Datblygiad
Mae datblygiad yn ymwneud â meithrin sgiliau mwyfwy soffistigedig.
Mae pob agwedd ar ddatblygiad yr un mor bwysig ac yn cael effaith ar ei gilydd, gyda'r broses o ddatblygu yn un gyfannol.
-Datblygiad corfforol. Mae hyn yn cynnwys taldra a phwysau, tyfiant gwallt a datblygiad y dannedd, a sgiliau echddygol bras a manwl.
-Datblygiad deallusol. Mae hyn yn cynnwys datblygiad iaith (geiriol ac fel arall), sgiliau darllen ac ysgrifennu a datblygiad gwybyddol.
-Datblygiad emosiynol. Mae hyn yn cynnwys meithrin perthynas glos a theimlo'n ddiogel, gan gynnwys ar adegau o drawsnewid.
-Datblygiad cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwneud ffrindiau a datblygu hunanddelwedd. Wrth chwarae bydd plant yn archwilio ac yn dychmygu.
Yn ystod blaenlencyndod bydd y pedair elfen hyn yn cynnwys blaenaeddfedrwydd ac fel oedolyn bydd yn cynnwys y menopos.
Yn eich llyfrau rhowch y geiriau isod mewn i'r golofn cywir:
Rhowch yr agweddau corfforol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig:
Rhowch yr agweddau deallusol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig:
Rhowch yr agweddau emosiynol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig:
Rhowch yr agweddau cymdeithasol hyn ar ddatblygiad yn eu trefn ddisgwyliedig:
Twf
Mae twf yn cyfeirio at gynnydd mewn maint corfforol (màs a thaldra)
Siartiau canraddau yw'r adnodd a ddefnyddir i fesur sut mae unigolion yn tyfu. Cânt eu defnyddio i fesur a monitro sut mae plentyn yn tyfu o gymharu â'r cyfartaledd. Mae siartiau canraddau yn edrych ar daldra, pwysau, BMI, cylchedd y pen. Mae newidiadau corfforol eraill yn gysylltiedig â thyfu fel y dannedd, gwallt, oed aeddfedrwydd.
Ceir dau gyfnod o dwf a datblygiad sydyn h.y. yn syth ar ôl geni ac yn ystod llencyndod. Ar ôl blwydd oed bydd baban yn tyfu'n arafach. Nid oes unrhyw blentyn yn tyfu ar raddfa gwbl gyson a cheir cyfnodau o dyfu cyflym. Ceir cyfnod sylweddol o dyfu yn ystod oed aeddfedrwydd sy'n para rhwng dwy a phum mlynedd ac mae fel arfer rhwng 8 a 13 i ferched a 10 a 15 i fechgyn.
Cefnogir twf gan gwsg, maeth ac ymarfer corff.
Rhaglen Datblygu Plant Cymru
Mae rhaglen Datblygu Plant Cymru yn rhaglen sy'n cofnodi ac yn dadansoddi'r ffordd mae plant yng Nghymru yn tyfu.
Defnyddir gwybodaeth o'r rhaglen i helpu'r rheini mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus i ddeall patrymau tyfu a chynllunio gwasanaethau.
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/rhaglen-mesur-plant-cymru2/
Gweithgaredd: Ymchwiliwch mewn i'r Rhaglen Datlygu Plant Cymru. Yn eich llyfrau nodwch eich darganfyddiadau.