu'n uchel:
Beth yw dy ddyheadau dysgu?
Pum awgrym ar brosiectau dyheadau
Trosolwg Byr o'r Cyd-destun:
Erthygl fer a ysgrifennwyd gan bennaeth gweithredol ffederasiwn o ysgolion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol, sy'n addysgu disgyblion sy'n ymdopi ag anawsterau dysgu cymhleth ac amgylchiadau personol trallodus, a hynny mewn ardal sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig yn y wlad. Er mwyn torri'r cylch anfantais mewn perthynas â dyheadau, aethant ati i roi prosiect uchelgeisiol ar waith, ac mae'r erthygl hon yn amlinellu'r prosiect ac yn cynnig awgrymiadau ymarferol i annog dyheadau yn ein hystafelloedd dosbarth.
Steve Baker 2018 (Saesneg unig)
Nod CAMPUS ar Ddyheadau
Gofynnwch i'ch dysgwyr osod nod uchelgeisiol iddynt eu hunain yn eich maes dysgu. Mae defnyddio meini prawf y Nod CAMPUS yn caniatáu iddynt egluro eu syniadau, ffocysu eu hymdrechion, defnyddio eu hamser a'u hadnoddau mewn modd cynhyrchiol, ac, yn y pen draw, gynyddu eu siawns o gyflawni eu nod dysgu.
Dysgu Digidol
Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i alluogi dysgwyr i osod nodau a dyheadau uchel iddynt eu hunain. Gellir hefyd rannu'r adnoddau uchod â dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.
Jamboard
Gall y dysgwyr ddefnyddio'r Jamboard 'A-Anelu'n Uchel' i rannu nodau a dyheadau dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr roi nodyn gludiog ar y bwrdd i rannu eu nodau a'u dyheadau dysgu ar gyfer y dyfodol. Efallai yr hoffech ofyn i'ch dysgwyr rannu ffotograff o'u gwaith er mwyn dathlu'r dysgu sydd wedi digwydd.
🌐 A - Anelu’n uchel: Beth yd dy ddyheadau dysgu? - Jamboard
Sgrin Werdd
Gall y dysgwyr ddefnyddio Sgrin Werdd i ddatblygu'r elfen 'Anelu'n Uchel'. Mae Sgrin Werdd yn dod â'r dysgu'n fyw mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Gall y dysgwyr osod nodau uchelgeisiol iddynt eu hunain a chreu fideos deniadol trwy Sgrin Werdd, gan rannu eu nodau a'u dyheadau. Efallai yr hoffech ddarparu meini prawf y Nod CAMPUS i'ch dysgwyr cyn y dasg.
Adobe Spark Post
Gellir defnyddio Adobe Spark Post i'r dysgwyr rannu eu nodau a'u dyheadau dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr greu poster 'Anelu'n Uchel' ar Adobe Spark, gan dynnu sylw at eu nodau a'u dyheadau. Gellir gwneud hyn trwy Hwb neu trwy'r ap Spark Post. Gall y dysgwyr bersonoli eu posteri gydag amrywiaeth o destun a delweddau, a gellir arddangos y posteri fel dathliad o lwyddiannau a dyheadau'r dysgwyr.