Annwyl Ddarpar Riant Blwyddyn 7,
Hoffwn estyn croeso cynnes i chi fel rhieni newydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Bydd eich plentyn yn mynychu ysgol hapus a llwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ei balchder at y Gymraeg a chymreictod ein disgyblion.
Yn dilyn cyfnod heriol i ni gyd o ran y pandemig byd-eang, hoffwn eich argyhoeddi y byddwn ni fel ysgol yn gweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn derbyn pob cyfle a chefnogaeth wrth bontio i’r ysgol uwchradd a, thrwy hynny, yn derbyn anwythiad cynhwysfawr wrth wneud y cam hollbwysig i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Hoffwn ddiolch i chi gyd am ddewis addysg Gymraeg i’ch plentyn chi ac i fod yn rhan allweddol o fwriad ein cenedl i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn bersonol, yr wyf wedi mwynhau yn fawr fy holl gyfnod dysgu fel athro cyfrwng Cymraeg yn y deunaw mlynedd diwethaf. Yn awr, fel pennaeth, cofleidiaf y cyfle yn frwd i arwain dyfodol yr ysgol gyda’ch cymorth chi. Ar y dudalen nesaf, fe fyddwch yn cael cyfle i ymgyfarwyddo gyda gweledigaeth yr ysgol. Mae’r weledigaeth yn un gytûn a ffurfiwyd yn seiliedig ar fewnbwn rhanddeiliaid hollbwysig yr ysgol sef plant, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol. Hoffwn rannu gyda chi fy mwriad diffuant i gynnwys eich barn chi hefyd, fel rhieni newydd i gymuned yr ysgol er mwyn ystyried eich syniadau a’ch awgrymiadau chi wrth i ni ddatbygu a ffynnu fel ysgol.
Mae’r blynyddoedd i ddod yn rhai cyffrous iawn i ni fel ysgolion yng Nghymru wrth i ni greu a chyflwyno cwricwlwm newydd ac mae yna lawer o brysurdeb a chreadigrwydd cynllunio a pharatoi eisioes yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Edrychaf ymlaen i rannu ein cynlluniau gyda chi yn fuan ac i gynnig cyfle i chi roi eich mewnbwn ar y cynlluniau hynny er mwyn ein bod ni’n symud ymlaen fel un teulu gyda llwyddiant, lles ac hapusrwydd ein disgyblion yn ganolog i bopeth.
Hyderaf mi fydd y prosbectws yma yn eich cynorthwyo chi a’ch plentyn i ddysgu mwy am ein hysgol. Dymuniadau da i chi a’ch teulu dros y misoedd nesaf gan obeithio y bydd cyfle i gwrdd ac i drafod yn fuan iawn.
Matthew Webb, Prifathro
Dear Prospective Year 7 Parent,
I would like to extend a warm welcome to you as new parents to Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Your child will attend a happy and successful school that prides itself on its passion for the Welsh language and Welshness of our pupils.
After a challenging time due to the global pandemic, we would like to assure you that as a school we will work diligently to ensure that your child receives every opportunity and support on their transition to secondary school and receive a comprehensive induction in making the all-important move to Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
I would like to thank you all for choosing a Welsh-medium education for your child and for being a key part of our nation’s mission to secure one million Welsh speakers by 2050. Personally, I have thoroughly enjoyed my entire teaching career as a Welsh-medium teacher during the last eighteen years. Now, as head teacher, I embrace the opportunity to lead the future of the school with your help. On the next page, you will have the opportunity to familiarise yourself with the school’s vision.
The vision is an agreed vision formed on the input of the school’s key stakeholders, children, parents, staff and governors. I would like to share with you my sincere intention to include your views as well, as new parents to the school community, so that your ideas and suggestions can be taken into account as we develop and thrive as a school.
The coming years are very exciting for us as schools in Wales as we create and implement a new curriculum and there is already a lot of planning and preparation at Cwm Rhymni. Soon, I look forward to sharing our plans with you and to offer you the opportunity to give your input to those plans so that we move forward as one family with the success, wellbeing and happiness of our pupils at the heart of everything.
I trust the prospectus will help you and your child learn more about our school. Best wishes to you and your family over the coming months and I hope to have an opportunity to meet and discuss very soon.
Matthew Webb, Head Teacher