Y prif gyfnodau mewn bywyd yw:
Babanod 0-2 oed
Plentyndod 3-12 oed
Glasoed 13-19 oed
Oedolaeth 20-64 oed
Oedolaeth ddiweddarach – 65+ oed.
Mae pedwar math o ddatblygiad yn digwydd ar bob un o’r camau bywyd.
Datblygiad corfforol: yn gysylltiedig â thwf, cryfder a sgiliau echddygol bras a manwl.
Datblygiad deallusol: yn gysylltiedig â datblygiad lleferydd a gwybodaeth.
Datblygiad emosiynol: yn gysylltiedig â deall a rheoli emosiynau.
Datblygiad cymdeithasol: yn gysylltiedig â sut mae unigolyn yn rhyngweithio â’r bobl o’i amgylch.
Mae cerrig milltir datblygiad penodol i’w disgwyl ar gyfer pob un o’r camau bywyd.
Siartiau Canraddau
Mae cofnodion tyfu yn hanfodol wrth asesu pob plentyn. Gall sawl math o salwch ac anhwylder effeithio ar y gallu i dyfu felly mae unrhyw beth sy'n wahanol i'r hyn a ddisgwylir yn rhybudd cynnar bod rhywbeth o'i le.
Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gosod manylion tyfu allweddol y plentyn unigol – taldra, pwysau a chylchedd y pen – yn erbyn cyfartaleddau tyfu cenedlaethol. Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio i nodi salwch neu dynnu sylw at broblemau meddygol eraill fel gordewdra.
Gall y fath wybodaeth gael ei defnyddio drwy gydol y cylch bywyd ond mae'n hynod bwysig yn ystod babandod a phlentyndod cynnar. Fe'i cynhwysir yng Nghofnod Iechyd Personol y Plentyn, neu'r 'llyfr coch', a roddir i'r rhieni adeg geni eu plentyn, neu'n fuan wedyn, ac a ddefnyddir gan weithwyr iechyd proffesiynol a rhieni er mwyn cofnodi manylion iechyd safonol fel taldra a phwysau, yn ogystal â cherrig milltir datblygiadol fel geiriau cyntaf a cherdded am y tro cyntaf.
Darllen pellach : Darllenwch daflen ffeithiau siartiau tyfu Coleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant: https://www.rcpch.ac.uk/resources/growth-charts
Amserlen Sgiliau Tyfu
Adnodd asesu yw hwn a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol er mwyn pennu lefelau datblygiadol plant. Gall yr asesiad unigol gael ei ddefnyddio unrhyw bryd gyda phlant o'u geni hyd at bump oed, gan alluogi gweithwyr proffesiynol i'w hasesu fel sy'n briodol ac yn gyfleus. Mae'r amserlen yn cynnig 'cipolwg' dibynadwy ar lefel ddatblygiadol plentyn, gan gynnwys meysydd cryfder ac oedi posibl. Mae'n archwilio naw maes datblygu allweddol:
ymddaliad goddefol
ymddaliad gweithredol
ymsymudol
llawdrin
gweledol
clyw ac iaith
lleferydd ac iaith
cymdeithasol rhyngweithiol
hunanofal cymdeithasol.
Gan ddefnyddio teganau lliwgar a diddorol fel blociau adeiladu, dol, pegiau a siapiau, mae'r tasgau asesu yn teimlo fel amser chwarae i'r plentyn, gan alluogi gweithwyr proffesiynol i arsylwi ar adweithiau a'u hasesu wrth i'r plentyn 'chwarae'. Mae system sgorio syml yn tynnu sylw at feysydd datblygiadol lle gallai'r plentyn brofi oedi, gan ddynodi lle gallai fod angen atgyfeirio.
Edrychwch ar y siartiau canraddau oddi wrth Sefydliad Iechyd y Byd gan nodi lle byddai'r taldra a'r pwysau ar gyfer oedrannau cyfartalog yn mynd.
https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/Girls_0-4_years_growth_chart.pdf
https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/Boys_0-4_years_growth_chart.pdf
https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/Boys_2-18_years_growth_chart.pdf
https://www.rcpch.ac.uk/sites/default/files/Girls_2-18_years_growth_chart.pdf
Datblygiad Babanod 0-3 oed
Datblygiad Plentyndod 3-12 oed
Datblygiad Glasoed 13-19 oed
Datblygiad Oedolaeth 20-64
Datblygiad Oedolaeth ddiweddarach 65+oed
Cwestiynnau Arholiad
Ymarferwch y cwestiynnau isod yn eich llyfrau
Esboniwch beth yw cerrig milltir datblygiad (Development Milestones) yn geiriau eich hun.
Nodwch 3 datblygiad corfforol yn ystod datblygiad 6-9mis
Esboniwch sut mae babi 0-3mis yn datblygu’n gorfforol.
Disgrifiwch datblygiad corfforol babi 9-12mis
Aseswch y gwahaniaeth rhwng datblygiad corfforol babi 3-6mis a babi 1-2oed.
Disgrifiwch pam mae siartiau canraddol yn cael eu defnyddio i fesur twf.
Nodwch un gweithiwr iechyd proffesiynol fyddai’n defnyddio siart canraddol
Mae Ben yn 2 oed. Disgrifiwch y patrymau datblygiad disgwyliedig ar gyfer yr oed hwn.