Dysgu Da
G -Gwybod y pam

Wyt ti’n gwybod y pam o dy ddysgu?

Ymchwiliwch eich dysgu yn Google

Defnyddio Google i Ddysgu


Adnodd syml sy'n annog y dysgwyr i roi pwnc eu dysgu yn Google a chofnodi syniadau am werth eu dysgu.

Dysgu Digidol

Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i alluogi'r dysgwyr i feithrin dealltwriaeth dda o 'pam' eu dysgu. Gellir hefyd rannu'r adnoddau uchod â dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.

Jamboard

Gall y dysgwyr ddefnyddio'r Jamboard 'G-Gwybod y pam' i rannu eu dealltwriaeth o'r dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr roi nodyn gludiog ar y Jamboard, gan rannu a chofnodi eu syniadau am werth eu dysgu. Gellir creu Jamboard newydd ar gyfer y dasg hon, neu gall ymarferwyr ychwanegu sleid arall at fwrdd sy'n bodoli eisoes, fel y dangosir yn yr 'Enghraifft o Ddysgu Digidol ar Jamboard'.

🌐 Dysgu Digidol Esiampl Jamboard

Britannica Digital Learning

Mae Britannica Digital Learning yn wyddoniadur ar-lein diogel, sy'n cynnwys adnoddau addas i'r oedran y gellir cyrchu trwy Hwb. Gall eich dysgwyr ddefnyddio Britannica Digital Learning i ymchwilio i bwnc penodol – gan ddarganfod 'pam' eu dysgu. Mae yna amrywiaeth o offer yn Britannica, gan gynnwys y canlynol: cyfieithu, darllen yn uchel, geiriadur clic dwbl, a lefelau darllen y gellir eu haddasu.

Swiggle

Mae Swiggle yn beiriant chwilio addas i blant, ac felly i ddysgwyr. Cynlluniwyd i Swiggle ddarparu amgylchedd mwy diogel i'r dysgwyr hynny sy'n cymryd eu camau cyntaf ar y ffordd i chwilio ar-lein mewn modd diogel. Gall y dysgwyr gyflawni'r gweithgaredd uchod, 'Chwiliwch ar Google', trwy ddefnyddio Swiggle i ddarganfod gwerth eu dysgu. Gall y dysgwyr ddefnyddio'r templed gweithgareddau 'Chwiliwch ar Swiggle', neu greu eu ffordd eu hunain o gofnodi gwybodaeth, a hynny gan ddefnyddio offer ar-lein megis Google Docs, JIT5, J2e5 neu Jamboard.

Padlet - Amser Cwestiynau Byw

Hysbysfwrdd cydweithredol ar-lein yw Padlet, y gall dysgwyr ac ymarferwyr ei ddefnyddio i bostio nodiadau, dolenni, fideos, delweddau a ffeiliau dogfennau. Gall dysgwyr ddefnyddio Padlet i ddeall diben a gwerth eu dysgu. A chithau'n ymarferwyr, gallwch greu bwrdd 'amser cwestiynau byw', lle gall dysgwyr bostio cwestiynau yn ystod eu profiad dysgu. Gall ymarferwyr neu ddysgwyr ymateb i gwestiynau byw i gefnogi, cryfhau ac atgyfnerthu'r dysgu sy'n digwydd.

🌐 Padlet