Y GROMLECH
ADNODDAU I YSGOLION SIR BENFRO
Ein stori ni - Traed... cam... a naid!
Tyddewi - Y ddinas fach / St Davids - the small city
Dyma fwy o luniau i chi eu hystyried. Beth yw'r cysylltiad?
O'N BRO I'R BYD
Dechrau wrth ein traed
Cam i weld Cymru
A naid i weld y byd!
Munud i feddwl
Gall cymharu diwylliant ac amodau byw dinasoedd bach a mawr fod yn waith diddorol. Mae gan Cymru chwe dinas ac mae hanes pob un yn lliwgar. Beth yw eu nodweddion daearyddol a dynol. Beth oedd y reswm am eu datblygiad?
Mae Tyddewi yn wahanol i'r lleill i gyda o ran ei maint a’r reswm am ei bodolaeth. Mae olion y pererinion a’u taith i Dyddewi i'w gweld hyd heddiw ar draws tirlun Sir Benfro. Fel porthladdoedd yn gwasanaethu y diwydiannau trymion y datblygodd sawl un arall. Yn gyffredin, mae porthladdoedd yn gartrefi i bobl o aml ddiwylliannau. Wrth ddysgu am ddinasoedd Cymru, mae cyfle i drafod ieithoedd a chrefyddau gwahanol, tegwch a pharch.
Mae pobl Sir Benfro wedi teithio i ddinasoedd byd ac wedi gadael eu dylanwad ers canrifoedd. Llwyddodd Gerallt Gymro, a anwyd ym Maenorbyr tua 1146, i berswadio pobl Cymru i deithio i ben pella’r ddaear ar y Croesgadau. Ganwyd Hari Tudur ym Mhenfro yn 1457. Cyn diwedd 1485, roedd yn frenin yn Llundain lle y sefydlodd frenhiniaeth y Tuduriaid. O Dyddewi, aeth Thomas Tomkins (1572 – 1656) i Gaerwrangon a Llundain gan gyfansoddi cerddoriaeth i frenhinoedd. Aeth Thomas Rees (1844-1921) o Lydstep i deithio tramor. Daeth yn adeiladwr llewyrchus ac yn Faer dinas Brisbane yn Awstralia. Mae parch mawr i'w waith hyd heddiw.
Masnach gyda’r byd oedd maes Syr Pryce Pryce-Jones a fu’n gwerthu gwlanen, o’r Drenewydd, Powys, i UDA, Ewrop ac Awstralia. Yn yr Unol Daleithiau y gwnaeth y pensaer Frank Lloyd Wright (1867-1959) ei farc. Cymry oedd ei deulu ef hefyd, ac mae’n cael ei gofio ledled byd am y modd y gwnaeth weddnewid dulliau adeiladu. Ef yw pensaer mwyaf adnabyddus America.
HERIAU
SEREN A SBARC
Siaradwyr Cymraeg
Ymhle mae'r canrannau mwyaf o bobl sy'n medru'r Gymraeg yn byw?
Dysgwyr
Beth am wahodd dysgwyr lleol i'r ysgol er mwyn ymarfer eu Cymraeg?
Dysgu Cymraeg
Sut allwn ni groesawu ac annog mewnfudwyr i ddysgu a siarad Cymraeg?
Caneuon i ddysgwyr
Pa ganeuon sydd yn dda i bobl sydd yn dysgu Cymaeg? Ydy dangos y geiriau ar y sgrîn yn bwysig? Ydych chi'n gallu creu rhestr chwarae?
Cymry yn dylawndau
Pa Gymry sydd wedi dylanwadu ar y byd? Er enghraifft, ai Pryce Pryce Jones dechreuodd y syniad am Amazon heddiw?
Llenyddiaeth i ddysgwyr
Ydych chi'n gallu creu deunydd darllen i bobl sy'n dysgu Cymraeg?