Bydd eich plentyn yn cwrdd â’i diwtor dosbarth ar ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol. Bydd y tiwtor hwn yn allweddol i fywyd ysgol eich plentyn. Yn ogystal â chofrestru a chwrdd â’ch plentyn yn foreol, bydd y tiwtor hwn hefyd yn cynnal gwersi lles i’r dosbarth. Yn y gwersi hyn, bydd y disgyblion yn trafod gwahanol agweddau o fywyd cymdeithasol gyda’r bwriad o’u paratoi at fywyd ar ôl eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn annog rhieni i gyfathrebu gyda’r athro cofrestru yn rheolaidd drwy ddefnyddio’r llyfr cyswllt.
Rydym yn talu sylw manwl i hybu gwelliant iechyd yng nghymuned yr ysgol. Ein cynlluniau yw creu ethos hapus yn yr ysgol gan gynnwys hybu hunanhyder a hunanbarch y disgyblion. Cyflwynir Addysg Rhyw ynghŷd â phwysigrwydd cynnal perthnasoedd iach mewn gwersi Gwyddoniaeth a Lles.
Your child will meet the form teacher on his/her first day in Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. This tutor will play an integral part in your child’s school life throughout the year. As well as registering the pupils in the morning, the tutor will also be responsible for weekly wellbeing lessons. The school encourages parents to keep in regular contact by making full use of the contact book, which will be checked on a weekly basis by the form tutor.
The school is committed to developing a healthy school environment. Our aims are to raise pupils’ confidence and self-esteem. Sex Education as well as the importance of maintaining healthy relationships, is included as part of the science and wellbeing lessons.