Ffactorau Corfforol
Etifeddiad Genetig
Fel mae unigolion yn etifeddu nodweddion fel lliw'r llygaid oddi wrth eu rhieni, gall rhai cyflyrau meddygol gael eu trosglwyddo o'r rhiant/rhieni i'r plentyn. Cyfeirir at y rhain fel anhwylderau genetig neu etifeddol. Mae anhwylder genetig yn deillio o bresenoldeb genyn annormal yng nghyfansoddiad genetig unigolyn. Gall gael ei etifeddu oddi wrth un rhiant neu'r ddau riant ond efallai na fydd hyn yn wir bob amser (er enghraifft, Syndrom Down).
Gallant hefyd etifeddu genynnau diffygiol sy'n arwain at salwch. Yn eu plith, mae:
ffibrosis cystig
haemoffilia
clefyd Huntington
anaemia cryman-gell
nychdod cyhyrol
thalassaemia
syndrom X bregus
syndrom Hunter.
Efallai y bydd plant ag anhwylder genetig yn colli'r ysgol oherwydd heintiau neu gyfnod yn yr ysbyty, a fydd yn effeithio ar eu datblygiad deallusol. Gall cyfleoedd a fethir i wneud ffrindiau effeithio ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Lle mae cyflyrau genetig yn achosi problemau treulio gellir gweld effaith ar ddatblygiad corfforol hefyd.
Tasg Ymchwil.. Nodwch yn llawn yn eich llyfrau
Ymchwiliwch i'r holl glefydau ac yna profwch eich dealltwriaeth drwy baru'r salwch i'r disgrifiad.
Anableddau synhwyraidd
Anabledd sy'n effeithio ar y synhwyrau (h.y. golwg, clyw, arogl, cyffyrddiad, blas) yw anabledd synhwyraidd. Mae nifer o gyflyrau a fyddai'n cael eu dosbarthu'n anableddau synhwyraidd gan gynnwys:
Awtistiaeth – Anabledd datblygiadol gydol oes yw hwn. Gall unigolion awtistig fod yn hynod sensitif i synau mawr, goleuadau llachar neu gael eu cyffwrdd.
Dallineb neu olwg gwael – Gall hyn ddigwydd o adeg geni, neu gael ei achosi gan ddamwain neu wrth i unigolion heneiddio.
Byddardod neu golli clyw – Gall hyn ddigwydd o adeg geni, neu gael ei achosi gan ddamwain neu wrth i unigolion heneiddio.
Anosmia – Colli'r gallu i arogli a all gael ei achosi gan anaf i'r pen neu haint.
Nam corffsynhwyrol – Yr anallu i deimlo gwres, poen neu gyffyrddiad ysgafn. Gall nifer o ffactorau gan gynnwys strôc, anaf i'r pen a pharlys yr ymennydd ei achosi.
Anableddau corfforol
Mae anabledd corfforol yn unrhyw anabledd sy'n cyfyngu ar allu corfforol neu symudedd unigolyn. Gall gael ei achosi gan glefyd neu ddamwain, ond gall rhai cyflyrau fod yn enetig. Yn eu plith, mae:
Parlys yr ymennydd – Mae hyn yn effeithio ar symud a chyd-symud. Gall hefyd achosi problemau siarad a gweld ac, mewn rhai achosion, anawsterau dysgu.
Spina bifida – Achosir hyn pan nad yw asgwrn cefn na madruddyn cefn baban yn datblygu'n gywir yn y groth. Gall achosi problemau symud neu baralysis a phroblemau anymataliaeth. Bydd gan y rhan fwyaf o blant â spina bifida lefelau dealltwriaeth normal; fodd bynnag, efallai y bydd gan nifer fach rai anableddau dysgu hefyd.
Sglerosis ymledol – Gall hyn effeithio ar yr ymennydd a/neu fadruddyn y cefn. Gall arwain at broblemau gweld a chadw balans a phroblemau'n symud y breichiau a'r coesau. Gall hefyd effeithio ar allu unigolyn i feddwl, dysgu a chynllunio.
Dystroffi’r cyhyrau - Clefyd nychu'r cyhyrau yw hwn ac mae'n gwaethygu dros amser. Gall ei gwneud hi'n anodd cerdded ac achosi problemau anadlu a llyncu.
Corachedd – Fe'i nodweddir gan dyfu cyfyngedig a gall hefyd achosi problemau eraill fel coesau plygedig neu fod yn gefngrwm.
Anableddau dysgu
Mae anabledd dysgu yn effeithio ar y ffordd mae unigolyn yn dysgu pethau newydd drwy gydol ei oes. Gall yr anableddau hyn fod yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol. Gall y cyflyrau gynnwys:
Syndrom Down – Fe'i hachosir gan gromosomau ychwanegol yn y celloedd ac, yn gyffredinol, nid yw'n anhwylder a etifeddir. Bydd rhyw lefel o anabledd dysgu gyda'r cyflwr hwn.
Syndrom William – Mae hwn yn gyflwr genetig prin. Bydd plant â'r syndrom yn cymryd mwy o amser i ddysgu sut i gerdded, siarad a meithrin sgiliau cymdeithasol eraill. Gall hefyd achosi problemau o ran y galon.
Awtistiaeth – Nid anabledd dysgu mo hwn, ond bydd gan unigolion ag awtistiaeth ryw lefel o anabledd dysgu.
Deiet a Maeth
Mae gan ddeiet da amrywiaeth o fuddiannau, gan gynnwys:
mwy o egni
hwyliau gwell
helpu i gynnal pwysau iach
cwsg o ansawdd gwell
croen mwy clir
yn lleihau'r risg o gyflyrau iechyd cronig fel clefyd y galon, strôc, a chanser.
Hydradiad
Mae'r corff yn defnyddio dŵr yn ei holl gelloedd, organau a meinweoedd. Caiff dŵr ei golli drwy anadlu, chwysu a threulio.
Mae ailhydradu yn cymryd lle'r dŵr a gollir ac mae ganddo'r buddiannau pwysig canlynol:
helpu i atal y geg rhag mynd yn sych a all achosi anadl drwg
hybu iechyd cardiofasgwlaidd da
helpu i reoli tymheredd y corff
iro'r cyhyrau a helpu'r cyhyrau i weithio'n fwy effeithlon
helpu'r arennau i glirio gwastraff o'r gwaed.
Bwydo ar y fron
Mae astudiaethau wedi dangos mai bwydo ar y fron am y chwe mis cyntaf mewn bywyd sy'n rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'r baban.
Ymhlith y buddiannau iechyd a datblygiadol i fabanod mae:
llai o risg o haint am fod y llaeth yn cynnwys gwrthgyrff
llai o risg o ddolur rhydd a chwydu
mae'r baban yn llai tebygol o fod wedi rhwymo
mae'r baban yn llai tebygol o ddatblygu brech glytiau neu ecsema
llai o risg o SIDS (syndrom marwolaeth sydyn babanod)
llai o risg o lewcemia plentyndod
llai o risg o ordewdra
llai o risg o glefyd cardiofasgwlaidd fel oedolyn.
Mae i fwydo ar y fron nifer o fuddiannau i'r fam hefyd:
llai o risg o ganser y fron
llai o risg o ganser yr ofari
llai o risg o osteoporosis (esgyrn gwan)
llai o risg o glefyd cardiofasgwlaidd
llai o risg o ordewdra
helpu'r wterws i leihau nôl i'w faint yn gyflymach
helpu i feithrin y bond rhwng mam a'i baban.
Argymhellir y dylai babanod sydd ond yn cael llaeth o'r fron yn ystod eu chwe mis cyntaf hefyd gael atchwanegiad fitamin D bob dydd.
Bwydo potel
Gall babanod gael eu bwydo â photel sy'n cynnwys llaeth o'r fron wedi'i odro neu fformiwla babanod.
Mae llaeth fformiwla, neu fformiwla babanod, fel arfer wedi'i wneud o laeth buwch, sydd wedi’i drin i'w wneud yn fwy addas i fabanod.
Mae ystod eang o wahanol frandiau a mathau o fformiwla ar gael yn y siopau. Dylid edrych ar labeli'n ofalus er mwyn sicrhau bod llaeth addas yn cael ei brynu i'r baban.
Mae dau wahanol fath o fformiwla: powdr sych all gael ei baratoi gyda dŵr a fformiwla hylif parod i fwydo. Er bod fformiwla hylif parod i fwydo yn gallu bod yn gyfleus, mae'n dueddol o fod yn ddrutach ac, unwaith mae wedi'i agor, mae angen ei ddefnyddio'n gyflymach.
Mae llaeth fformiwla yn darparu'r maetholion sydd eu hangen ar fabanod i dyfu a datblygu. Fodd bynnag, nid oes ganddo'r un buddiannau iechyd â llaeth o'r fron i'r fam na'r baban, er enghraifft ni all ddiogelu'r baban rhag heintiau.
Diddyfnu
Yn ystod chwe mis cyntaf bywyd, dim ond llaeth o'r fron neu fformiwla y bydd ei angen ar fabanod. Ar ôl hyn, dylai bwydydd gael eu cyflwyno'n raddol er mwyn atal y risg o alergeddau.
Ymhlith y bwydydd y mae angen eu cyflwyno un ar y tro mae:
llaeth buwch
wyau
bwydydd sy'n cynnwys glwten fel gwenith, haidd, rhyg
bwydydd sy'n cynnwys cnau a hadau
pysgod a physgod cregyn.
Tasg - yn eich llyfrau
Nodwch fanteision ac anfanteision bwydo ar y fron
Gweithgareddau Corfforol
Plant 0-5 oed
Dylai babanod, plant bach a phlant oedran meithrin gael eu hannog i symud cymaint â phosibl drwy chwarae gweithredol. Caiff hyn yr effeithiau cadarnhaol canlynol:
datblygu symud a chyd-symud
cefnogi dysgu a sgiliau cymdeithasol
cyfrannu at bwysau iach
gwella datblygiad yr esgyrn a'r cyhyrau
cefnogi meithrin sgiliau cymdeithasol
gwella iechyd cardiofasgwlaidd.
Plant 5 – 18 oed
Er mwyn i blant aros yn iach mae angen iddynt sicrhau eu bod yn gwneud tri math o weithgaredd bob wythnos:
ymarfer corff erobig fel chwarae siasio neu nofio
ymarfer corff sy'n cryfhau'r esgyrn fel reidio beic neu ddawnsio
ymarfer corff sy'n cryfhau'r cyhyrau fel dringo coeden a gymnasteg.
Bydd ymarfer corff yr oedran hwn yn sicrhau'r buddiannau cadarnhaol canlynol:
gwella iechyd cardiofasgwlaidd
cynnal pwysau iach
gwella iechyd yr esgyrn
gwella hunanhyder
meithrin sgiliau cymdeithasol newydd.
Oedolion
Er mwyn aros yn iach, dylai oedolion wneud gweithgareddau aerobig a chryfhau bob wythnos.
Gallai hyn gynnwys chwarae pêl-droed neu fynd i ddosbarthiadau dawns er mwyn cynyddu gallu aerobig a garddio, codi pwysau neu ioga er mwyn cryfhau'r cyhyrau.
Bydd gan ymarfer corff y buddiannau canlynol:
lleihau'r risg o amrywiaeth o glefydau, e.e. clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2
helpu i gynnal pwysau iach
helpu i barhau i gyflawni tasgau bob dydd yn rhwydd
gwella hunanhyder
lleihau symptomau iselder a gorbryder.
Oedolion hŷn
Er mwyn sicrhau y gall tasgau bob dydd gael eu cyflawni o hyd ac er mwyn sicrhau iechyd a lles cyffredinol, dylai oedolion hŷn anelu at wneud ymarfer corff aerobig a chryfhau.
Ar y cam hwn mewn bywyd gall ymarfer corff gael y buddiannau canlynol:
helpu i gynnal swyddogaeth wybyddol
lleihau risg gardiofasgwlaidd
helpu i barhau i gyflawni tasgau bob dydd
gwella hwyliau a hunanhyder o bosibl
lleihau'r risg o gwympo.
Pam mae eistedd yn wael i'ch iechyd?
Mae llawer o oedolion yn gweithio mewn swyddi sy'n cynnwys eistedd am hyd at saith awr y dydd, maent yn gyrru i'r gwaith ac oddi yno ac yna'n treulio eu hamser hamdden yn gwylio'r teledu neu'n defnyddio technoleg.
Mae hyn yn niweidiol i'w hiechyd. Gall eistedd am gyfnodau hir arafu metabolaeth a all arwain at fethiant y corff i:
reoleiddio siwgr yn y gwaed, gan arwain at ddiabetes Math-2,
rheoleiddio pwysedd gwaed, gan arwain at glefyd cardiofasgwlaidd
torri braster y corff i lawr, gan arwain at ordewdra.
Tasg - Atebwch yn eich lyfrau
Darllenwch bob senario ac yna defnyddiwch y wybodaeth i argymhell ffyrdd o wella iechyd corfforol.
Manon - Mae disgwyl i Manon roi genedigaeth i'w baban yn yr ychydig wythnosau nesaf. Nid yw'n credu ei bod hi am fwydo'r baban ar y fron am ei bod wedi darllen bod llaeth fformiwla yn cynnwys yn union yr un maetholion.
Delyth - Mae Delyth yn 40 oed ac yn gweithio mewn swyddfa, yn gyrru i'r gwaith ac yn treulio ei hamser hamdden yn gwau. Mae'n poeni ei bod hi'n magu pwysau ac mae angen iddi wneud rhywbeth am hynny.
Dewi - Collodd Dewi ei wraig yn gynharach eleni ac yn 66 oed mae'n ei chael hi'n fwyfwy anodd cyflawni tasgau bob dydd fel sugno llwch. Mae hefyd yn teimlo'n isel ac yn flinedig.
John - Mae John wrth ei fodd yn gwneud gweithgareddau aerobig – yn 24 oed mae'n rhedeg deirgwaith yr wythnos ac yn chwarae pêl-droed bob penwythnos. Mae'n gweld nad yw rhan uchaf y corff yn gryf iawn ac ni all ddeall pam.
Mali - Mae Mali yn saith mis oed. Mae'n chwydu drwy'r amser ac mae ganddi ddolur rhydd. Dechreuodd ei mam roi bwydydd solet iddi ryw fis yn ôl. Mae'n cymysgu popeth mae'r teulu yn ei fwyta â llaeth neu ddŵr ac yn ei fwydo i Mali.
Cyfle i chwarae
Mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad babanod a phlant am ei fod yn cyfrannu at eu lles gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.
Mae chwarae yn hybu datblygiad yr ymennydd a dysgu mewn babanod a phlant bach.
Mae hefyd yn lleihau'r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes a gordewdra.
Chwarae yn yr awyr agored
Bydd y rhan fwyaf o blant yn gallu rhedeg a cherdded ond bydd angen iddynt gael y cyfle i ymarfer sgiliau eraill fel hopian, neidio, taflu a dal. Mae chwarae yn yr awyr agored yn eu galluogi i wneud hyn. Bydd gan y mathau hyn o weithgareddau fuddiannau corfforol gan gynnwys:
gwella iechyd cardiofasgwlaidd
cynnal pwysau iach
meithrin sgiliau echddygol bras
gwella hunanhyder
datblygu cyd-symud.
Chwarae dan do
Gall hyn gynnwys chwarae mwy creadigol a dychmygol fel peintio, chwarae gyda jig-sos, a chwarae rôl. Gall fod gan y math hwn o chwarae fuddiannau datblygiadol gan gynnwys:
gwella sgiliau gwybyddol
gwella sgiliau echddygol manwl
hybu iechyd meddwl
meithrin gwydnwch.
Profiad o salwch ac afiechyd
Mae nifer o fathau o salwch all effeithio ar allu plentyn i dyfu a datblygu. Yn eu plith, mae:
namau cynhwynol ar y galon
asthma
ffibrosis cystig
clefyd coeliag
clefyd Crohn's
clefyd yr arennau hirdymor.
Mewn rhai achosion, gall y salwch neu'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin y salwch effeithio ar y gallu i dyfu.
Gall hyn gyfyngu ar gyfleoedd i ddatblygu am na ellir cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Gall poen ac ymweliadau rheolaidd â'r ysbyty hefyd effeithio ar iechyd meddwl.
Mae mân anhwylderau fel tonsilitis, peswch ac annwyd, a dolur rhydd yn achosi absenoldeb o'r ysgol a all ddylanwadu ar ddatblygiad deallusol a chymdeithasol plentyn.
Gall anhwylderau mwy difrifol fel meningitis a'r frech goch, er iddynt wella, adael yr unigolyn gydag anabledd hirdymor, fel colli clyw neu olwg, ac yn achos meningitis colli coesau a breichiau.
Tasg - Creu tabl yn eich lyfrau a nodwch os yw'r isod yn gael effaith cadarnhaol neu negyddol
Ffactorau cymdeithasol ac emosiynol
Rhywedd
Stereoteipiau o ran rhywedd - Hyd yn oed heddiw, gall plant ddod i gysylltiad â stereoteipiau sy'n seiliedig ar rywedd, gyda siopau yn gwerthu dillad a theganau merched a dillad a theganau bechgyn. Gall plant a rhieni wynebu tynnu coes a beirniadaeth os byddant yn dewis gwisgo neu chwarae gyda theganau sy'n herio'r fath stereoteip. Er enghraifft, os yw bachgen bach yn dewis chwarae gyda dol gellid dweud wrtho mai tegan i ferched ydyw, ac nid iddo ef. I wrthsefyll y stereoteip hwn, dylai plant gael eu hannog i chwarae gyda beth bynnag sydd o ddiddordeb iddynt.
Anghydraddoldeb rhywiol – Mae menywod yn dueddol o fyw'n hirach na dynion ond maent yn treulio llai o flynyddoedd mewn iechyd da. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn wynebu mwy o risg o fyw mewn tlodi, a fyddai'n effeithio ar eu lles.
Trawsryweddol - Mae profi gwahaniaethu, allgáu cymdeithasol, aflonyddu a thrais yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a llesiant unigolion drawsryweddol. Fodd bynnag, gall trosi a mynegi hunaniaeth o ran rhywedd wella iechyd a llesiant.
Mathau o deuluoedd
Teuluoedd un rhiant – Gall hyn gael effaith gadarnhaol a negyddol ar y rhiant a'r plant. Gall rhieni deimlo tristwch ac ynyswch pan fo eu plant yn genfigennus o'u ffrindiau sydd â dau riant. Gall achosi straen a phryder oherwydd problemau ariannol. Fodd bynnag, gall arwain at fond hynod gryf rhwng y rhiant a'r plant a gall y rhiant ddangos esiampl wych i'r plant.
Teuluoedd o'r un rhyw – Prin yw'r gwahaniaethau rhwng teuluoedd o'r un rhyw a theuluoedd niwclear (mam a dad a phlant). Cyn belled ag y bo'r berthynas rhwng y ddau riant yn iach a'u bod yn caru ac yn cefnogi eu plant, yna bydd y plant yn tyfu i fyny gan deimlo’n ddiogel, a bydd ganddynt ymdeimlad da o hunan-werth.
Teuluoedd niwclear - Cyn belled ag y bo'r berthynas rhwng y ddau riant yn iach a'u bod yn caru ac yn cefnogi eu plant, yna bydd y plant yn tyfu i fyny gan deimlo’n ddiogel, a bydd ganddynt ymdeimlad da o hunan-werth.
Teuluoedd maeth – Mae plant mewn gofal maeth yn aml wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso cyn cyrraedd eu rhieni maeth. O'r herwydd, gall eu sgiliau cymdeithasol ddatblygu'n arafach. Gallant wynebu problemau emosiynol, a chydag ymddiriedaeth, a'i chael hi'n anodd meithrin cydberthnasau agos.
Llys-deuluoedd – Mae'r math hwn o deulu yn dod yn fwyfwy cyffredin. Gall gael effaith gadarnhaol a negyddol. Gall plant fwynhau bod yn rhan o deulu mwy o faint, cael mwy o blant i chwarae gyda nhw a gweld eu rhiant yn hapus. Fodd bynnag, gall fod ganddynt broblemau sydd heb eu datrys, ac efallai y bydd yn gas ganddynt eu teulu newydd, gan arwain at gamymddwyn. Gall rhieni deimlo rhyddhad bod ganddynt rywun i rannu'r cyfrifoldebau beunyddiol â nhw. Fodd bynnag, gallant fod dan bwysau a theimlo'n bryderus wrth geisio rhiant plant nad ydynt yn fiolegol.
Teuluoedd heb blant – gall hyn fod yn ddewis o ran ffordd o fyw a gall sicrhau llawer o les, wrth i'r oedolion ddewis treulio eu hamser a gwario eu harian yn canolbwyntio ar eu perthynas, yn hytrach na'u plant. Fodd bynnag, os na all y cwpwl gael plant, gall roi llawer o bwysau ar yr unigolion a'r berthynas.
Y teulu estynedig yw’r grŵp teulu ehangach, ar wahân i’r prif ofalwyr a’u plant. Gall gynnwys modryb, ewythr, cefndryd, taid a nain/tad-cu a mam-gu, brodyr a chwiorydd. Gall teulu estynedig cefnogol a gofalgar gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plentyn, oherwydd bydd sawl person yn rhannu’r rôl gofalu, a bydd amrywiaeth o fodelau rôl i’r plentyn eu hedmygu. Fodd bynnag, gall teulu estynedig gael effaith negyddol ar blentyn hefyd os oes tensiynau neu broblemau rhwng aelodau’r teulu.
Dulliau rhianta
Rhiant maldodus – Mae'r math hwn o rianta yn gariadus iawn ond prin yw'r ddisgyblaeth na'r strwythur ym mywyd y plentyn. Gallai plant a gaiff eu magu fel hyn, er eu bod yn teimlo'n ddiogel iawn ac â lefel uchel o hunan-barch, fod yn dueddol o deimlo bod ganddynt hawl i gael rhywbeth a gwneud penderfyniadau gwael am nad oes ganddynt sgiliau datrys problemau na gwneud penderfyniadau.
Rhiant esgeulus – Nodweddir hyn gan ddiffyg sylw i anghenion plentyn. Mae'r math yma o riant yn absennol yn emosiynol ac yn hapus i'r teledu neu dechnoleg warchod eu plant. Mae plant a gaiff eu magu fel hyn yn ei chael hi'n anodd ffurfio cydberthnasau llwyddiannus. Gallant ddioddef o orbryder ac iselder oherwydd diffyg cefnogaeth gan y teulu ac maent yn wynebu mwy o risg o ddatblygu problemau o ran eu hymddygiad fel oedolyn.
Rhiant awdurdodol – Mae'r math hwn o rianta yn gosod disgwyliadau uchel i'r plant ond mewn amgylchedd cariadus a chefnogol. Caiff plant lefel o annibyniaeth o fewn ffiniau sydd wedi'u diffinio'n glir. Mae plant a gaiff eu magu fel hyn yn hunanhyderus ac yn annibynnol. Gallant ffurfio cydberthnasau cryf ac iach ac maent yn llai tebygol o fod yn agored i bwysau gan gymheiriaid.
Rhiant awdurdodus – Mae'r math hwn o rianta hefyd yn gosod disgwyliadau uchel i'r plant ond nid mewn amgylchedd cariadus a chefnogol. Ni chaiff y plant fawr ddim dewis, os o gwbl, o ran penderfyniadau ac mae eu camgymeriadau yn dueddol o gael eu cosbi'n llym. Gall plant a gaiff eu magu fel hyn dyfu i fyny yn cysylltu ufudd-dod a llwyddiant â chariad, gallent fod yn ymosodol, meddu ar hunan-barch isel a bod yn swil ac yn nerfus o amgylch eraill.
Cydberthnasau
Rhiant a phlentyn – Mae angen i'r berthynas rhwng rhiant a phlentyn fod yn gyson ac yn sensitif er mwyn osgoi unrhyw effaith emosiynol negyddol. Os bydd plant yn teimlo y gallant ddibynnu ar riant am gysur pan fyddant mewn trallod byddant yn tyfu i fyny yn teimlo eu bod yn haeddu cariad a gofal. Mae plant sydd â bond emosiynol cryf â'u rhieni yn llai tebygol o fod yn agored i bwysau gan gymheiriaid yn eu harddegau.
Brodyr a chwiorydd – Pan fydd brodyr a chwiorydd yn ifanc, bydd eu math o berthynas yn amrywio yn dibynnu ar oedran a rhywedd. Pan yn ifanc byddant yn dueddol o ymladd mewn ffyrdd corfforol ond wrth iddynt dyfu i fyny bydd hyn yn datblygu i fod yn gweryla ar lafar. Mae brodyr a chwiorydd sy'n oedolion yn dueddol o gael cydberthnasau sy'n perthyn i un o'r pum categori canlynol:
hynod ffyddlon, gan osod y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd uwchlaw pob un arall
ffrindiau agos a gofalgar, ond rhoddir mwy o werth ar briodas a'r berthynas rhwng y rhiant a'r plentyn
teyrngarwch yn seiliedig ar hanes cyffredin y teulu, cadw mewn cysylltiad rheolaidd, mynychu digwyddiadau'r teulu ac yno mewn argyfwng
ddim yn teimlo wedi cysylltu a braidd dim cyswllt, os o gwbl
gelyniaeth yn seiliedig ar ddrwgdeimlad a dicter.
Cyfeillgarwch – mae hyn yn bwysig am sawl rheswm a gall hybu iechyd a llesiant drwy gefnogaeth, hybu hunan-barch, cadw unigolion yn weithgar a helpu i weithredu mewn ffordd gadarnhaol. Fodd bynnag, mae cyfeillgarwch camweithredol yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles. Gall ffrindiau roi pwysau ar unigolion i wneud pethau sy'n wael iddynt, a gallant niweidio eu hunan-barch drwy feirniadaeth gyson.
Cydberthnasau agos a rhywiol – Gall y math hwn o berthynas gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd a lles. Gall unigolion fagu pwysau a chymryd llai o ofal o'u hymddangosiad pan fyddant mewn perthynas agos gyfforddus. Fodd bynnag, gall y gwrthwyneb ddigwydd, gyda chyplau yn cymell ei gilydd i gadw'n heini a bwyta'n iach. Gall cydberthnasau rhywiol iach ostwng lefelau straen, ond os bydd un partner yn cael ei roi dan bwysau i gael perthynas rywiol gall hyn achosi straen a gorbryder.
Cydberthnasau gwaith – Gwelir effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant os bydd unigolyn yn teimlo'n rhan o gymuned a'i fod yn cael ei gefnogi gan ei gydweithwyr. Mae hyn yn meithrin ymdeimlad o berthyn a diben unigolyn ac yn ei helpu i deimlo bod ganddo fwy o reolaeth o benderfyniadau sy'n effeithio arno.
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Mae'r profiadau trawmatig hyn yn digwydd cyn 18 oed a chânt eu cofio drwy gydol oedolaeth.
Mae'r profiadau hyn yn amrywio o ddioddef camdriniaeth eiriol, feddyliol, rywiol a chorfforol, i dyfu i fyny ar aelwyd lle mae trais domestig, camddefnyddio alcohol, rhieni sydd wedi gwahanu neu gamddefnyddio cyffuriau yn bodoli.
Dengys tystiolaeth fod plant sy'n profi plentyndod llawn straen ac o ansawdd gwael yn fwy tebygol o ymddwyn mewn ffyrdd niweidiol i iechyd a gwrthgymdeithasol, yn fwy tebygol o berfformio'n wael yn yr ysgol, yn fwy tebygol o fod ynghlwm wrth droseddu ac, yn y pen draw, yn llai tebygol o fod yn aelod cynhyrchiol o gymdeithas.
http://www.aces.me.uk/cymraeg/
Camdriniaeth
Mae sawl math gwahanol o gamdriniaeth ac mae pob un yn arwain at ymddwyn mewn ffyrdd sy'n niweidio unigolyn arall yn fwriadol neu'n anfwriadol. Mae'n torri hawliau dynol a sifil unigolyn ac, yn yr achosion gwaethaf, gall achosi marwolaeth.
Gall unigolion gael eu cam-drin drwy gydol eu bywyd.
Camdriniaeth emosiynol neu seicolegol – gall hyn gynnwys amlygu unigolyn i drais, modelu ymddygiad gwael neu galw enwau, gweiddi ar rywun neu ei sarhau; ymddwyn mewn ffordd fygythiol neu fygwth cymryd rhywbeth sy'n bwysig; eu gwatwar; rhegi arnynt; anwybyddu neu ynysu unigolyn; eu cau allan o ddigwyddiad neu weithgaredd ystyrlon a methu â diwallu anghenion emosiynol plentyn. Gall hyn arwain at ddatblygu problemau iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a hunan-niwed yn achos plentyn.
Camdriniaeth rywiol – ystyrir bod unrhyw weithgaredd rhywiol y caiff plentyn ei ddarbwyllo i gymryd rhan ynddo yn gamdriniaeth rywiol. Nid oes rhaid i hyn gynnwys cyswllt corfforol ac efallai na fydd plentyn yn sylweddoli bod rhywbeth o'i le. Gall hyn arwain at broblemau iechyd meddwl difrifol a'r risg o hunan-niwed.
Camdriniaeth gorfforol – Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth a fyddai'n niweidio diogelwch corfforol unigolyn yn uniongyrchol. Efallai na fydd plant a gaiff eu cam-drin yn gorfforol yn gwneud yn dda yn yr ysgol, gallant ddechrau troseddu neu gael problemau cyffuriau ac alcohol. Gallant hefyd wynebu problemau iechyd meddwl. Gall ysgwyd baban arwain at anafiadau difrifol, gan gynnwys niwed i'r ymennydd, nam ar y clyw a'r golwg, problemau dysgu a phroblemau ymddygiadol.
Camdriniaeth ddomestig – Mae hwn yn batrwm rheolaidd o gam-drin ac ymddygiad cymhellol sy'n rheoli, sy'n cynnwys camdriniaeth gorfforol, rywiol, emosiynol ac ariannol. Mae plant sy'n profi camdriniaeth ddomestig yn fwy tebygol o fod mewn perthynas gamdriniol fel oedolyn.
Esgeulustod – Methiant parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol unigolyn a all gynnwys anwybyddu anghenion meddygol, emosiynol neu gorfforol; methiant i sicrhau mynediad i iechyd, gofal a chymorth priodol neu wasanaethau addysgol, gwrthod hanfodion bywyd, fel meddyginiaeth, maeth digonol a gwres. Mae plant sy'n profi esgeulustod yn fwy tebygol o droseddu, cael problemau cyffuriau neu alcohol a bod yn rhan o gydberthnasau peryglus. Gall unigolion hŷn neu unigolion sy'n agored i niwed sy'n profi esgeulustod brofi problemau iechyd difrifol neu fod mewn perygl.
Tasg - Nodwch yn eich lyfrau
Darllenwch ac ystyriwch y wybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'u heffaith
Cymru Well Wales: Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
a phwysigrwydd y mil o ddiwrnodau cyntaf ym mywyd plentyn
Cymru Well Wales : 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf
https://phw.nhs.wales/
Nodwch y prif bwyntiau.
Profiadau addysgol
Gall addysg helpu unigolion i fyw bywydau hirach ac iachach. Gall llesiant pawb mewn cymuned ddysgu gael ei ddatblygu'n gadarnhaol drwy greu amgylchedd diogel, gofalgar, cefnogol a phwrpasol sy'n fodd i ddatblygu cydberthnasau ar sail parch rhwng y naill a'r llall.
Mae gan ysgolion a cholegau rôl hanfodol i'w chwarae i helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach a deall canlyniadau ar iechyd a llesiant gydol oes.
Fodd bynnag, os bydd bwlio, problemau dysgu, neu fethu â ffitio i mewn yn effeithio ar brofiadau addysgol, gall hyn gael effaith negyddol ar les unigolyn.
Gall myfyrwyr ddioddef problemau iechyd meddwl wrth astudio ar gyfer arholiadau, fel gorbryder ac iselder.
Cyflogaeth
Mae bod mewn swydd yn dda i iechyd a lles. Mae'n galluogi unigolion i:
ddatblygu eu hunain
teimlo balchder a chyflawniad personol
cymdeithasu, a chael cefnogaeth
cael strwythur a diben i'w diwrnod
bod yn weithgar yn gorfforol ac yn feddyliol
cael arian i gefnogi eu hunain a'u teulu a mwynhau diddordebau.
Diweithdra
Mae unigolion di-waith yn fwy tebygol o:
brofi iechyd corfforol a meddyliol gwaeth yn gyffredinol
gweld eu meddyg teulu yn amlach
cael eu derbyn i'r ysbyty
marw
Straen sy'n gysylltiedig â gwaith
Os bydd gofynion swydd yn drech na gallu cyflogai i ymdopi, gall hyn arwain at straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall arwain at orbryder ac iselder.
Diwylliant
Mae a wnelo diwylliant â set o syniadau, arferion a ffyrdd o ymddwyn a rennir gan grŵp o unigolion neu gymdeithas benodol.
Gall effeithio ar y ffordd mae grŵp o unigolion yn meddwl am iechyd, salwch a marwolaeth, achosion clefyd, ble i gael help a'r mathau o driniaeth maent am ei chael. Gall yr holl bethau hyn ddylanwadu ar iechyd a lles.
Gall unigolion ifanc o wahanol gefndiroedd diwylliannol deimlo eu bod wedi'u dal rhwng dwy set o safonau a gwerthoedd diwylliannol, oherwydd safbwyntiau diwylliannol yn ymwneud â rhywioldeb, cydberthnasau, rolau o ran rhywedd, addysg a chyflogaeth. Gallant deimlo'n rhwystredig o ran eu dewis o ffrindiau, a gall detio achosi gwrthdaro o fewn y teulu.
Amrywiaeth hiliol
Mae hil yn cyfeirio at hil, lliw, cenedligrwydd a tharddiad ethnig neu genedlaethol unigolyn.
Mae ambell hil yn wynebu risg uwch o gael rhai clefydau, er enghraifft mae anemia y crymangelloedd yn fwy cyffredin ymhlith unigolion Affricanaidd, Asiaid, unigolion o'r Dwyrain Canol ac unigolion o Ddwyrain Ewrop.
Gall problemau iechyd meddwl ddeillio o hiliaeth, a all ostwng lefel hunan-barch a hyder unigolyn, a all arwain at unigolion yn osgoi cael cyswllt ag eraill, neu fod ofn mynd i'r ysgol neu'r gwaith. Bydd hyn yn cynyddu'r risg o broblemau fel iselder, gorbryder a defnyddio sylweddau.
Tasg - atebwch yn eich lyfrau
Ar gyfer pob un o'r senarios isod, nodwch effaith y sefyllfa ar allu'r unigolion i dyfu a datblygu'n gymdeithasol ac yn emosiynol, a beth y gellid ei wneud i'w cefnogi:
Mae Aidan yn bump ac yn mwynhau gwisgo i fyny gyda'r merched yn ei ddosbarth. Mae'r bechgyn yn y dosbarth am wneud hwyl am ei ben ac yn ei alw'n ferch. Dywed ei dad y dylai chwarae gemau i fechgyn.
Mae mam Helen newydd ailbriodi ac mae nawr yn byw gyda'i llys-dad a llys-chwaer hŷn nad yw'n ei hadnabod mewn gwirionedd. Mae'n gweld eisiau ei thad, sydd bellach yn byw drideg milltir i ffwrdd. Nid yw ei mam yn fodlon iddi siarad amdano pan fydd ei llys-dad newydd o gwmpas.
Mae Debbie a Mark wedi bod yn ceisio cael baban ers iddynt briodi tair blynedd yn ôl. Maent newydd gael profion ac wedi cael gwybod bod y tebygolrwydd o gael baban yn naturiol yn isel iawn.
Mae Joel, 7 oed, yn byw gyda'i fam sengl. Mae'n fenyw fusnes lwyddiannus iawn ac mae'n prynu dillad drud, y dechnoleg ddiweddaraf a'r holl deganau gorau iddo. Mae Joel yn treulio cryn dipyn o'i amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell wrth i'w fam weithio'n hwyr yn ei stydi. Prin mae ganddi'r amser i ddangos anwyldeb, ond teimla ei bod yn gwneud hynny drwy'r anrhegion mae'n eu prynu i'w mab.
Mae llawer o'r disgyblion yn ysgol Joanne yn mynychu'r ganolfan farchogaeth leol i gael gwersi. Mae rhieni Joanne allan o waith ac ni allant fforddio'r gwersi.
Mae Jamie yn cael ei fwlio yn yr ysgol ond nid yw'n teimlo y gall ddweud wrth ei deulu. Mae'n esgus bod yn sâl pan na all wynebu mynd i'r ysgol mewn gwirionedd.
Mae Julie, 35 oed, newydd golli ei swydd. Fel y prif enillydd yn y teulu, mae'n poeni sut mae'n mynd i dalu'r biliau. Nid yw wedi gweld ei chydweithwyr ers dros dair wythnos ac mae'n drist nad oes neb wedi ei ffonio.
Mae Claire wedi bod mewn damwain car ddifrifol ac mae angen trallwysiad gwaed arni. Mae ei gŵr wedi gwrthod am eu bod yn Dystion Jehofa.
Mae Khalid wedi bod yn mynychu'r coleg lleol ers dwy flynedd. Mae wedi dechrau gweld merch ar ei gwrs, ond mae'n gwybod na fydd ei rieni'n fodlon am eu bod yn Foslemiaid a bod y ferch yn dod o deulu Catholig.
Ffactorau economaidd
Gall nifer o ffactorau economaidd effeithio ar iechyd a lles unigolyn, yn ogystal â'r ffordd mae'n datblygu. Mae'r rhain yn bethau sy'n ymwneud ag arian ac yn cynnwys:
Incwm
Cynilion
Biliau
Dyled
Eiddo materol.
Mae ffactorau economaidd yn effeithio ar y ffordd mae anghenion corfforol unigolion yn cael eu diwallu a gallant hefyd effeithio ar eu hanghenion deallusol, emosiynol a chymdeithasol hefyd.
Cyflog
Dyma'r arian sy'n cael ei ennill drwy waith.
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng faint o arian mae rhieni yn ei ennill a pha mor dda mae eu plant yn ei wneud yn yr ysgol o oedran cynnar. Honnir nad yw plant o deuluoedd incwm isel yn gwneud cystal yn yr ysgol a bod eu hiechyd yn waeth na phlant o deuluoedd mwy cyfoethog. Gall hyn yn ei dro arwain at lai o gyfleoedd gwaith a llai o incwm pan fydd y plant hyn yn oedolion.
Gall hyn fod oherwydd ffactorau fel deiet gwael, diffyg mynediad i nwyddau a gwasanaethau sy'n helpu plant i ddatblygu a llai o fynediad i ardaloedd chwarae da.
I oedolion, gall ymdopi ar incwm isel beri straen a gall teimlo fel eich bod ar waelod yr ysgol gymdeithasol gael effaith negyddol ar hunan-barch. Mae pobl ar incwm is yn fwy tebygol o fabwysiadu ffyrdd o fyw afiach, fel ysmygu ac yfed, tra bod pobl ar incwm uchel yn gallu fforddio byw bywydau iachach. Mae hyn yn cynyddu'r risg o glefyd y galon, strôc, canser a diabetes.
Gall plant sydd â rhieni di-waith, sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar fudd-daliadau, deimlo mai prin yw eu cyfleoedd mewn bywyd. Nid ydynt yn dueddol o wneud cystal yn yr ysgol a gallant ddioddef problemau gyda hunan-barch a straen.
Budd-daliadau
Cymorth gan y llywodraeth yw hyn ar gyfer unigolion ag incwm o unrhyw lefel, ond y prif nod yw sicrhau bod pobl ar incwm isel yn gallu diwallu eu hanghenion dynol sylfaenol fel bwyd a llety. Mae budd-daliadau lles yn ceisio sicrhau bod gan yr unigolion tlotaf lefel sylfaenol o lesiant, a all fod yn fudd-daliadau (e.e. budd-dal plant, budd-dal tai, cymhorthdal incwm) neu gyflenwad am ddim neu â chymhorthdal o rai nwyddau (e.e. llaeth baban).
Cynilion – pan fydd gan unigolion arian dros ben ar ôl talu am bopeth gallant gynilo mwy. Mae cynilo yn darparu sicrwydd seicolegol ac yn cynnig lefel o ddiogelwch mewn amgylchiadau annisgwyl. Gall leihau straen os bydd argyfwng oherwydd bydd gan unigolion yr arian os bydd ei angen.
Biliau – gall hyn fod yn daliadau hanfodol ar gyfer rhent, trethi cyngor, tanwydd, bwyd, costau trafnidiaeth.
Dyledion – mae'r rhain o ganlyniad i fenthyca arian i brynu tŷ (morgais) neu gyfarpar drud, neu o filiau heb eu talu.
Mae pobl yn y grwpiau incwm isaf yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gynilion o gwbl, bod ar ei hôl hi wrth dalu biliau a bod mewn mwy o ddyled.
Gall y lefelau uchel hynny o ddyled gael effaith negyddol ar iechyd a lles oherwydd:
gall pobl orfod ad-dalu llawer mwy na'r swm a fenthyciwyd a gall eu had-daliadau olygu nad oes ganddynt ddigon o incwm i ofalu amdanynt eu hunain na'u teulu'n iawn
gall fod gan unigolion lai o fynediad i wasanaethau ariannol fel cyfrif banc, neu mae'n rhaid iddynt dalu mwy i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn
gall teuluoedd chwalu dan bwysau dyled
gall y ffaith bod llai o fynediad i fwyd iach a chyfleoedd i ymarfer corff effeithio ar iechyd, a gall straen arwain at salwch
gall problemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder ddigwydd os bydd unigolyn yn poeni am ddyled.
Yn gyffredinol mae tlodi'n golygu bod gan unigolyn incwm isel iawn ac na all fforddio talu am hanfodion bywyd.
Yn ôl y Sefydliad Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol mae'r grwpiau canlynol yn agored i dlodi:
rhieni sengl ar fudd-daliadau
pobl ifanc ddi-waith
gweithwyr ar gyflogau isel sy'n cefnogi teulu
oedolion anabl
pensiynwyr sengl.
Gall tlodi gael effaith negyddol ar iechyd a lles, a datblygiad, yn y ffyrdd canlynol:
Tlodi mewn plentyndod
mae babanod a enir i famau mewn tlodi yn dueddol o bwyso llai na phlant a enir i famau ag arian
mae plant yn fwy tebygol o ddioddef salwch cronig fel asthma
mae plant yn fwy tebygol o wynebu problemau sy'n gysylltiedig â deiet fel diffyg maeth, gordewdra a phydredd dannedd
mae plant tlawd deirgwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl o gymharu â phlant mwy cefnog
gall atal rhieni rhag darparu amgylchedd cefnogol i'w plant dyfu i fyny ynddo
mae plant sy'n cael eu geni mewn tlodi yn wynebu mwy o risg o ddatblygu salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar fywyd wrth iddynt heneiddio.
Tlodi fel oedolyn
mae clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes ac arthritis yn fwy cyffredin ymhlith oedolion sy'n byw mewn tlodi
mae problemau iechyd meddwl fel iselder, gorbryder a sgitsoffrenia yn fwy cyffredin.
Tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd
gall pobl dlawd ddatblygu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd yn gynharach mewn bywyd nag unigolion ag arian
mae pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o brofi ynyswch cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl fel iselder.
Tasg - atebwch yn eich lyfrau
Rhowch y datganiadau hyn mewn colofnau yn seiliedig ar yr hyn rydym ei angen a'r hyn rydym ei eisiau yn eich barn chi. Nid oes cyfleuster gwirio. Bydd angen i chi esbonio eich dewisiadau.
Tasg - Atebwch yn eich lyfrau :
Gwyliwch 1:48 munud cyntaf y fideo hwn - Ym marn Llywodraeth Cymru, beth sydd ei angen arnom er mwyn byw bywydau hapus ac iach?
Ffactorau Amgylchydol
Cyflwr tai
Mae tai yn elfen bwysig o safonau byw unigolion. Bydd tai sych a chynnes sy'n cynnig diogelwch, preifatrwydd a gofod personol i'r sawl sy'n byw yno yn cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u lles.
Gall tai o ansawdd gwael arwain at iechyd meddwl gwael a thrais domestig. Gall plant deimlo'n orbryderus a gall hefyd arwain at ynysu cymdeithasol gan nad yw unigolion yn teimlo y gallant wahodd eraill i'w cartref.
Gall cyflwr tai gwael olygu bod plant yn cael llai o gyfleoedd mewn bywyd am fod diffyg cyfleusterau yn yr ardal fel ysgolion da, ardaloedd cymdeithasol a mynediad i ofal iechyd da.
Mae unigolion ddigartref a'r rheini sy'n ofni eu cymunedau yn aml yn teimlo'n ynysig. Mae llawer o rieni yn byw mewn gofid oherwydd digartrefedd. Nid yw'r plant byth yn gwybod i ble y cânt eu symud nesaf, sy'n achosi gorbryder, iselder a chamymddwyn. Gallant hefyd brofi gorfywiogrwydd, natur ymosodol, gwlychu'r gwely a baeddu.
Mae'r canlynol yn effeithio ar blant sy'n byw mewn llety dros dro cyfyng:
problemau cysgu
deiet gwael
damweiniau
clefydau heintus.
Gall eu haddysg ddioddef am nad oes ganddynt y lle na'r preifatrwydd i wneud gwaith cartref a chwarae.
Bydd plant sy'n profi digartrefedd neu dai gwael yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol yn aml yn treulio gweddill eu bywydau yn ceisio dal i fyny. Dengys ymchwil fod y rheini sy'n dioddef tai gwael yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref fel oedolyn.
Argaeledd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau plant
Mae unigolion yn defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gydol eu hoes. Mae anghenion unigolyn yn amrywio yn dibynnu ar ei gyfnod mewn bywyd a'r math o gyflyrau a all fod ganddo. Bydd angen i hyd yn oed unigolyn iach ddefnyddio'r gwasanaethau at ddibenion imiwneiddio ac addysg.
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cefnogi unigolion o'u geni i ddiwedd eu bywydau. Bydd gan fam iach blentyn iach; bydd plentyn iach yn dod yn oedolyn iach. Os yw unigolion yn iach, yna gellir defnyddio adnoddau ar gyfer y rheini sy'n mynd yn sâl, ac sydd angen gofal, yn y byrdymor neu'r hirdymor.
Mae gwasanaethau iechyd yn helpu unigolion i fod yn rhydd rhag salwch, anaf a phoen, fel eu bod yn gallu parhau i fyw bywyd normal. Mae hefyd yn bwysig i wasanaethau iechyd atal problemau iechyd ac annog ffyrdd o fyw iach.
Nod gwasanaethau gofal cymdeithasol yw gwella ansawdd bywyd unigolyn a'i helpu i gyrraedd ei botensial. Maent yn gwneud hyn drwy helpu gyda byw beunyddiol, gwrando, annog rhyngweithio cymdeithasol a darparu gweithgareddau ysgogol.
Gall iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol wella iechyd a lles drwy:
hybu byw'n iach drwy gyngor ar ddeiet ac ymarfer corff a mynediad i wasanaethau cwnsela
amddiffyn y rheini sy'n wynebu risg fel rhaglenni brechu plant a brechiad ffliw i'r henoed
nodi a thrin unigolion heb unrhyw symptomau cyn i salwch clinigol ddatblygu drwy raglenni sgrinio
nodi'r rheini sydd mewn perygl o niwed a gweithio gyda theuluoedd er mwyn mynd i'r afael â materion
darparu cymorth effeithiol i unigolion oedrannus agored i niwed gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth meddygol a chymdeithasol sydd ei angen arnynt
rhoi cymorth effeithiol i unigolion ag anableddau corfforol, meddyliol a dysgu
nodi a chynorthwyo unigolion â phroblemau iechyd meddwl, alcohol neu gyffuriau
darparu cyfleoedd i ddysgu drwy chwarae i blant bach.
Rhwystrau i gael gafael ar wasanaethau
Gall unigolion wynebu mwy nag un rhwystr i gael gafael ar wasanaethau.
Rhwystrau corfforol
Gwrthrychau yw'r rhain sy'n atal unigolyn rhag mynd o un lle i'r llall e.e. ni all defnyddiwr cadair olwyn fynd i mewn i adeilad am fod y drws yn rhy gul neu mae grisiau felly ni allant gyrraedd y fynedfa.
Rhwystrau seicolegol
Mae'r rhwystr hwn yn effeithio ar y ffordd mae unigolyn yn meddwl am wasanaeth, er enghraifft efallai y bydd yn ofni'r deintydd. Os bydd unigolyn yn teimlo'n sâl ond ei fod yn ofni clywed beth sydd o'i le, efallai na aiff i weld ei feddyg teulu.
Rhwystrau ariannol
Os bydd y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant mae'r unigolyn yn ceisio cael gafael arno gryn bellter i ffwrdd efallai na fydd yn gallu fforddio'r costau teithio i gyrraedd yno.
Rhwystrau daearyddol
Mae rhai unigolion yn byw ger gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, a gall eraill fyw gryn bellter i ffwrdd. Yn achos unigolion nad ydynt yn byw ger y gwasanaethau efallai na fydd y bysiau yn yr ardal ar gael ar adeg gyfleus i gyrraedd apwyntiad.Efallai y bydd angen i glaf gael triniaeth arbenigol sydd sawl milltir i ffwrdd a'i bod hi'n anodd cyrraedd yno. Gall fod gan rai unigolion broblem symudedd sy'n golygu na allant gerdded pellter byr i'r gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
Rhwystrau diwylliannol ac iaith
Os yw'r wybodaeth (arwyddion, taflenni, posteri) am wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn Gymraeg neu Saesneg yn unig yna ni fydd modd i'r rheini ag iaith gyntaf wahanol ddysgu am y gwasanaeth. Os yw'r wybodaeth yn cynnwys iaith arbenigol efallai na fydd yr unigolyn yn ei deall.Gall fynd yn orbryderus neu boeni am y gwasanaeth.
Rhwystrau o ran adnoddau
Weithiau efallai na fydd y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant sydd eu hangen ar unigolyn ar gael oherwydd prinder staff neu arian. Os oes galw mawr am wasanaeth efallai y bydd angen i unigolion aros nes bod digon o arian ar gael i dalu am bawb sydd angen y gwasanaeth.
Llygredd aer
Mae llygredd aer yn cael effaith sylweddol ar fywydau unigolion. Mae unigolion sy'n byw mewn amgylchedd di-lygredd yn mwynhau gwell ansawdd bywyd.
Mae llygredd aer yn achosi tua saith miliwn o farwolaethau bob blwyddyn ledled y byd. Mae twf y boblogaeth mewn dinasoedd, a'r cynnydd yn y defnydd o geir, yn creu'r allyriadau sy'n niweidiol i'n hiechyd.
Mae'r math o lygredd aer y down i gysylltiad ag ef yn cael effaith wahanol ar ein hiechyd a'n lles.
Gall llygredd aer achosi:
clefydau anadlol
clefyd cardiofasgwlar
blinder, cur pen a gorbryder
cosi o ran y llygaid, trwyn a gwddf
niwed i'r organau atgenhedlu
niwed i'r afu, dueg a gwaed
niwed i'r system nerfol.
Mae unigolion sy'n byw mewn trefi a dinasoedd yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau llygredd aer.
Mae unigolion sydd eisoes yn sâl yn hynod agored i niwed, fel mae plant a'r henoed.