Dysgu Da
U - Uno'r dysgu
U - Uno'r dysgu
Wyt ti’n gallu uno’r dysgu trwy wneud cysylltiadau?
Dysgu i ddysgu: gwneud cysylltiadau yw'r allwedd i wybodaeth barhaol
Trosolwg byr o'r cyd-destun:
Mae'r erthygl fer a'r fideo yn trafod gwerth athrawon yn llunio cadwyni gwybodaeth fel ffordd o wneud dysgu'n haws ac yn fwy effeithiol ar gyfer ein dysgwyr.
Barbara Oakley 2019 (Saesneg unig)
🌐 TES - Learn to learn: making links is the key to lasting knowledge
Cadwyni Papur
Gofynnwch i'ch dosbarth ar ddiwedd pwnc dysgu wneud cadwyn bapur i gysylltu eu dysgu â'i gilydd. Mae'n rhaid i bob cadwyn gysylltu â'r un o'i blaen – ni waeth pa mor ddisylwedd yw hynny efallai! Mae'r dasg hon yn cael y dysgwyr i feddwl yn go iawn, a gall hefyd ennyn eu natur gystadleuol, yn enwedig os byddwch yn ychwanegu gwobr ar gyfer y pâr/tîm sydd â'r gadwyn hiraf.
Gallwch ychwanegu un lliw papur ar gyfer dolenni y tu allan i'ch pwnc/MDPh er mwyn ehangu eu meddwl ymhellach.
Dysgu Digidol
Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i alluogi'r dysgwyr i ddeall y cysylltiadau yn eu dysgu. Gellir hefyd rannu 'cysylltiadau dysgu' yr adnoddau uchod â'r dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.
Jamboard
Gall y dysgwyr ddefnyddio'r Jamboard 'U-Uno'r dysgu' i ddangos cysylltiadau yn eu dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr roi nodyn gludiog ar y Jamboard, gan ddweud wrthych am unrhyw gysylltiadau dysgu y maent wedi'u darganfod. Yn rôl yr ymarferwr gallwch herio eich dysgwyr i gysylltu nodyn gludiog ag un blaenorol. Fel yn y gweithgaredd 'cadwyni papur' uchod, gallwch hefyd herio eich dysgwyr i ychwanegu nodynnau gludiog o liwiau gwahanol i ddangos dolenni y tu allan i'r pwnc/MDPh. Mae hyn yn caniatáu cyfleoedd i ehangu, dyfnhau a chryfhau meddwl a dealltwriaeth eich dysgwyr.
🌐 Wakelet
Wakelet
Mae Wakelet yn dudalen ar arddull pinfwrdd sy'n caniatáu i ymarferwyr rannu gwefannau, fideos, dolenni a delweddau â'u dysgwyr. Yn rôl yr ymarferwr gallwch ddefnyddio Wakelet i rannu amrywiaeth o gynnwys sy'n archwilio cysylltiadau rhwng dysgu, gan ganiatáu i'ch dysgwyr wneud cyswllt a dyfnhau eu dealltwriaeth mewn perthynas â chysyniad neu bwnc penodol.
Padlet - Cysylltu Mapiau
Gall dysgwyr ddefnyddio Padlet i ddangos cysylltiadau yn eu dysgu. Gall dysgwyr greu 'mapiau cysylltu' trwy osod nodiadau Post-it ar y bwrdd Padlet, gan ddangos ac esbonio'r cysylltiadau dysgu y maent wedi'u darganfod. Gall dysgwyr ddefnyddio cod lliwiau ar gyfer eu nodiadau Post-it i ddangos y cysylltiadau dysgu sydd wedi digwydd ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad gwahanol.
🌐 Padlet
🌐 Popplet
Popplet
Gall y dysgwyr ddefnyddio Popplet i greu diagramau llif rhyngweithiol sy'n arddangos cysylltiadau gweledol yn eu dysgu. Gall y dysgwyr roi'r pwnc yng nghanol y dudalen a chreu 'swigod meddwl' o amgylch y teitl, sy'n nodi cysylltiadau clir â'r dysgu. Gall y dysgwyr roi cod lliw i'r swigod i ddangos ac egluro cysylltiadau pendant yn y dysgu.