Dysgu Da
Y- Ymgysylltu:

Wyt ti’n ymgysylltu â’r dysgu?

Strategaethau ymgysylltu â myfyrwyr

Trosolwg byr o'r cyd-destun:

Mae'r blog hwn yn gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddatgan! Mae'n amlinellu 19 o strategaethau addysgu y gellir eu defnyddio gan bob athro i gynyddu ymgysylltiad dysgwyr. Maent yn amrywio o newidiadau syml y gellir eu gwneud i'ch gwers nesaf, i ailwampio'r cwricwlwm, y broses o ddarparu'r cwrs a'r fethodoleg asesu yn llwyr. Mae'r blog yn cynnig cyflwyniad i ambell strategaeth sy'n canolbwyntio ar y dysgwr y gellir ei rhoi ar waith – yn amrywio o rai syml i rai cymhleth.

Vawn Himmelsbach May 2019 (Saesneg Unig)

🌐 Top Hat - 19 Student Engagement Strategies to Start with in Your Course (Saesneg Unig)

Olwyn Hunanasesu


Mae'r adnodd hwn yn galluogi'r dysgwr i gymryd 'hunlun' o'r cynnydd yn ei ddysgu. Bydd yn ei helpu i benderfynu ar y camau nesaf y mae'n rhaid iddo eu cymryd i barhau i wneud cynnydd yn ei ddysgu, a thrwy hynny yn ei gynnwys yn ei broses ddysgu eu hun.

Olwyn Hunanasesu
Rwyf wedi dysgu - Meddylfryd Twf

Rwyf wedi dysgu...

Adnodd syml sy'n annog dysgwyr i fyfyrio nid yn unig ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu, ond hefyd ar yr hyn yr oedd angen iddynt ei wybod cyn y gallai'r dysgu hwnnw ddigwydd. Ennyn ymgysylltiad y dysgwr yn y broses o feithrin ei ddysgu a thyfu'i ymennydd.


Nod twf CAMPUS

Anogwch eich dysgwyr i osod Nod CAMPUS iddynt eu hunain yn eich maes dysgu. Ennyn diddordeb y dysgwr er mwyn iddo herio ei hun, a fydd yn arwain, gobeithio, at effaith o ran ei ddysgu.

Fy Nod Meddylfryd Twf CAMPUS

Dysgu Digidol

Detholiad o weithgareddau ac adnoddau digidol y gellir eu defnyddio i ennyn diddordeb eich dysgwyr. Gellir hefyd rannu'r adnoddau uchod â dysgwyr yn electronig, i'w cwblhau'n annibynnol neu ar y cyd.

Jamboard

Gall dysgwyr ddefnyddio'r adnodd 'Y- Your Learning' ar Jamboard i roi gwybod i chi am eu dysgu. Gofynnwch i'ch dysgwyr osod nodyn gludiog ar y Jamboard sy'n dweud wrthych i ba raddau y maent wedi ymgysylltu â'u dysgu, ac sy'n awgrymu ffyrdd o gynyddu eu hymgysylltiad. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, efallai yr hoffech greu Jamboard newydd ar gyfer y dasg hon, neu barhau i ddefnyddio Jamboard cyfredol, yn unol â'r hyn a ddangoswyd yn yr enghraifft o Ddysgu Digidol ar Jamboard.

🌐 Y - Ymgysylltu: Wyt ti’n ymgysylltu â’r dysgu? - Jamboard

🌐 Dysgu Digidol Esiampl Jamboard

Fideo Adobe Spark

Mae fideos amlgyfrwng, tebyg i Adobe Spark, yn ffordd effeithiol o 'fachu' eich dysgwyr, ac ymgysylltu â nhw. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, gallwch greu fideos cyffrous sy'n cyflwyno'r cefndir a'r cyd-destun i'r dysgu, gan ddarparu gwybodaeth allweddol sy'n galluogi'r dysgwyr i greu eu meini prawf llwyddiant eu hunain. Gellir rhannu fideos yn y dosbarth, neu o bell trwy ddolenni.

🌐 Adobe Spark for Education - Hwb


Flipgrid

Mae Flipgrid yn eich galluogi chi, yr ymarferwyr, i 'wrthdroi'r dysgu'. Gellir darparu cyfleoedd sy'n galluogi'ch dysgwyr i ddysgu am bwnc neu thema yn annibynnol, y tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Gallwch chi, yr ymarferwyr, rannu fideos a recordiwyd ymlaen llaw â'ch dysgwyr – gan ysgogi dysgu blaenorol, dyfnhau dealltwriaeth, datblygu sgiliau meddwl, darganfod diddordebau'r dysgwyr, a meithrin amgylchedd dysgu cymdeithasol hwyliog a chefnogol. Gellir treulio'r amser yn yr ystafell ddosbarth i symud y dysgu yn ei flaen, a hynny trwy ddull sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.

🌐 Canolfan Cymorth Flipgrid ar Hwb 🌐 Flipgrid - Canllaw i athrawon.

🌐 Flipgrid - Mynediad ar y cyfrifiadur – Dysgwyr

JIT5 Ysgrifennu (J2E)

Mae JIT5 yn adnodd ar-lein a geir ar J2e trwy Hwb, ac a gynlluniwyd ar gyfer dysgwyr iau. Gall y dysgwyr ddefnyddio JIT5 i rannu eu dysgu a'r hyn yr oedd angen iddynt ei wybod gyntaf, a hynny naill ai trwy ddewis yr offer ysgrifennu neu'r adnoddau recordio llais. Gall y dysgwyr addasu eu gwaith trwy ddewis delweddau a lliwiau. Yn eich rôl o fod yn ymarferwyr, gallwch ymateb i waith y dysgwyr ar JIT5, gan ddarparu adborth effeithiol trwy sylwadau ysgrifenedig neu recordiadau llais.

🌐 JIT Ysgrifennu