Ar gyfer y dasg yma, roedd angen i mi ddefnyddio Alt-Shift-x ar y cyfrifiadur i eneradu tudalen Wikipedia ar hap. Pwrpas hon oedd trio dod lan efo syniad bras ar gyfer gêm.
I'r dde, rydw i wedi dangos lluniau o'r holl dudalennau wnes i ddefnyddio i gwblhau'r dasg.
Fy ffefrynnau i yn Trouser Jazz ac Atomic Robo, gan fod nhw'n ysbrydoli syniadau am gemau yn syth, Trouser Jazz oherwydd ei natur chwerthinllyd ac Atomic Robo oherwydd ei strwythur clir ar gyfer gêm saethu neu Roguelike/lite.
Nod y dasg yma oedd gwella ein sgiliau meddwl yn greadigol ac ein sgiliau o ddylunio gêm. Ar ôl dod lan efo syniad, roedd angen i mi gynnig fy syniad i fy nghyd-ddisgyblion yn y dosbarth i wrando ar ei sylwadau.
Rydych chi'n byw ar ynys fach ac rydych chi'n rhan o'r gymuned leol, fe wnaethoch chi dyfu i fyny yma. Ond newidiodd popeth y noson honno… Fe chwalodd cymuned a oedd unwaith yn heddychlon oherwydd pobl ddrwg, a phenderfyniadau gwaeth.
Roeddech chi'n gweithio fel ditectif yn yr orsaf heddlu lleol cyn i'r cyfan fynd i lawr yr allt. Rhywsut, ar ôl y trychineb chi yw'r unig un ar ôl, yn sownd ar yr ynys hon. Sut gallai fod? Pam Fi? Rydych yn erfyn. O'r pellter fe welwch yr hyn sy'n ymddangos fel tylwyth teg disglair yn arnofio i lawr atoch chi o'r awyr. Rydych chi'n ceisio ei ddal yn eich dwylo i edrych yn agosach ond mae'n eich symud yn ôl i 3 wythnos cyn i'r trychineb ddigwydd. RHAID i chi drwsio popeth. Mae POPETH arnat ti nawr…
Rydych chi'n ôl yn y bwyty lleol, gyda choffi du yn disgleirio arnoch chi, yn aros i gael eich yfed. Mae'n ymddangos bod eich cysylltiad â gwrthrychau a phobl wedi cynyddu. Rydych chi'n sylwi bod rhywun rydych chi'n ei adnabod o'r Ysgol Uwchradd yn eistedd mewn bwth y pen arall i'r ystafell fwyta. Rydych chi'n mynd i ddechrau sgwrs...
Dyma ddechreuad yr em. Yn yr em byddwch yn gallu ailddirwyn amser i drio datrys dirgelion er mwyn osgoi’r trychineb.
Mae’n swnio’n addawol ond yn rhy ddibynnol ar naratif yr em. Maent yn hoffi’r syniad o ailddirwyn amser ond yn meddwl bod efallai gall hynny fod yn rhy bwerus os nad ydy e’n cael ei gydbwyso’n dda. Hefyd, roedden nhw’n awgrymu ychwanegu llinellau stori ganghennog er mwyn gwneud yr em yn bosib ac yn hwyl i ail-chwarae. Yn olaf, roedden nhw’n pwysleisio fod y gerddoriaeth a steil cyffredinol yr em yn mynd i warae rôl bwysig iawn yn fwynhad yr em.