Cyflyrau (llym) byrdymor
Mae nifer o gyflyrau iechyd y mae angen gofal a chymorth ychwanegol ar eu cyfer i gynnal iechyd a llesiant. Gall rhai o'r cyflyrau hyn fod yn salwch byrdymor, fel:
gwenwyn bwyd
brechau
twymynau
peswch ac annwyd
brech yr ieir
y frech goch ac ati.
Efallai y bydd angen i unigolyn gael cymorth gan ei feddyg teulu ar gyfer meddyginiaeth ac arweiniad ar y ffordd orau o reoli ei salwch.
Mewn achosion difrifol, efallai y bydd angen i unigolyn fod yn yr ysbyty nes bod y salwch wedi mynd.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y daflen hon gan y GIG:
http://www.whenshouldiworry.com/resources/When%20should%20I%20worry-Booklet_Wales-WELSH_with%20NHS%20Direct_Oct2016.pdf
Gwenwyn bwyd
Gwenwyn bwyd yw'r enw cyffredin sy'n cael ei roi i unrhyw haint gastroberfeddol sy'n cael ei hachosi gan fwyta bwydydd neu ddiodydd wedi'u halogi.
Y mathau mwyaf cyffredin o facteria mewn bwyd yw:
E-coli
Salmonella
Listeria.
Gall achosi chwydu, dolur rhydd a phoenau yn y stumog ymhlith symptomau eraill.
Darllen pellach:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44185/
Brechau
Brech yw unrhyw beth sy'n peri i'r croen fynd yn llidiog neu newid lliw ac sy'n newid golwg arferol y croen.
Er mwyn cael gwybodaeth am y mathau mwyaf cyffredin o frechau a'u triniaeth, cliciwch ar y dolenni isod.
Brech mewn oedolion:
http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/livewell/skinrashes/default.aspx?locale=cy
Brech mewn babanod:
https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/s/article/skinrashesinbabiesandchildren?locale=cy
Twymyn
Twymyn yw tymheredd uchel o 38° Celsius neu fwy.
Dyma ffordd naturiol y corff o ymladd heintiau. Wrth gyffwrdd ag unigolyn sydd â thymheredd, bydd yn teimlo'n boeth a bydd yn teimlo'n chwyslyd ac yn oer a llaith.
Y ffordd orau o drin tymheredd uchel yw gorffwys ac yfed digon.
Darllen pellach:
Twymyn mewn plant: https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/f/article/feverinchildren/