Diwrnod Blas a Phontio’r Chweched
Eleni, unwaith eto byddwn yn cynnig ‘Diwrnod Blas a Phontio’r Chweched’ i roi cyfle i’n disgyblion Blwyddyn 11 sydd yn ystyried ei llwybr Ôl 16 gael blas ar yr hyn sydd ar gael iddyn nhw yn Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Gwahoddir disgyblion o’r ddau safle i ymuno mewn cyfres o wersi blas ar ddydd Mercher, Ragfyr y 3ydd.
Byddwn yn darparu bysiau i ddod â disgyblion safle’r Gwyndy i Gellihaf lle cânt ddiwrnod yn efelychu diwrnod arferol yn y Chweched Dosbarth. Byddan nhw’n mynychu gwersi o’u dewis ac yn treulio rhywfaint o amser yn lolfeydd y chweched ynghyd a phrofi rhai o freintiau eraill disgyblion y Chweched Dosbarth.
Llynedd roedd yr adborth i’r diwrnod yma yn gadarnhaol tu hwnt. Byddwn yn rhannu holiadur gyda’r disgyblion cyn hanner tymor yn gofyn iddynt ddewis pynciau fydden nhw’n dymuno cael blas arnynt.
Sixth Form Taster and Transition Day
Again this year we will be offering a Taster and Transition to the Sixth Day to give our Year 11 pupils considering their Post 16 route, a chance to get a taste of what is available to them at the Sixth Form at Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Pupils from both sites are invited to join in a series of taster lessons on Wednesday, December 3rd.
We will provide buses to bring pupils from the Gwyndy site to Gellihaf where they will have a day simulating a normal day in the Sixth Form. They will attend lessons of their choice and spend some time in the sixth form lounges as well as experience some of the other privileges of our Sixth Form pupils.
Last year the feedback to this day was extremely positive. We will share a questionnaire with the pupils before half term asking them to choose subjects Sixth Form Taste and Transition Day and Meet the Department Evening.
Noson Cwrdd â’r Adrannau
Yn dilyn y Diwrnod Blas a Phontio hoffwn estyn gwahoddiad i chi fel rhieni a gwarcheidwaid i ymuno a ni rhwng 5yh a 7yh ar yr un dyddiad am gyfle i ymweld â’r adrannau am drosolwg a chrynodeb o gynnwys y cyrsiau a’r hyn a ddisgwylir er mwyn cael mynediad i’r cyrsiau hynny.
Edrychwn ymlaen yn fawr at gael croesawu ein darpar aelodau Chweched Dosbarth a’u rhieni bryd hynny.
Cofion Cynnes,
Mrs Skevington a Thim Y Chweched Dosbarth
Meet the Departments Evening
Following the Taster and Transition Day we would like to extend an invitation to you as parents and guardians to join us between 5pm and 7pm on the same date for an opportunity to visit the departments for an overview and summary of the course content and what is expected in order to gain access to those courses.
We really look forward to welcoming our prospective Sixth Form members and their parents during this day/evening.
Kind Regards,
Mrs Skevington and the Sixth Form Team