Nod

Dysgu Da

"Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu".


Canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2020

Nod Dysgu Da yw sicrhau bod gan ddysgwyr:

  • Y sgiliau i gaffael gwybodaeth, syniadau, gwerthoedd, ffyrdd o feddwl a dulliau o'u mynegi eu hunain.

  • Y sgiliau i wneud cysylltiadau â dysgu, a throsglwyddo'r sgiliau i gyd-destunau amrywiol.

  • Y cymhelliant a'r ysgogiad i berchnogi'r dysgu, gan adnabod a gwireddu diben y dysgu.

  • Y gallu i gynhyrchu'r camau nesaf o ran dysgu, a'u rhoi ar waith.

  • Y sgiliau sydd eu hangen i atgyfnerthu, dwysáu a chryfhau'r dysgu.

  • Y gallu i fyfyrio ar ddysgu a nodi dyheadau o ran dysgu.

"Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n ystyried 'pam' a 'sut' yn ogystal â 'beth'."

Canllawiau Cwricwlwm i Gymru 2020