Mae'r Dystysgrif Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddor Feddygol yn ymwneud â sut rydym yn cynnal iechyd ac atal a thrin clefydau. Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad ym maes gwasanaethau gofal iechyd, gan fod eu gwaith yn hanfodol wrth roi diagnosis o glefydau, canfod effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am ffyrdd newydd o iachâd. Mae'r cymhwyster hwn yn datblygu eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn perthynas ag egwyddorion gwyddonol allweddol i'ch cefnogi i symud ymlaen i addysg uwch neu waith mewn meysydd gwyddor feddygol.
Uned 1: lechyd a Chlefydau Dynol
Mae'r uned hon yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am anatomi a ffisioleg dynol.
Mae Uned 1 yn arholiad sy'n ffurfio 25% o'r cymhwyster.
Uned 2: Technegau Mesur Ffisiolegol
Mae'r uned hon yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am y mesuriadau ffisiolegol sy'n bosibl eu gwneud i asesu gweithrediad prif systemau'r corff.
Mae Uned 2 yn dasg asesiad di-arholiad sy'n ffurfio 12.5% o'r cymhwyster. Eich athro fydd yn marcio'r asesiad hwn.
Uned 3: Dulliau Ymchwil Gwyddor Feddygol
Mae'r uned hon yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am gynllunio, cynnal a llunio adroddiadau ar waith ymchwil yn y gwyddorau meddygol gan ddefnyddio amrywiaeth o fethodolegau a thechnegau.
Mae Uned 3 yn dasg asesiad di-arholiad sy'n ffurfio 12.5% o'r cymhwyster. Eich athro fydd yn marcio'r asesiad hwn.
Uned 4: Meddyginiaethau a Thrin Clefydau
Mae'r uned hon yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am wyddor meddyginiaethau, a sut maent yn gweithio drwy ryngweithio â systemau'r corff.
Mae Uned 4 yn dasg asesiad di-arholiad sy'n ffurfio 20% o'r cymhwyster. Eich athro fydd yn marcio'r asesiad hwn.
Uned 5: Technegau Labordy Clinigol
Mae'r uned hon yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth am y technegau labordy clinigol mae modd eu defnyddio i asesu gweithrediadau'r corff.
Mae Uned 5 yn dasg asesiad di-arholiad sy'n ffurfio 15% o'r cymhwyster. CBAC fydd yn marcio'r asesiad hwn.
Uned 6: Astudiaeth Achos Feddygol
Mae'r uned hon yn uned synoptig ar gyfer y cymhwyster Tystysgrif Estynedig. Mae'n rhoi'r cyfle i chi ddangos eich dealltwriaeth o'r cysylltiadau sydd rhwng pum uned arall y cymhwyster Gwyddor Feddygol hwn.
Mae Uned 6 yn arholiad sy'n ffurfio 15% o'r cymhwyster.
The Level 3 Extended Certificate in Medical Science is about how we maintain health and the prevention and treatment of diseases. Medical scientists are at the forefront of healthcare services, as they are vital in the diagnosis of disease, determining the effectiveness of treatments and searching for new cures. This qualification develops your knowledge, understanding and skills in key scientific principles to support progress to higher education and pursue graduate careers related to healthcare and medical research.
Unit 1: Human health and disease
This unit develops knowledge and understanding of human anatomy and physiology.
Unit 1 is an exam which makes up 25% of the qualification.
Unit 2: Physiological measurement techniques
This unit develops knowledge and understanding about the physiological measurements that can be made to assess the function of major body systems.
Unit 2 is a non-exam assessment task which makes up 12.5% of the qualification. Your teacher will mark this unit.
Unit 3: Medical science research methods
This unit develops knowledge and understanding of planning, conducting, and reporting of research in medical sciences using a range of methodologies and techniques.
Unit 3 is a non-exam assessment task which makes up 12.5% of the qualification. Your teacher will mark this unit.
Unit 4: Medicines and treatment of disease
This unit develops knowledge and understanding about the science of medicines and how they work through their interactions with body systems.
Unit 4 is a non-exam assessment task which makes up 20% of the qualification. Your teacher will mark this unit.
Unit 5: Clinical Laboratory techniques
This unit develops knowledge and understanding about the clinical laboratory techniques that can be used to assess body functions.
Unit 5 is a non-exam assessment task which makes up 15% of the qualification. The WJEC will mark this unit.
Unit 6: Medical case study
This unit is a synoptic unit for the Extended Certificate qualification. It provides the opportunity for you to apply your understanding of the connections between the other five units of this Medical Science qualification.
Unit 6 is an exam which makes up 15% of the qualification.