Dysgu Da
D - Dysgu blaenorol:
Wyt ti’n gwybod? Ysgogi dysgu blaenorol

Dechrau Da: Yr her addysgegol o ysgogi gwybodaeth flaenorol ar gyfer pob disgybl


Trosolwg byr o'r cyd-destun:

Mae'r erthygl yn disgrifio prosiect a grëwyd i ymateb i'r her addysgegol ddeublyg y mae'r rhan fwyaf o athrawon yn ei hwynebu: sicrhau bod pob plentyn yn ymgysylltu â'r broses o dynnu ar wybodaeth flaenorol; ac asesu ansawdd y ddealltwriaeth gyfredol honno. Roedd yn brosiect dwy flynedd, mewn pedair ystafell ddosbarth gynradd oedran cymysg, a aeth ati i ddatblygu fframwaith ar gyfer dyfeisio gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â'r ddwy broblem hyn wrth geisio sicrhau dysgu effeithiol. Er bod y prosiect wedi'i osod mewn lleoliad cynradd, byddai'r heriau, yr ymyraethau a'r canlyniadau yr un mor berthnasol mewn ystafell ddosbarth uwchradd.

Christopher Tay May 2018

Impact: Journal of the Chartered College of Teaching (Saesneg unig)

🌐 A good start: The pedagogical challenge of engaging prior knowledge for all pupils

A-Y

Adnodd gwych i asesu gwybodaeth dysgwr o gysyniad neu bwnc trwy feddwl am air cysylltiedig sy'n dechrau gyda phob un o lythrennau'r wyddor.

Tasg wych i'w dechrau gydag unigolion, gan symud i drafodaethau mewn parau/grwpiau bach ac yna â'r dosbarth cyfan.


A -Y o bethau sy_n gysylltiedig â....pdf
Copy Grid Twf Gwybodaeth.docx

Grid Twf Gwybodaeth

Mae'r grid hwn yn eich galluogi i roi gwybodaeth flaenorol y dysgwr ar waith trwy ddefnyddio'r blwch 'gwreiddiau' mewnol – i asesu'r hyn y mae eich dysgwyr yn ei wybod eisoes, ac i roi cyfle i chi fynd i'r afael ag unrhyw gamdybiaethau yng ngwybodaeth eich dysgwr am y pwnc. Wrth i'r dysgu fynd rhagddo trwy gydol y wers (neu gyfres o wersi), mae'r dysgwr yn gallu llenwi'r grid ar adegau gwahanol i asesu sut y mae ei wybodaeth yn tyfu. Gellir defnyddio lliwiau gwahanol wrth lenwi pob grid i wneud yr wybodaeth yn fwy amlwg.

Gellid defnyddio cynnyrch eich grid gwybodaeth i 'ymestyn gwybodaeth' hefyd – er enghraifft: dyfyniadau, terminoleg sy'n benodol i'r pwnc, ac ati

Fy Ymennydd Elastig Ffantastig

Adnodd gwych i'w ddefnyddio gyda dysgwyr i weld beth sydd ganddynt yn eu hymennydd eisoes ar ddechrau pwnc. Gallant wedyn ychwanegu at eu hymennydd trwy gydol eu dysgu – gydag ysgrifbinnau o liwiau gwahanol os dewiswch, i amlygu eu dilyniant dysgu.

Fy Ymennydd Ffantastig

Dysgu Digidol

Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio yn y dosbarth neu gartref i roi gwybodaeth flaenorol y dysgwyr ar waith. Gellir hefyd rannu'r adnoddau uchod â dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.

Jamboard

Mae'r adnodd 'D - Dysgu blaenorol?' ar Jamboard yn eich galluogi i roi gwybodaeth flaenorol eich dysgwyr ar waith. Mae'r dysgwyr yn gosod nodyn gludiog ar y Jamboard, gan rannu'r hyn y maent eisoes yn ei wybod am eu dysgu. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, gallwch nodi gwybodaeth flaenorol a mynd i'r afael â chamdybiaethau, yn ogystal â defnyddio'r nodynnau i atgyfnerthu, meithrin a chryfhau'r dysgu .

🌐 D - Dysgu blaenorol: Wyt ti'n gwybod? Ysgogi dysgu blaenorol - Jamboard

🌐 Dysgu Digidol Esiampl Jamboard

Kahoot

Mae hwn yn adnodd cwis rhyngweithiol a llawn hwyl i roi gwybodaeth flaenorol ar waith. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, gallwch lunio cwestiynau ac atebion sy'n gysylltiedig â chyfleoedd dysgu blaenorol, gan ddarparu cyfnod effeithiol i'r dysgwyr feddwl, cydweithio ac ymateb. Efallai yr hoffech osod y dysgwyr mewn grwpiau yn unol â hynny, er mwyn nodi gwybodaeth flaenorol a mynd i'r afael â chamdybiaethau, gan symud y dysgu yn ei flaen yn effeithiol.


Flipgrid

Mae Flipgrid yn llwyfan ar-lein ar gyfer trafod dros fideo sy'n eich helpu i weld pob dysgwyr yn eich dosbarth a chlywed ganddo. Gall ymarferwyr osod awgrymiadau trafod i'r dysgwyr ymateb iddynt, p'un a ydynt yn dysgu yn y dosbarth neu gartref. Gall eich dysgwyr gofnodi'r hyn y maent eisoes yn ei wybod am eu dysgu, ac ymateb i'w sylw gwreiddiol ar ôl i'r dysgu ddigwydd, gan ddweud wrthych bopeth y maent wedi'i ddysgu.

🌐 Canolfan Cymorth Flipgrid ar Hwb

🌐 Flipgrid - Canllaw i athrawon

Flipgrid - Laptop - Pupil access to Flipgrid .mov

🌐 Slido


Slido

Mae Slido yn llwyfan ar gyfer Holi ac Ateb ac arolygon barn y gellir ei ddefnyddio ar y cyd â Microsoft Teams a Google Meet. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i ymarferwyr ddefnyddio'r adnodd yn y dosbarth neu'r tu allan iddo. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, gallwch osod cwestiynau ac arolygon barn i roi gwybodaeth flaenorol eich dysgwyr ar waith. Gall y dysgwyr ymateb i'r cwestiynau a'r arolygon barn ar unwaith, gan eich galluogi i ddefnyddio'r atebion a'r canlyniadau yn llwyfan i drafodaeth gyfoethog.