Annwyl Rieni, Gwarcheidwaid a Dysgwyr,
Hoffwn estyn croeso cynnes i chi i’n gwefan newydd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi pob agwedd ar bontio o fewn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Rydym yn deall bod symud rhwng cyfnodau addysgol yn gallu bod yn gyffrous ond hefyd yn llawn cwestiynau – boed hynny’n symud o’r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Isaf, o'r Ysgol Isaf i'r Ysgol Uchaf ac o'r Ysgol Uchaf i'r Chweched Dosbarth.
Pwrpas y Wefan Bontio
Mae'r wefan hon wedi'i chreu i fod yn ganolbwynt gwybodaeth clir a chynhwysfawr ar gyfer y tri phrif gyfnod pontio hyn. Yma, fe welwch:
Amlinelliad o’r Pynciau: Gwybodaeth fanwl am y cyrsiau a'r pynciau sydd ar gael ar bob lefel. Bydd hyn yn cynnwys manylion am y cwricwlwm, y gofynion a'r opsiynau dewisol (lle bo'n berthnasol) i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am lwybrau astudio yn y dyfodol.
Gwybodaeth Allweddol am y Broses: Canllawiau cam wrth gam ar y broses bontio ei hun, gan gynnwys amserlenni, digwyddiadau allweddol, ac enwau a rolau’r staff cyswllt.
Cymorth a Chyfarwyddyd: Adnoddau a chyngor ar sut i drafod opsiynau gyrfa a phynciau gartref, a sut i geisio cyngor gan ein hathrawon a Phenaethiaid Blwyddyn.
Ein nod yw sicrhau bod pawb – rhieni, gwarcheidwaid, a’n disgyblion – yn teimlo’n hyderus ac yn barod ar gyfer y cam nesaf yn eu taith addysgol.
Cymerwch eich amser i archwilio'r adrannau perthnasol a pheidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Pob dymuniad da i chi,
Mr. Matthew Webb
Prifathro
/ --- /
Dear Parents, Guardians and Learners,
I would like to extend a warm welcome to our new website designed to support all aspects of transition within Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
We understand that moving between educational phases can be exciting but also full of questions – whether that is moving from Primary School to the Lower school, from the Lower School to the Upper School and from the Upper School to the Sixth Form.
The Purpose of the Transition Website
This website has been created to be a clear and comprehensive information hub for these three main transition periods. Here, you will find:
Subject Outline: Detailed information about the courses and subjects available at each level. This will include specifics on the curriculum, requirements, and optional choices (where applicable) to help you make informed decisions about future study pathways.
Key Information on the Process: Step-by-step guidance on the transition process itself, including timelines, key events, and the names and roles of contact staff.
Support and Direction: Resources and advice on how to discuss career and subject options at home, and how to seek advice from our teachers and Heads of Year.
Our goal is to ensure that everyone – parents, guardians, and our pupils – feels confident and prepared for the next stage in their educational journey.
Please take your time to explore the relevant sections and do not hesitate to contact the school if you have any questions.
Best wishes to you all,
Mr. Matthew Webb
Headteacher