Dyma fy nhro cyntaf efo defnyddio Aseprite, wnes i lunio sprite ar gyfer y chwaraewr yn yr em.
Mae hyn yn cynnwys animeiddiadau cerdded i lawr, i'r dde, i'r chwith ac i fyny.
Dyma fy tileset cyntaf wnes i greu gan ddefnyddio'r sprite editor tu fewn i GameMakerStudio 2.
Mae hyn ar gyfer:
Cefndir
Waliau
Llawr
Drysau tu fewn
Matiau llawr (mawr a bach)
Grisiau
Arwyddion
Mae'r llinellau mewn aseprite a celf picselaidd yn gyffredinol angen bod yn ysgafn iawn. I sicrhau hyn, wnes i gwblhau taflen waith llinellau ble roedd angen i mi dilyn llinellau a sicrhau fod onglau a'r cymharebau yn aros yn gyson trwy gydol y llinell.
Hefyd, mewn celf picselaidd, rhaid i chi cael gwared o 'Doubles' sydd ble mae'r llinellau yn cael dau picsel ble dyle fod dim ond un, mae esiample o 'Doubles' i'w weld ar gwaelod-chwith. Peth arall sydd angen cael ei osgoi yw 'Jaggies' ble mae un picsel yn sticio allan ble dyle fod llinell ysgafn. Yn olaf, mae rhaid sicrhau bod eich trefn mathemategol yn gywir efo'r llinell er mwyn i bopeth llinell i fyny'n gywir.
Ar gyfer y tasg yma, roedd angen i mi ddefnyddio fy sgiliau llinellau newydd er mwyn cwblhau taflen waith o siapau 2D a 3D. Roedd siapau 3D yn cynnwys llawer o dechnegau gwahanol yn enwedig efo'r côn a'r sffêr oherwydd mae ganddyn nhw llinellau syth, arciau a mae'n anodd i llinell i fyny'r llinellau yn fathemategol.
Dyma oedd y sialens mwyaf erbyn hyn, roedd angen i mi gymryd siap 2D ac ychwanegu lliwiau a graddliwio'r siapau er mwyn cynhyrchu effaith 3D ar y siap. Roedd technegau gwahanol, anodd ar gyfer pob math o siap ond dyma oedd fy mhroses:
Lliwio'r holl lliwiau mewn
Cysgodi
Goleuo
Ychwanegu manylion
Ar ôl gorffen, roeddwn i'n trio delweddu ym fy mhen sut byddai'n defnyddio'r siapu yma i wneud eitemau mewn gêm. Gall y ciwb fod yn desg neu bocs, pyramid fod yn pyramid neu pigyn, sffêr fod yn pêl neu afal, silindr fod yn can neu fwled a bydd y côn yn coed yn sicr.
Roedd tasg yma'n syml ac yn ailadroddus iawn, roedd angen i mi wneud 3 fflam gwahanol efo meintiau a siapau gwahanol ar gyfer pob un. Gwelir rhain ar y chwith. Dechreuais efo amlinell du a wedyn wnes i llenwi'r du mewn efo coch, defnyddio'r offeryn bwced paent i lewni'r amlinell a wedyn lliwio'r lliwiau arall tu fewn dros y coch.
Dyma oedd tasg gorau yn fy marn i erbyn hyn, roedd tasg yma'n realistig iawn gan fod llawer o gêmau yn cynnwys drylliau a lansiwr rocedi felly mae'r tasg yma'n gwneud i fi'n cynhyrfus am y dyfodol o'r tasgiau Aseprite.
Pwrpas tasg yma oedd i lunio pel-fflam i sicrhau bod ein
sgiliau llunio fflamau/ffrwydriadau ni yn ddigon dda er mwyn
symud ymlaen at rhan nesaf y modiwl.
Ar gyfer y rhan yma o'r modiwl, roedd angen i mi greu llun syml o ddwr, ac yna ychwanegu mwy a mwy at e. Wnes i ychwanegu dwr a chymylau, wedyn y tiroedd ar y chwith a'r dde, a wedyn un yn y canol yn arnofio ar yr awyr.
Wedyn, roedd angen i mi lunio llun o dwr wrth edrych lawr at e, roedd hyn yn eithaf hwyl a wnes i ddysgu llawer o sgiliau.
Ar gyfer y tasg yma roedd angen i mi animeiddio cwmwl o fwg.
Wnes i lunio 10 ffram sy'n rhedeg i wneud yr animeiddiad. Roedd tasg yma'n rhoi fi syniad bras o sut mae animeiddiadau yn gweithio a sut i ddefnyddio aseprite i animeiddio ar gyfer gemau.
Nawr rydw i'n teimlo'n fwy hyderus wrth fynd ymlaen at animeiddio.
Dyma cymeriad cyntaf wnes i lunio, Sage. Roedd tiwtorial yma'n dysgu ni:
Gwahaniaethau rhwng 2D 'sidescroller' a 2D 'top-down' perspectifau wrth lunio cymeriadau
Sut i defnyddio effaith dyllu (dithering)
Sut i gysgodi a goleuo yn dibynnu ar ffynhonnell golau
Animeiddiad: Cerdded 4 Ochr