Mae dwy o brif egwyddorion cyfranogiad gweithredol yn sail i wasanaethau gofal: hawliau’r unigolyn ac annibyniaeth neu ymreolaeth yr unigolyn. Mae’r unigolyn yn cael ei annog ac yn cael ei addysgu am ffyrdd y gallai ei helpu ei hun i ddatblygu, i fod yn iachach neu i wella o salwch. Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a pherthnasoedd yn eu bywyd pob dydd.
Dylai bob unigolyn gael ei gefnogi a'i annog i fod yn gyfranogwr gweithredol yn eu gofal yn hytrach na dim ond unigolyn sy'n derbyn gofal yn oddefol.
Dylai unrhyw ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol geisio annog pob unigolyn i fod yn gyfranogwr gweithredol er mwyn cymryd perchenogaeth o'u datblygiad a'u llesiant personol lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, mae adegau lle mae rhwystrau i'r broses cyfranogiad gweithredol, fel diffyg adnoddau. Dylai darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol bob amser weithio i leihau unrhyw rwystrau lle bo hynny'n bosibl.
Mae nifer o ffyrdd y gall unigolyn gael ei gefnogi i fod yn bartner gweithredol yn eu datblygiad a'u llesiant eu hunain. Dylai darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ddefnyddio llawer o gamau gweithredu i hyrwyddo cyfranogiad gweithredol pob unigolyn.
Gall cyfranogiad gweithredol ddigwydd ym mhob cam bywyd. Bydd plant ac unigolion ifanc yn datblygu sgiliau cymdeithasol gwell a mwy o hunan-barch os ydyn nhw'n rhan o weithgareddau bob dydd gydag unigolion eraill yn y gymdeithas. Bydd angen eu rhieni neu warcheidwaid ar blant ifanc iawn er mwyn cyfranogi yn weithredol mewn grwpiau chwarae, clybiau neu dripiau i'r archfarchnad ac ati. Unwaith bydd plant yn ddigon hen i fynd i'r ysgol yna gall ysgolion a chlybiau eu helpu i gyfranogi'n weithredol yn eu gofal.
Tasg - Nodwch yn eich llyfrau
Dewiswch pa gamau gweithredu fyddai'n annog neu'n annog rhywun i beidio â chyfranogi'n weithredol.
Buddion cyfranogiad gweithredol
Mae ymagwedd gynhwysol y broses cyfranogiad gweithredol yn cynnwys nifer o fanteision ar gyfer datblygiad a llesiant unigolyn.
Gall unigolyn sy'n cyfranogi yn weithredol yn eu datblygiad a'u llesiant eu hunain deimlo eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau cadarnhaol i helpu i deimlo'n well ac i wella/cynnal datblygiad a llesiant cyffredinol.
Mae buddion cyfranogiad gweithredol yn gallu cael eu rhannu'n ddau gategori – cynradd ac eilaidd.
Mae manteision cynradd i unigolyn sy'n ymgysylltu'n weithredol â chyfranogiad gweithredol yn cael eu gweld fel gwelliant uniongyrchol i agweddau ar eu datblygiad a'u llesiant, gan gynnwys:
mwy o annibyniaeth ac ymreolaeth o ran beth gall ei wneud
mwy o fanteision corfforol, gan gynnwys bod yn fwy gweithredol
mwy o gyfle i leisio barn ar faterion sy’n uniongyrchol berthnasol i’w fywyd
gwell cyswllt cymdeithasol a pherthnasau rhyngbersonol
mwy o hunanymwybyddiaeth a gwell cyfranogiad
mwy o gyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau, gwybodaeth, addysg a chyflogaeth
gwell teimlad o lesiant gyda mwy o hunan-barch a hunanhyder.
Nid yw manteision eilaidd yn welliannau uniongyrchol neu nid dyma yw prif nod gwreiddiol cyfranogiad gweithredol, er maen nhw'n debygol o fod o ganlyniad i'r manteision cynradd sydd wedi'u hennill.
Byddai’r rhain yn cynnwys:
llai o debygolrwydd o ddioddef camdriniaeth
llai o berygl o fod yn agored i niwed.
Gallai manteision ar gyfer plant ac unigolion ifanc gynnwys y canlynol ond heb eu cyfyngu iddyn nhw:
datblygu annibyniaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb
datblygu sgiliau arwain
datblygu ymdeimlad o berthyn
mwy o hunan-barch
perthnasoedd gwell
sgiliau cyfathrebu a chydweithio gwell
mwy o gymhelliant i wneud yn dda.
Gallai’r manteision i oedolion gynnwys y canlynol, ond nid ydyn nhw’n gyfyngedig i’r rhestr hon:
teimlo bod popeth dan reolaeth
ymdeimlad o urddas
teimlo bod ganddyn nhw gysylltiadau ag eraill yn y gymuned
datblygu perthnasoedd
mwy o annibyniaeth
mwy o hunan-ymwybyddiaeth
lefelau gwell o weithgarwch corfforol
mwy o hunan-barch
llesiant gwell.
Tasg: Atebwch yn eich llyfrau
Rhowch y buddion at y categori cywir.
Lleihau’r rhwystrau i Gyfranogiad Gweithredol
Os nad yw unigolyn yn gallu cymryd rhan mewn gweithgaredd, mae angen nodi’r rhesymau pam, ac ystyried ffyrdd o gael gwared ar unrhyw rwystrau, neu eu lleihau. Gall hyn helpu’r unigolyn i gael mwy o annibyniaeth a rheolaeth dros ei fywyd, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ei hunan-barch a’i lesiant.
Rhwystrau corfforol (er enghraifft, diffyg mynediad i gadeiriau olwyn). Byddai sicrhau nad oes unrhyw faterion hygyrchedd yn effeithio ar y lleoliad lle mae gweithgareddau’n cael eu cynnal yn cael gwared ar y rhwystr hwn.
Rhwystrau deallusol (er enghraifft, peidio â deall y rhesymau pam dylai unigolyn fod yn cyfranogi). Gallai ystyriaeth bwysig gynnwys sicrhau bod y dulliau cyfathrebu gorau ar gyfer yr unigolyn, fel sydd wedi’i nodi yn ei gynllun gofal, yn cael eu defnyddio.
Rhwystrau emosiynol (er enghraifft, iselder neu gorbryder). Byddai cynnig llawer o ganmoliaeth a sicrhau bod yr unigolyn yn cael cyfle i wneud pethau ar ei liwt ei hun yn lleihau’r rhwystr hwn. Byddai hefyd yn syniad da ceisio cyngor arbenigol allanol gan dîm gofal ehangach yr unigolyn.
Rhwystrau cymdeithasol (er enghraifft, unigolyn yn cloi ei hun yn ei ystafell i osgoi rhyngweithio â phobl eraill). Byddai’n helpu i annog yr unigolyn i gael gwared ar y rhwystr, ond gan barchu ei hawl i wneud ei ddewisiadau ei hun a’i hawl i breifatrwydd ar yr un pryd.
Rhwystrau diwylliannol (er enghraifft, gall arferion crefyddol atal unigolyn rhag gallu cyfranogi mewn gweithgaredd penodol neu ar adeg benodol). Gallai ystyriaeth bwysig gynnwys darllen cynllun gofal yr unigolyn cyn cynllunio gweithgareddau ar ei gyfer, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o gefndir yr unigolyn.
Profiwch eich hun - Atebwch yn llawn yn eich llyfrau