Mae CBAC Lefel 3 Diploma Cymhwysol mewn Busnes yn gymhwyster newydd cyffrous gan CBAC sy'n cefnogi dysgwyr i ddeall cysyniadau busnes sylfaenol a strategaeth fusnes ac i archwilio materion busnes fel moeseg, cynaliadwyedd ac effaith yr amgylchedd allanol, yn ogystal â datblygu sgiliau busnes sylfaenol sy'n hanfodol i unrhyw entrepreneur ifanc.
The WJEC Level 3 Applied Extended Certificate in Business is an exciting qualification from WJEC that supports learners to understand foundational business concepts and business strategy and to explore business issues such as ethics, sustainability and the impact of the external environment, at the same time as developing foundational business skills that are imperative for any young entrepreneur.
Mae cymhwyster CBAC Tystysgrif Estynedig Gymhwysol mewn Chwaraeon wedi cael ei ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr 16-19 oed ac mae'n cynnig profiad sy'n canolbwyntio ar ddysgu cymhwysol, h.y., caffael a chymhwyso gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth drwy dasgau pwrpasol wedi'u gosod yng nghyd-destun y sector neu'r pwnc. Mae ganddynt felly lawer o nodweddion gwaith real. Fel arfer, bydd yn cael ei sefyll ochr yn ochr â chymwysterau lefel 3 eraill, fel rhan o raglen astudio ehangach.
The WJEC Applied Extended Certificate in Business has been primarily designed for learners aged 16-19 and offers an experience that focuses on applied learning, i.e., acquiring and applying knowledge, skills and understanding through purposeful tasks set in sector or subject contexts that have many of the characteristics of real work. It will normally be taken alongside other level 3 qualifications, as part of a broader programme of study.
Bydd dysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster Diploma Cymhwysol mewn Busnes yn cael cyfle i ddysgu am agweddau allweddol ar y sector drwy astudio wyth maes cynnwys yn eu blwyddyn gyntaf, ac un ar ddeg maes arall yn yr ail flwyddyn.
Learners undertaking the WJEC Applied Extended Certificate in Business will have the opportunity to learn about key aspects of the sector through the study of eight areas of content in their first year, and eleven further areas in the second year.
I gyflawni'r cymhwyster Diploma Cymhwysol mewn Busnes, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phedwar asesiad. Ym mhob blwyddyn, bydd dysgwyr yn sefyll asesiad mewnol sy'n cael ei farcio'n fewnol a'i gymedroli'n allanol, ac mae'r ddau asesiad yn werth 30% o'r cymhwyster. Ym mhob blwyddyn, bydd dysgwyr hefyd yn sefyll arholiad allanol sy'n cael ei farcio gan CBAC, ac mae'r ddau arholiad yn werth 20% o'r cymhwyster.
To achieve the Applied Extended Certificate in Business, learners will undertake four assessments. In each year, learners will sit an internal assessment that is marked internally and moderated externally, and both assessments are worth 30% of the qualification. In each year, learners will also sit an external exam that is marked by WJEC, and both exams are worth 20% of the qualification.
Blwyddyn 1:
Archwilio hanfodion busnes
Egwyddorion marchnata ar gyfer llwyddiant busnes
Rheoli cyllid busnes
Rheoli adnoddau dynol
Cydlynu gweithrediadau busnes effeithlon
Datblygu sgiliau ar gyfer busnes
Rheoli gweithrediadau busnes moesegol
Busnes cynaliadwy
Year 1:
Exploring business fundamentals
Marketing principles for business success
Managing business finance
Managing human resources (HR)
Coordinating efficient business operations
Developing skills for business
Managing ethical business operations
Sustainable business
Blwyddyn 2:
Archwilio strategaethau busnes
Defnyddio cyllidebu fel adnodd cynllunio
Defnyddio rhagolygon gwerthiant
Defnyddio technoleg i gymell newid
Archwilio darbodion maint ac annarbodion maint
Defnyddio dadansoddiad SWOT i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau
Mesur perfformiad busnes
Gwneud penderfyniadau buddsoddi
Defnyddio dull amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol
Effaith yr amgylchedd allanol ar weithrediadau busnes
Masnachu yn yr amgylchedd busnes byd-eang
Year 2:
Exploring business strategies
The use of budgeting as a planning tool
Using sales forecasts
Using technology to drive change
Exploring economies and diseconomies of scale
Using SWOT analysis to aid decision-making
Measuring business performance
Making investment decisions
Taking an environmental, social and governance (ESG) approach
The impact of the external environment on business operations
Trading in the global business environment