Datblygiad Corfforol
Twf yw'r newidiadau corfforol, mynd yn fwy o faint, mynd yn dalach a phwyso mwy. Datblygiad yw'r ffordd mae plant yn cymryd rheolaeth o'u gweithredoedd corfforol er mwyn cyflawni gweithgareddau cymhleth ac anodd yn fwy medrus ac yn haws.
Mae cysylltiad rhwng twf a datblygiad am fod datblygu a gwella sgiliau corfforol yn dibynnu ar faint y plentyn a'i gryfder cyhyrol. Bydd datblygiad corfforol fel arfer yn dilyn trefn er y gall yr oedran amrywio. Mae ffactorau a all effeithio ar y drefn hon, fel anabledd.
https://hwb.gov.wales/storage/144f0c87-4a33-4ba1-80ef-d08ae3c09ad2/datblygiad-corfforol.pdf
Twf y Corff
Mae tyfu yn ddangosydd pwysig o ran iechyd plentyn. Caiff ei fonitro gan ddefnyddio siartiau canraddau. Mae'r siartiau hyn yn dangos sut mae plentyn yn tyfu o gymharu â chanran benodol o'r boblogaeth. Caiff oedran y plentyn ei ystyried yn ogystal â'r gwahaniaethau sydd yn y boblogaeth. Caiff taldra, pwysau, BMI a chylchedd y pen i gyd eu mesur yn y ffordd hon a'u cofnodi ar siartiau canraddau yng nghofnod iechyd personol y plentyn (y llyfr coch a gedwir gan rieni).
https://111.wales.nhs.uk/livewell/pregnancy/babyhealthdevelopment/
Sgiliau Echddygol Bras
Dyma ddatblygiad a rheolaeth y corff cyfan a'r cyhyrau mawr. Mae angen i blant gael y rheolaeth hon er mwyn gallu cadw eu balans, cerdded a dringo.
Ychydig iawn o reolaeth sydd gan fabanod newydd-anedig dros eu cyrff ac mae eu gweithredoedd yn adwaith anwirfoddol. Wrth iddynt fynd yn hŷn, byddant yn datblygu mwy o reolaeth dros y gweithredoedd hyn. Gall plentyn ddysgu rheoli sut i gerdded ar gyflymder gwahanol i blentyn arall. Gallant ddysgu cerdded yn 9 mis oed, 12 mis neu 18 mis.
Mae plant yn dysgu rheoli eu cyhyrau o'u pen, yna eu hysgwyddau, yna eu breichiau ac yna eu coesau. Hefyd mae angen sgiliau cyd-symud arnynt, ynghyd â'r penderfyniad a'r hyder i gyrraedd y cerrig milltir ar gyfer datblygiad corfforol.
Sgiliau Echddygol Manwl
Dyma ddatblygiad a rheolaeth cyhyrau bach y dwylo, bysedd a thraed fel bod plentyn yn gallu gwneud tasgau mwy anodd e.e. tynnu llun, botymu a rhoi edau drwy leiniau. Bydd plant yn defnyddio sawl ffordd o afael nes iddynt feistroli'r gafael pinsiwrn aeddfed pan fyddant oddeutu 4 oed. Mae plant yn dysgu cyd-symud o'r tu mewn i'r tu allan.Maent yn dysgu rheoli eu breichiau, yna eu dwylo ac yna eu bysedd.
Trefn Sgiliau Echddygol Bras
Trefn Sgiliau Echddygol Manwl
Tasg - Cwblhewch yn eich lyfrau
Pa oedran bydd babanod yn ddefnyddio'r sgiliau echddydol manwl isod? 3 mis , 6 mis, 9 mis neu 12 mis, 15 mis, 18 mis, 2 oed, 3 oed, 4 oed neu 5 oed?
Pa oedran bydd babanod yn ddefnyddio'r sgiliau echddydol bras isod? 3 mis , 6 mis, 9 mis neu 12 mis, 15 mis, 18 mis, 2 oed, 3 oed, 4 oed neu 5 oed?
Atebwch y gwestiwn isod:
Mae Gareth yn chwe blwydd oed, pa gerrig milltr sgiliau echddygol bras ddylai fod wedi eu cyrraedd?
Chwarae'r clipiau am blant mewn meithrinfa. Gwnewch gofnod o'ch arsylwadau ar gyfer bob clip ar y daflen arsylwi gan nodi'r defnydd o sgiliau echddygol manwl a sgiliau echddygol bras.
Oed Aeddfedrwydd
Mae oed aeddfedrwydd yn digwydd pan fydd corff plentyn yn dechrau datblygu a newid wrth iddo ddod yn oedolyn. Bydd merched yn cael bronnau ac yn dechrau eu misglwyf, a bydd bechgyn yn cael llais dyfnach, yn tyfu'n sydyn ac yn dechrau edrych yn fwy fel dyn.
Bydd oedran aeddfedrwydd fel arfer yn digwydd pan fydd merched yn 11 oed a phan fydd bechgyn yn 12 oed.
Merched
yr arwydd cyntaf o oed aeddfedrwydd yw pan fydd y bronnau yn dechrau tyfu
bydd blew cedor hefyd yn dechrau ymddangos
ar ôl tua dwy flynedd bydd y bronnau wedi datblygu'n llawnach, a bydd y misglwyf wedi dechrau
gall merched dyfu'n sydyn
mae'n arferol i ferched fagu pwysau ar eu cluniau a'u morddwyd, a bydd eu canol yn mynd yn gulach wrth i siâp y corff newid
gall hwyliau merched newid yn sydyn yn ystod y cyfnod hwn wrth i lefelau hormonau amrywio
gallant hefyd gael problemau croen fel acne.
yr arwydd cyntaf o oed aeddfedrwydd yw pan fydd y ceilliau yn mynd yn goch ac yn chwyddo
bydd blew cedor hefyd yn dechrau ymddangos
ar ôl ychydig flynyddoedd, bydd y pidyn a'r ceilliau wedi tyfu a bydd blew yn ymddangos o dan y breichiau ac ar yr wyneb
bydd bechgyn yn tyfu'n sydyn a bydd eu lleisiau'n dyfnhau
gall eu hwyliau newid yn sydyn a gallant fynd yn fwy ymosodol
gallant hefyd gael problemau croen fel acne.
Menopos
Mae'r menopos yn digwydd pan na fydd corff menyw yn cynhyrchu wyau mwyach. Bydd ei misglwyf yn digwydd yn llai aml a bydd yn dod i ben yn y pen draw. Pan na fydd yn cael misglwyf mwyach, ni fydd menyw yn gallu beichiogi'n naturiol.
Mae hyn yn rhan naturiol o heneiddio ac mae fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed. Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn profi symptomau a all fod yn ddifrifol ac effeithio ar fywyd bob dydd. Yn eu plith, mae:
pyliau o wres
chwysu dros nos
problemau cysgu
fawr ddim awydd cael rhyw
gorbryder ac iselder
cof gwael a phroblemau'n canolbwyntio.
Gall y symptomau hyn bara blynyddoedd.
Nodweddion oedran a heneiddio
Oddeutu 25 oed bydd arwyddion cyntaf heneiddio yn ymddangos ar y croen, gyda llinellau tenau o amgylch y llygaid. Gall y croen ymddangos yn fwy sych ac yn llai ystwyth am ei fod yn cynhyrchu llai o olew gydag oedran. Gall smotiau oedran ymddangos ar y croen.
Gall y gwallt golli ei liw a throi'n wyn neu gwympo allan.
Gydag oedran, gall fynd yn anoddach gweld a bydd angen i lawer o unigolion wisgo sbectol. Gall unigolion hŷn hefyd ei chael hi'n fwy anodd dilyn sgwrs os oes llawer o sŵn yn y cefndir, neu efallai na fyddant yn gallu clywed synau uchel.
Bydd y dannedd a'r deintgig yn newid, a gall y deintgig ddechrau dirywio. Heb ofal, mae unigolion hŷn mewn perygl o golli eu dannedd.
Po hynaf y bydd unigolyn yn mynd y mwyaf anystwyth fydd ei rydwelïau, gan olygu bod yn rhaid i'r galon weithio'n galetach i bwmpio gwaed o amgylch y corff. Gall hyn arwain at bwysedd gwaed uchel a phroblemau eraill gyda'r galon.
Rhwng oddeutu 40 a 50 oed, bydd yr esgyrn yn dechrau gwanhau ac yn mynd yn fregus. Nid myth yw bod unigolion yn mynd yn llai gydag oedran. Mae'r disgiau yn yr asgwrn cefn yn gallu crebachu sy'n arwain at ostwng taldra hyd at ddwy fodfedd.
Mae'r hylif a'r cartilag sy'n leinio'r cymalau yn dirywio gydag oedran a all arwain at boen ac arthritis.
Mae'r cyhyrau yn lleihau gydag oedran sy'n ei gwneud hi'n fwy anodd i unigolion gyflawni tasgau bob dydd.
Gall unigolion yn eu 60au ei chael hi'n fwy anodd rheoli'r bledren. Gall peswch a thisian achosi anymataliaeth.
Datblygiad Emosiynol
bondio
ymlyniad
hunan-barch
hunanhyder
datblygu teimladau
ymlyniadau ac annibyniaeth.
Tasg: Parwch y patrwm datblygiad gyda'r oedran cywir. Nodwch eich ateb yn eich lyfr.
Bondio
Bondio yw'r ymlyniad dwys sy'n datblygu rhwng rhieni a'u baban. Mae'n gwneud i rieni fod am lwytho eu baban â chariad ac anwyldeb a diogelu a gofalu am yr un bach neu'r un fach. Mae a wnelo â theimlad o gariad diamod mam tuag at ei baban newydd. I rai menywod gall ddigwydd yn syth, ond gall gymryd peth amser i deimlo'r bond hwnnw yn achos eraill. Gall iselder ôl-enedigol effeithio ar y ffordd mae mam yn bondio â'i baban. Dywed arbenigwyr fod bond cynnar rhwng rhiant a baban yn dylanwadu ar ymateb y baban i straen, ymddygiadau dysgu a sgiliau cymdeithasol.
Ymlyniad
Mae ymlyniad baban i'w fam yn dechrau yn syth ar ôl ei eni wrth iddo ymateb i'r cariad a'r sylw a gaiff. Mae angen i fabanod gael cynhesrwydd, cael eu hanwesu, gorffwys a chael bwyd er mwyn meithrin ymlyniad emosiynol gryf a fydd o fudd iddynt yn ddiweddarach mewn bywyd. Ymlyniad cadarn sy'n rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i faban; parodrwydd i ddysgu, hunanymwybyddiaeth iach, ymddiriedaeth, ac ystyriaeth o eraill. Ni fydd ymlyniad gwan yn diwallu angen baban am ddiogelwch a dealltwriaeth, a gall arwain at ddryswch ynghylch ei hunaniaeth ac anawsterau i ddysgu ac ymgysylltu ag eraill yn ddiweddarach mewn bywyd.
Hunan-barch
Mae unigolion â hunan-barch uchel:
yn hoffi eu hunain, ond yn cydnabod bod yna bethau y gallent weithio arnynt a'u gwella
o'r farn eu bod yn haeddu cariad a chydberthnasau iach
yn meddu ar y gwydnwch i ddatrys problemau
yn llai tebygol o wynebu problemau cymdeithasol ac emosiynol
yn fwy tebygol o ofalu am eu hiechyd a'u lles.
Gall unigolion â hunan-barch isel:
gasáu eu hunain
teimlo nad ydynt yn ddigon da
methu â gwthio'u hunain
teimlo nad oes neb yn eu hoffi
beio eu hunain am bethau lle nad eu bai nhw ydyw
methu ag adnabod eu cryfderau
teimlo nad ydynt yn haeddu bod yn hapus
bod heb unrhyw hunanhyder.
Hunan-hyder
Mae unigolion â hunanhyder yn ymddiried ynddynt eu hunain a'u galluoedd. Gallant fod yn hunanhyderus mewn rhai agweddau ar eu bywyd, ond yn ansicr mewn eraill. Er enghraifft, gallant gael chwaraeon yn anodd ond efallai y byddant yn hunanhyderus o ran eu gallu mathemategol. Nid yw hunanhyder a hunan-barch yn mynd law yn llaw o reidrwydd. Er enghraifft, gall cerddor deimlo'n hunanhyderus wrth berfformio o flaen miloedd o unigolion, ond oherwydd hunan-barch isel gall fod yn niweidio'i hun â chyffuriau ac alcohol.
Teimladau
Mae angen i blant gael eu cefnogi i reoli eu teimladau. Gall teimlo dicter, rhwystredigaeth, siomedigaeth, tristwch, cywilydd ac embaras lethu plentyn bach. Drwy ddysgu bod yr emosiynau hyn yn normal a dysgu sut i ymdopi â nhw mewn ffordd gadarnhaol gall plentyn dyfu i fod yn unigolyn sefydlog yn emosiynol a deall teimladau unigolion eraill. Mae chwarae dychmygu yn helpu plant i ddatblygu a deall eu teimladau nhw a theimladau unigolion eraill, ac mae'n eu helpu i ddysgu sut i reoli'r teimladau hynny.
Ymlyniadau ac annibyniaeth
Mae astudiaethau'n awgrymu bod angen i blant feithrin ymlyniad dwfn â'u rhieni er mwyn tyfu'n unigolion annibynnol llwyddiannus. Os yw plant yn teimlo y gallant ddibynnu ar eu rhieni am gariad a chymorth os aiff pethau o chwith maent yn fwy tebygol o deimlo'n hyderus i roi cynnig ar bethau newydd drostynt eu hunain. Mae a wnelo annibyniaeth â dysgu sut i wneud pethau drostynt eu hunain a chymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd. Bydd angen i blant gael ffiniau wrth iddynt archwilio eu hannibyniaeth a meithrin cydberthnasau. Bydd hefyd angen iddynt wybod sut i aros yn ddiogel.
Gall oedolion helpu i greu plant annibynnol drwy ganiatáu iddynt wneud pethau drostynt eu hunain, fel gwisgo côt, hyd yn oed os yw'n cymryd mwy o amser. Dylai plant hefyd gael dewis o ran yr hyn maent yn mynd i chwarae gydag ef neu'r hyn maent yn mynd i'w wisgo. Mae hyn fwyaf effeithiol os cânt ddau neu dri dewis penodol, yn hytrach na gadael iddynt ddewis unrhyw beth.
Colli Annibyniaeth
Collir annibyniaeth pan na fydd unigolyn yn gallu cyflawni tasgau bob dydd mwyach heb gymorth a chefnogaeth. Gall hyn ddigwydd am fod ei iechyd a'i allu corfforol yn dirywio neu oherwydd damwain. Gall wneud i'r unigolyn deimlo'n rhwystredig, yn dda i ddim ac yn ynysig. Gall fod yn fwy anodd iddo fynd allan i weld ffrindiau, gan arwain at golli'r ffrindiau hynny a theimlo'n unig. Gall unigolyn deimlo'n ddig na all gyflawni tasgau bob dydd a throi ar yr unigolion sy'n ei helpu. Gall hefyd deimlo'n ddryslyd am fod angen help a threulio llawer o amser yn siarad ac yn dyheu am ei orffennol.
Datblygiad Deallusol
Mae datblygiad deallusol yn cynnwys:
-sgiliau iaith
-galluedd meddyliol a datblygiad y cof
-sut mae plant yn dysgu, gan gynnwys dysgu drwy chwarae, datrys problemau, a datblygiad moesol.
Tasg- defnyddiwch eich lyfrau i nodi eich ateb / parwch y patrwm datblygu gyda'r oedran cywir.
Sgiliau Iaith
Mae plant yn meithrin sgiliau iaith yn gyflym iawn rhwng 0 a 5 oed. Gall iaith gael ei rhannu'n ddwy ran; cyfathrebu dieiriau a chyfathrebu geiriol. Pan fydd plentyn yn cael ei eni gall gyfleu ei anghenion drwy grïo a mynegiant wyneb. Mae hyn fel arfer yn gymwys i 12 mis cyntaf ei fywyd.Mae'r gallu i ddeall iaith fel arfer yn digwydd cyn y gallu i gyfathrebu. Bydd plant yn dechrau cyfathrebu ar lafar drwy barablu ac yna drwy ddefnyddio un neu ddau air. Yna eir ati i gysylltu dau air, yna tri, ac yna frawddegau cyfan.
Bydd oedolion yn helpu babanod a phlant i feithrin iaith drwy siarad â nhw mewn ffordd benodol a thrwy ailadrodd yr un geiriau neu ymadroddion.Pan fydd plentyn yn ddwy bydd ganddo ychydig gannoedd o eiriau, a fydd yn cynyddu'n gyflym. Mae cyflymder datblygu geirfa yn dibynnu ar faint o leferydd mae'n cael ei amlygu iddo. Gorau po fwyaf mae oedolyn yn siarad â phlentyn. Yn chwech oed, bydd gan blentyn dros 10,000 o eiriau. Erbyn wyth oed, bydd plentyn yn gallu cynnal sgyrsiau o fath oedolyn. Unwaith y caiff yr hanfodion eu dysgu bydd iaith a geirfa yn parhau i ddatblygu drwy gydol y camau mewn bywyd.
Galluedd meddyliol a datblygiad y cof
Mae a wnelo galluedd meddyliol â'r ffordd rydym yn defnyddio'r meddwl ac yn rhoi trefn ar ein meddyliau er mwyn deall y byd o'n cwmpas. Gelwir hyn yn ddatblygiad gwybyddol hefyd ac mae'n dibynnu ar batrwm datblygu'r plentyn ei hun, y cyfle i chwarae gyda theganau a gemau a phrofi gweithgareddau a digwyddiadau.
Mae datblygiad gwybyddol yn cynnwys:
Dychymyg – gallu gweld pethau pan nad ydynt o'ch blaen. Bydd plant yn defnyddio eu dychymyg i chwarae dychmygu, gwneud gemau dychmygu, adrodd straeon, wrth dynnu llun, peintio, darllen, gwneud modelau a gwisgo i fyny.
Datrys problemau – y gallu i ddatrys problemau syml ac anodd. Mae'n dilyn patrwm: mentro a methu, nodi'r broblem, meddwl am ddatrysiad a rhagweld beth allai ddigwydd. Ymhlith y gweithgareddau a all helpu i ddatblygu hyn mae gweithgareddau rhoi trefn ar siapiau, jig-sos a dysgu reidio beic.
Creadigrwydd – gallu mynegi syniadau llawn dychymyg mewn ffordd unigryw. Ymhlith y gweithgareddau a wnaiff helpu i ddatblygu hyn mae peintio, tynnu llun, collage, dawns a cherddoriaeth.
Ffurfio cysyniadau – cyflwyno gwybodaeth ar ffurf ddealladwy. Gall hyn gael ei ddatblygu drwy weithgareddau sy'n cynnwys rhifau, lliwiau, siâp, amser, cyfaint, cyflymder a màs (pwysau).
Cof – y gallu i storio a chofio gwybodaeth, syniadau a digwyddiadau. Y gweithgareddau a wnaiff helpu hyn yw cwestiynu, dweud neu ysgrifennu am ymweliad, dyddiadau a diwrnodau'r wythnos.
Canolbwyntio – y gallu i dalu sylw.Bydd plant yn canolbwyntio mwy os oes ganddynt ddiddordeb yn y dasg/gweithgaredd. Mae angen iddynt ganolbwyntio er mwyn storio gwybodaeth a rhoi trefn arni.
Parhauster – deall bod rhywbeth yn dal i fodoli er na ellir ei weld. Y gweithgareddau sy'n helpu gyda hyn yw pi-po, chwarae cuddio a helfa drysor.
Ymresymu – deall bod gan weithredoedd achos ac effaith. Mae canolfannau chwarae â botymau gwthio a thynnu er mwyn gwneud i gloch ganu, a theganau codi'n sydyn yn helpu i feithrin y sgil hwn.
Fel rheol, caiff y sgiliau hyn eu meithrin yn ystod plentyndod a byddant yn datblygu drwy gydol bywyd drwy addysg, gwaith a phrofiadau bywyd.
Tasg: Atebwch yn eich lyfrau
Mae Bethan yn 4 blwydd oed. Mae'n unig blentyn ac mae ei rhieni'n pryderu y gallai ei datblygiad gwybyddol fod braidd yn araf am ei hoedran. Beth allai ei rhieni ei wneud er mwyn helpu i wella hwn?
Sut mae plant yn dysgu
Mae plant yn dysgu mewn sawl ffordd wahanol ond maent yn dysgu'n bennaf drwy
wylio
gwrando
ymchwilio ac archwilio
defnyddio llyfrau ac edrych ar luniau
gofyn cwestiynau
dynwared (copïo unigolion o'u cwmpas)
Maent yn dysgu'n fwy cyflym os ydynt mewn amgylchedd diogel a gofalgar.
Dysgu trwy chwarae
Chwarae yw un o'r prif ffyrdd mae plant yn dysgu. Bydd plant yn aml yn ymgolli'n llwyr yn yr hyn maent yn ei wneud sy'n eu helpu i ddatblygu'r gallu i ganolbwyntio.
Mae nifer o weithgareddau chwarae y gall plant gael eu cyflwyno iddynt a fydd yn eu helpu i ddysgu sgiliau gwahanol. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
Dŵr a thywod:
Sgiliau mathemategol – cyfaint a chapasiti wrth arllwys un jwg o ddŵr i mewn i un arall.
Sgiliau iaith a llythrenedd – ysgrifennu datblygol drwy wneud marciau yn y tywod. Sgiliau iaith drwy sgyrsiau am yr hyn maent yn ei wneud a holi cwestiynau fel beth fyddai'n digwydd os...ac ati.
Sgiliau gwyddonol – cynefinoedd, dŵr yn llifo, cymysgu tywod a dŵr ac ati.
Chwarae creadigol:
Sgiliau mathemategol – siapiau, pwysau a maint wrth chwarae gyda thoes.
Sgiliau iaith – mae gwisgo i fyny, chwarae rôl ac ati yn helpu i ddatblygu'r dychymyg ac yn annog cyfathrebu.
Teganau adeiladu:
Sgiliau mathemategol – trefn, maint a siâp wrth chwarae gyda blociau ac ati.
Datrys problemau a sgiliau rhesymeg – wrth adeiladu gan ddefnyddio blociau ac ati penderfynu beth i'w wneud nesaf a sut i drwsio pethau nad ydynt yn gweithio.
Dyfalbarhad – ailadeiladu tŵr o flociau sy'n cadw cwympo i lawr.
Datrys problemau
Gall sgiliau datrys problemau gael eu meithrin drwy adael i'r plant roi cynnig ar weithio pethau allan eu hunain a thrwy annog chwarae creadigol. Dylid gadael i blant brofi sut beth yw methu a hefyd weld bod angen i oedolion gael help i ddatrys problem weithiau.
Datblygiad moesol
Mae angen i blant ddysgu sut i wahaniaethu rhwng da a drwg a sut i wneud dewisiadau da. Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen iddynt weld esiampl dda yn cael ei gosod o'u cwmpas.
Ni all babanod ddeall y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Maent yn cael eu rheoli gan eu teimladau a'u hanghenion.
Bydd plant bach yn dilyn y rheolau er mwyn osgoi cael eu cosbi ond nid ydynt yn deall da a drwg eto. Nid ydynt yn deall pam mae cnoi yn anghywir, ond maent yn gwybod y byddant yn cael eu cosbi am hynny.
Erbyn bod plentyn yn bump oed bydd yn deall bod gan weithredoedd ganlyniadau, ac maent yn ymwybodol o reolau'r teulu. Ar y cam hwn yn natblygiad plentyn y mae angen i ddisgyblaeth fod yn gyson ac mae angen i blant ddeall pam maent yn cael eu cosbi. Mae hefyd yn bwysig bod plant yn gweld esiampl dda yn cael ei gosod o'u cwmpas.
Bellach bydd gan blant cynradd ymdeimlad cryf o'r hyn sy'n dda ac yn ddrwg, ond byddant yn dal i dorri'r rheolau o bryd i'w gilydd. Mae'n bwysig eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg.
Bydd plant yn eu harddegau am gael eu gwerthfawrogi gan eu ffrindiau felly efallai y byddant yn dechrau newid eu gwerthoedd moesol er mwyn ffitio i mewn, a all achosi problemau gartref. Mae plant yn eu harddegau yn hoffi negodi rheolau fel eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros y penderfyniadau maent yn eu gwneud. Erbyn yr oedran hwn, byddant yn llwyr ymwybodol o effaith bosibl eu penderfyniadau ar eraill.
Tasg - atebwch yn eich lyfrau
Datblygiad Cymdeithasol
Mae datblygiad cymdeithasol yn cynnwys:
sgiliau cymdeithasol/cymdeithasoli
camau chwarae cymdeithasol
rhyngweithio a rolau.
Tasg- atebwch yn eich lyfrau
Mae Carol a'i merch Hannah, sy'n 18 mis, newydd symud tŷ i ardal newydd.
Mae Carol yn awyddus i'r ddwy ohonynt wneud ffrindiau newydd yn yr ardal.
Enwch un gweithgaredd neu gyfle y gall pob un o'r llefydd hyn eu cynnig i Carol a Hannah er mwyn cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
canolfan iechyd leol
llyfrgell
canolfan hamdden
parc lleol
canolfan gymunedol.
Mae babanod a phlant yn datblygu ar raddfa wahanol ond ceir cerrig milltir cyffredin penodol o ran eu datblygiad cymdeithasol.
Babanod
Erbyn 12 mis bydd babanod yn gwybod sut i chwarae ffefrynnau gydag unigolion. Byddant am gael eich sylw, drwy roi llyfr neu degan i chi, neu drwy wneud synau penodol er mwyn i chi edrych arnynt.
Plant bach
Mae colli tymer yn beth cyffredin wrth i blentyn bach geisio dod yn annibynnol. Byddant yn chwarae dychmygu, gan ddynwared yr oedolion o'u cwmpas. Bydd ganddynt ddiddordeb mewn plant eraill hefyd, ond byddant yn dueddol o chwarae wrth eu hymyl yn hytrach na gyda nhw.
Plant oed meithrin
Bydd plant yn fwy hapus wedi'u gwahanu oddi wrth riant ac yn chwarae gyda phlant eraill yr oedran hwn. Byddant yn garedig ac yn ofalgar, a hynny'n ddigymell, gyda phlant eraill yr oedran hwn.
Plant oed cynradd
Bydd plant yr oedran hwn yn annwyl ac yn chwilfrydig, ond gallant hefyd fod yn hunanol ac yn gecrus. Gallant ddechrau encilio ychydig o'r teulu wrth iddynt ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain. Maent yn ymwybodol o'u rhywedd ac mae'n well ganddynt chwarae gyda phlant o'r un rhyw.
Plant oed uwchradd
Mae plant yn dod yn fwy annibynnol a gallant fod mewn hwyliau drwg a dymuno cael mwy o breifatrwydd. Mae grwpiau cyfoedion yn bwysig i blant yr oedran hwn a gallant ddechrau arbrofi gyda ffasiwn er mwyn gweld ble maent yn ffitio i mewn. Byddant yn dangos diddordeb mewn detio yr oedran hwn.
Oedolion ifanc
Gall rhai oedolion ifanc ei chael hi'n anodd ymdopi mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, o bosibl oherwydd anableddau dysgu neu ddiffyg hunanhyder. Gall rhai ei chael hi'n anodd deall beth yw perthynas iach a gwneud dewisiadau gwael. Gall eraill ei chael hi'n anodd gwybod sut i ymddwyn yn briodol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Bydd angen i'r oedolion ifanc hyn gael cymorth er mwyn eu helpu i feithrin y sgiliau sydd ar goll.
Oedolion hŷn
Mae unigolion hŷn wedi cael llawer iawn o brofiad o ddelio â sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol a gallant fod yn well am ddarllen emosiynau unigolion eraill a delio â gwrthdaro. Fodd bynnag, gall unigolion hŷn sydd wedi gweld eu cylch cymdeithasol yn crebachu oherwydd salwch a marwolaeth ddechrau teimlo'n orbryderus mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol. Gallant hefyd deimlo mwy o ynyswch a diflastod wrth iddynt ymddeol a bod eu teuluoedd yn brysur gyda'u bywydau eu hunain.
Cyfnodau Chwarae
Mae chwe chyfnod o chwarae cymdeithasol:
Chwarae Segur (Geni-3 Mis) – Ar y cam hwn, bydd babanod yn difyrru eu hunain drwy symud eu breichiau a'u dwylo gryn dipyn. Nid yw'r chwarae hwn yn cynnwys ymgysylltu ag unrhyw un arall.
Chwarae Unigol (Geni-2 Oed) – Dyma pan mae baban neu blentyn bach yn chwarae ar ei ben ei hun. Wrth chwarae'n unigol nid ymddengys eu bod yn sylwi ar blant bach eraill sy'n chwarae gerllaw.
Chwarae Arsylwi (2 Oed) – Ar y cam hwn, bydd plant bach yn eistedd ac yn gwylio eraill yn chwarae a gallant ofyn cwestiynau, ond ni fyddant yn gwneud unrhyw ymdrech i ymuno yn y chwarae.
Chwarae Cyfochrog (2+ Oed) – Bydd plentyn bach yn chwarae wrth ymyl plentyn arall ond ni fydd yn ei gynnwys yn ei chwarae. Er nad yw'r plant yn rhyngweithio â'i gilydd maent yn talu sylw i'r hyn mae'r llall yn ei wneud.
Chwarae Cyswllt (3-4 Oed) – Bydd plant yr oedran hwn yn dechrau chwarae gyda'i gilydd ond ni fydd ganddynt nod cyffredin ac ni fydd unrhyw reolau wedi'u sefydlu. Yn syml maent wedi dod yn fwy ymwybodol o'i gilydd yn hytrach na'r teganau maent yn chwarae gyda nhw. Mae hyn yn gam pwysig wrth ddysgu sut i gydweithredu a rhannu.
Chwarae Cydweithredol (4+ oed) – Ar y cam hwn bydd gan y plentyn ddiddordeb mewn eraill o'i gwmpas yn ogystal â'r gweithgaredd a rennir. Bydd chwarae yn dechrau cael ei ffurfioli gydag un plentyn yn cymryd y blaen. Dyma pryd mae plant yn dysgu sgiliau cymdeithasol cydweithredu, hyblygrwydd, cymryd tro a datrys problemau.
Dyma'r cyfnodau chwarae ond gall chwarae fod ar sawl ffurf. Gall fod yn swnllyd, yn ddi-drefn ac yn gymdeithasol, ond gall hefyd fod yn dawel, yn benodol ac yn unigol. Gan ei fod mor amrywiol, mae llawer wedi ceisio categoreiddio ymddygiad chwarae yn wahanol fathau. Mae'r modelau'n amrywio o ddau fath yn unig – llif rhydd a strwythuredig. Mewn gwaith chwarae, yn y DU, maent fel arfer yn cyfeirio at 16 o fathau o chwarae.
Mae'r mathau gwahanol o chwarae yn ceisio disgrifio'r amrywiaeth llawn o ymddygiadau chwarae sydd gan blant a sut y gallent gyfrannu at ddatblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol plentyn.
Darllen pellach
http://www.chwaraecymru.org.uk/cym/newyddion/848-play-types-new-info-sheet
Tasg - edrychwch ar y delweddau isod - nodwch yn eich lyfrau pa gyfnod o chwarae a nodir a rhestrwch y sgiliau cymdeithasol sy'n cael eu datblygu.
Rolau a rhyngweithio cymdeithasol
Wrth i unigolion heneiddio mae'n sylweddoli na all ymddwyn fel mae'n mynnu, ond bod yn rhaid cydymffurfio â safonau a mathau o ymddygiad penodol er mwyn cael ei dderbyn gan y gymdeithas mae'n byw ynddi. Yn dibynnu ar y grŵp mae unigolyn ynddo, gall newid ei bersonoliaeth er mwyn ffitio i mewn. Yn achos unigolyn iau, y grŵp cymdeithasol pwysicaf fydd ei deulu, ond wrth iddo dyfu'n hŷn bydd yn rhan o nifer o grwpiau cymdeithasol fel ffrindiau, cydweithwyr a thimau chwaraeon.
Mae rolau cymdeithasol yn diffinio ble mae unigolyn yn credu ei fod yn perthyn yn gymdeithasol. Er enghraifft, gall dyn ifanc gymryd rôl arweiniol yn ei grŵp o ffrindiau, ond mabwysiadu rôl wahanol gyda'i gydweithwyr. Yn y gorffennol, roedd unigolion yn dueddol o ryngweithio wyneb yn wyneb, ond gyda thwf y cyfryngau cymdeithasol, mae mwy a mwy o unigolion ifanc yn rhyngweithio ar-lein. Mae unigolion yn dueddol o rannu'r agweddau gorau arnynt eu hunain a'u bywydau ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, a all arwain at deimlo'n ddi-werth ac yn anfodlon.
Wrth i unigolion dyfu'n hŷn, ymddeol, a gweld eu plant yn symud ymlaen gyda'u bywydau, gallant weld eu rôl mewn cymdeithas yn newid. Gall hyn arwain at ddryswch, ansicrwydd am y dyfodol a dicter. Ar y llaw arall, gall gyflwyno byd newydd sbon o ryngweithio cymdeithasol am fod ganddynt fwy o amser i wneud y pethau sydd wrth eu bodd a threulio amser gydag unigolion sy'n mwynhau gwneud yr un pethau.
Tasg: Gwyliwch y ffilm ac yna disgrifiwch sut y gall y math hwn o ryngweithio cymdeithasol gael effaith negyddol ar iechyd a lles yr unigolyn. Nodwch yn eich llyfrau