Cyn dechrau'r cwrs, doedd gen i ddim profiad yn defnyddio FL Studio neu greu cerddoriaeth yn gyffredinol o gwbl. Roedd y cwrs yma yn gorfodi fi i ddysgu sut i greu cerddoriaeth. Gwelwch isod i weld sut ddechreuodd fy mhrofiad o greu cerddoriaeth i sut mae'n mynd ar hyn o bryd.
Dyma fy ymarferion yn defnyddio MIDI ac FL Studio at ddechrau fy mhrofiad efo gerddoriaeth.
Ar gyfer Modiwl 1, roedd angen i mi ddysgu am feth yn union rydw i'n mynd i ddysgu a sut rydw i'n mynd i wneud hynny trwy gydol y cwrs yma.
Roedd angen i mi ystyried y math o em, y themâu gwahanol ac yn sicr, bwriad y cerddor gwreiddiol. Dysgais fod creu bwrdd hwyliau yn dda ar gyfer cael ysbrydoliaeth i greu cerddoriaeth o fath penodol.
Wrth orffen Modiwl 1, wnes i orffen fy nhasg 'MinusONE' cyntaf i, enw e oedd "A Hero's Journey". Defnyddiais FL Studio a'r 'BBC Symphony Orchestra' o 'Spitfire Audio'.
Dyma enghraifft o fwrdd hwyliau ar gyfer cerddoriaeth gemau Dark Souls.
Yr holl bwrpas Modiwl 2 oedd cyflwyno cerddoriaeth sy'n dolennu i ni. Roedd llawer o esboniadau a thrafodaethau efo Tobi Weiss ar gael i ni i ddysgu am sut mae'n gweithio a sut rydym ni'n mynd i fynd at greu cerddoriaeth sy'n dolennu ein hunain.
Roedd angen i mi wneud fy ail dasg 'MinusONE' a thro yma roedd e'n rhyfedd ac yn ddoniol iawn... "Flying Llamas" oedd enw'r 'MinusONE' ac roedd e mor rhyfedd, roedd e'n anodd tu hwnt i gwblhau'r dasg. Gwelir isod i glywed fy ngwaith a beth wnes i ddod lan efo.
Yn ogystal, roedd angen i mi gwblhau asesiad diwedd modiwl oedd yn cynnwys 13 cwestiwn am ddolennu cerddoriaeth a chwestiynau am dechnegau gwahanol. Ces i 12/13 yn gywir.
Pwrpas Modiwl 3 oedd dysgu ni sut i gyfansoddi systemau llorweddol. Amcanion y modiwl yma yw dysgu ni sut mae systemau llorweddol yn gweithio a sut i gyfansoddi cerddoriaeth amdanynt, deall yr holl bethau sydd rhaid ystyried wrth ysgrifennu cerddoriaeth am system lorweddol a dysgu sut i fynd at ysgrifennu cerddoriaeth am steiliau gwahanol.
Roedd angen i mi wneud fy trydedd dasg 'MinusONE', roedd angen i mi ddilyn syniad yr em 'Legend of The Scrolls'. Roedd angen i mi greu cerddoriaeth ar gyfer ataliad, yna ymlid ac yn olaf, dianc. roedd rhaid iddyn nhw drawsnewid yn ysgafn ac yn swnio'n addas ar gyfer beth fydd yn digwydd yn yr em e.e. ymlid yn angerddol, dianc yn fuddugoliaethus.
Yna roedd angen i mi gwblhau cwis/asesiad diwedd modiwl eto i sicrhau fy mod i wedi dysgu'n gywir a deall y pethau yma cyn symud ymlaen at y modiwl nesaf.
I'r dde, mae'r llun o gyfansoddydd o’r enw Richard Wilkinson rydym yn dysgu o du fewn i'r cwrs, ac o dan iddo fo mae fy ngwaith 'MinusOne' terfynol.
Pwrpas Modiwl 4 oedd dysgu ni sut i gyfansoddi systemau fertigol. Amcanion y modiwl yma yw dysgu ni sut mae systemau fertigol yn gweithio a sut i gyfansoddi cerddoriaeth amdanynt, deall yr holl bethau sydd rhaid ystyried wrth ysgrifennu cerddoriaeth am system fertigol a dysgu sut i fynd at ysgrifennu cerddoriaeth am steiliau gwahanol.
Roedd angen i mi wneud fy pedwaredd dasg 'MinusONE', roedd angen i mi ddilyn syniad yr em 'Eclipse of The Invaders'. Roedd angen i mi greu cerddoriaeth ar gyfer tensiwn, pwls rhythmig, gweithredu'n dechrau, ymladd i'r farwolaeth. Roedd rhaid iddyn nhw adeiladu ar ben ei gilydd yn ysgafn ac yn swnio'n addas ar gyfer beth fydd yn digwydd yn yr em.
Yna roedd angen i mi gwblhau cwis/asesiad diwedd modiwl eto i sicrhau fy mod i wedi dysgu'n gywir a deall y pethau yma cyn symud ymlaen at y modiwl nesaf.
I'r chwith, mae'r llun o gyfansoddydd o’r enw Guy Michelmore rydym yn dysgu o du fewn i'r cwrs, ac o dan iddo fo mae fy ngwaith 'MinusOne - Eclipse of The Invaders' terfynol.
Pwrpas Modiwl 5 oedd dysgu ni sut i gyfansoddi am ginemateg tu fewn i ffilm a gemau fideo. Amcanion y modiwl yma yw dysgu ni sut mae cinemateg yn wahanol i'r cyfansoddiadau arall rydym wedi gwneud yn y gweithdai sain erbyn hyn, a deall yr holl bethau sydd rhaid ystyried wrth ysgrifennu cerddoriaeth am ginemateg a thoriad olygfeydd.
Roedd angen i mi wneud fy pumed dasg 'MinusONE', roedd angen i mi gyfansoddi am ginemateg 3 a hanner munud sy'n fideo gan Unity o’r enw 'Book of The Dead'. Roedd angen i mi greu cerddoriaeth efo Arthur ar gyfer nifer o ddigwyddiadau yn y fideo ac roedd angen i'r gerddoriaeth cyd-fynd yn addas efo beth oedden ni'n weld ym mhob adeg o'r fideo.
Yna roedd angen i mi gwblhau cwis/asesiad diwedd modiwl eto i sicrhau fy mod i wedi dysgu'n gywir a deall y pethau yma cyn symud ymlaen at y modiwl nesaf.
I'r dde, rydw i wedi atodi'r fideo cinemateg efo ein cerddoriaeth derfynol. Hefyd, mae'r gerddoriaeth wedi cael ei 'sidechained' gan mi tu fewn i FL Studio yn defnyddio'r 'Fruity Limiter a chwarae o gwmpas efo'r traciau 'mixer'.