Y Siarter Iaith

Wythnos 9 / Week 9

8.6.2020-12.6.2020:

Bore da! Cliciwch ar y linc isod cyn dechrau eich gwaith er mwyn derbyn neges gan Miss Williams. Ewch i 'Log in with Google' a rhowch eich e-bost Hwb i mewn. Wedyn, ychwanegwch fideo cyn diwedd yr wythnos, drwy glicio ar y botwm gwyrdd mawr. Rhannwch eich fideos gyda ni os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.

Good morning! Click on the link below before starting your work to see a message from Miss Williams. Go to 'Log in with Google' and you'll need to enter your Hwb e-mail to gain access. Then, to post a video before the end of the week, click on the big green button. Please share your videos with us. Diolch yn fawr.

Band yr wythnos / Band of the week:


Yr artist yr wythnos hon yw Yws Gwynedd. Dyma ei sengl newydd 'Deryn Du' gafodd ei ryddhau'r wythnos diwethaf. Dilynwch y linc isod er mwyn gwrando ar y gân.

Our artist this week is Yws Gwynedd. He has recently released a new single 'Deryn Du'. Listen to the song by following the link below.


https://youtu.be/Co2i3WG_o7A


Gwrandewch ar fwy o ganeuon Yws Gwynedd drwy glicio ar y rhestr chwarae isod.

Listen to some of Yws Gwynedd's other material in the playlist below.

https://open.spotify.com/artist/14UpMsA1ZvDMZmFknlTOdO

Patrwm iaith yr wythnos - Language pattern of the week:


Patrwm iaith yr wythnos

Mae patrwm iaith yr wythnos hon yn gyfle i chi ymarfer defnyddio'r treiglad trwynol ar ôl 'fy' . Dyma'r llythrennau sydd yn treiglo ar ôl 'fy';

c > ngh ceg - fy ngheg cath - fy nghath

p > mh pen - fy mhen pensil - fy mhensil

t > nh trwyn - fy nhrwyn troed - fy nhroed

g > ng gwefus - fy ngwefus gwallt - fy ngwallt

b > m bawd - fy mawd braich - fy mraich

d > n dannedd - fy nannedd dwylo - fy nwylo

Ceisiwch ddefnyddio'r treiglad ar ôl 'fy' i ddisgrifio eich hun neu i sôn am eich teulu. Rhannwch eich gwaith ar dudalen Trydar yr ysgol neu recordiwch neges ar Flipgrid Y Siarter Iaith. (@ygcwmbran)

e.e Mae fy ngwallt yn hir.

Mae fy mrawd mawr yn chwarae ar y cyfrifiadur drwy'r dydd.

Mae fy ystafell wely yn anniben ac mae fy nheganau ymhobman.

Our language pattern this week will help the children to practise using the nasal mutation after 'fy'. Here are the letters that change after 'fy';

c > ngh ceg (mouth) - fy ngheg (my mouth) cath ( cat) - fy nghath (my cat)

p > mh pen - (head) fy mhen (my head) pensil ( pencil) - fy mhensil (my pencil)

t > nh trwyn (nose) - fy nhrwyn (my nose) troed (foot) - fy nhroed (my foot)

g > ng gwefus (lips) - fy ngwefus (my lips) gwallt (hair) - fy ngwallt (my hair)

b > m bawd(thumb) - fy mawd (my thumb) braich (arm) - fy mraich (my arm)

d > n dannedd (teeth) - fy nannedd my teeth) dwylo (hands) - fy nwylo (my hands)

Use the mutation after 'fy' to describe yourself or tell us about your family. Share your work on the school's Twitter page or on the 'Siarter Iaith Flipgrid. (@ygcwmbran)

e.g. Mae fy ngwallt yn hir. ( My hair is long.)

Mae fy mrawd mawr yn chwarae ar y cyfrifiadur drwy'r dydd. ( My older brother plays on his computer all day.)

Mae fy ystafell wely yn anniben ac mae fy nheganau ymhobman. (My bedroom is untidy and my toys are everywhere.)

pen ysgwyddau coesau traed

Defnyddiwch y gân 'Pen, ysgwyddau, coesau, traed' i'ch helpu i ymarfer defnyddio'r treiglad ar ôl 'fy'. Rhannwch glip ohonoch chi'n canu ar dudalen Trydar yr ysgol neu ar Flipgrid Y Siarter Iaith.(@ygcwmbran)

Use the song 'Head,shoulders, knees and toes' to help you practise using the mutation after 'fy'. Share a clip of your singing the song on the school's Twitter page or on the 'Siarter Iaith' Flipgrid page. (@ygcwmbran)


Gemau iaith yr wythnos - Language games of the week:


Yr wythnos hon rydw i wedi paratoi cwis i chi ar Purple Mash yn seiliedig ar batrwm iaith yr wythnos. Mae amrywiaeth o gwestiynau aml ddewis i chi ateb. Dilynwch y linc isod er mwyn gweld y cwis.

This week I have prepared a quiz for you on Purple Mash based on our language pattern. There are a number of multiple choice questions for you to answer. Click on the link below to access the quiz.

https://www.purplemash.com/?~c3c9MTgyOTk0MA==


Fel her ychwanegol beth am i chi fynd ati i greu cwis Cymraeg eich hun gan ddefnyddio '2-Quiz' ar Purple Mash? Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Purple Mash a chwilio am y rhaglen '2-Quiz' yn yr adran 'tools'. Edrychwch ar y clip fideo isod am fwy o gymorth. Rhannwch linc o'ch gwaith ar dudalen Trydar yr ysgol neu ar Flipgrid Y Siarter Iaith.(@ygcwmbran)

As an extension task how about creating your own Welsh quiz using '2-Quiz' on Purple Mash? You will need to log in to your Purple Mash account and then look for '2-Quiz' in the 'tools' section. Watch the short video clip below for further information. Share a copy of your work on the school's Twitter page or on 'The Siarter Iaith' Flipgrid page. (@ygcwmbran)

https://www.purplemash.com/#app/diyjs/2quiz

sut i ddefnyddio 2 quiz.mp4

Cliciwch ar y linc isod i chwarae mwy o gemau fydd yn eich helpu chi i ddysgu mwy am y treiglad trwynol ar ôl 'fy'. Mae modd newid y gêm drwy glicio ar y darn 'switch templates' sydd ar ochr y dudalen.

Click on the link below to play more games that will help you learn more about the nasal mutation after 'fy'. You can choose different games by clicking on 'switch templates' which is on the side of the page.

https://wordwall.net/resource/41380




gloywi waith

Cliciwch ar y linc isod a dewiswch y gêm 'Taclo'r Treiglo'. Cwblhewch y dasg gyntaf a fydd yn eich helpu i atgyfnerthu'r treiglad ar ôl 'fy'.

Click on the link below and choose the game 'Taclo'r Treiglo'. Complete the first task which will help to reinforce your understanding of the mutation after 'fy'.

https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/welsh/cynnal/rhwydwaith_iaith/rhwydwaith_iaith_index.html

Her iaith yr wythnos - Language challenge of the week:


Disgriblo ydy enw'r her iaith yr wythnos hon. Mae angen i chi dynnu llun o'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio. Dewisiwch un o'r cardiau isod a darllenwch y wybodaeth sydd ar y cerdyn. Yna, tynnwch lun yn dangos yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio ar y cerdyn.

Beth am i chi rhoi cynnig ar wneud cerdyn disgriblo eich hun ar gyfer aelod o'ch teulu neu eich ffrindiau? Ysgrifennwch ychydig o frawddegau neu restr ar thema o'ch dewis. Rhannwch eich gwaith ar dudalen Trydar yr ysgol neu ar Flipgrid Y Siarter Iaith. (@ygcwmbran)

Scribbling is the name of this weeks language challenge. For this task you will need to draw a picture showing what is being described in the text. Choose one of the cards. Read the information carefully and then draw a picture showing what is being described.

How about creating your own scribbling card for a family member or for your friends to complete? Write a few sentences or a list on any theme. Share your work on the schools Twitter page or on the 'Siarter Iaith' Flipgrid. (@ygcwmbran)

Tasg Y Cyfnod Sylfaen - The Foundation Phase task:

disgriblo y cyfnod sylfaen

Tasg Cyfnod Allweddol 2 - Key Stage 2 task:


her ca2

Apiau yr wythnos - Apps of the week:

Y Cyfnod Sylfaen - The Foundation Phase:

Mae’r adnodd 'Chwarae i ddysgu' yn adnodd i helpu plant i fod yn actif yn gorfforol drwy amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r ap yn cynnwys cardiau gemau chwarae sy’n rhoi cyfle i blant roi eu sgiliau ar waith mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

The 'Play to learn' resource is a tool to help children to get physically active through a range of different activities. The app contains games cards that give children the opportunity to put their skills into practice in a fun and exciting way.

https://www.chwaraeon.cymru/cynnwys/play-to-learn-resources/

Cyfnod Allweddol 2 - Key Stage 2:

Pwrpas y gêm 'Saba Heliwr y Geiriau' yw helpu y cymeriad Saba gasglu geiriau drwy fynd ar daith drwy ynysoedd gwahanol. Mae na 10 ynys. Bydd pob ynys yn cynrychioli rheol sillafu.

The aim of the game 'Saba Heliwr y Geiriau' is to help the character Saba to collect words by travelling through different islands. There are 10 islands. Each island represents a different spelling rule.

hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e72146fd-e2cd-4418-8fc3-ac4f4fef0526/cy?catalog=4027db3f-d3b9-453b-9f41-e5b1ef34ab6c&ratings=ef9ac61c-1918-4f62-9df8-e20e991e602a

Amser Stori - Story time:

Y Cyfnod Sylfaen - The Foundation Phase:

Gwrandewch ar stori 'Cwtsh!' gan David Melling drwy glicio ar y linc isod.

Listen to the story ' Cwtsh!' by David Melling by clicking on the link below.

https://youtu.be/CiszzUT2mZ8

Cyfnod Allweddol 2 - Key Stage 2:

Un o fynyddoedd enwocaf Cymru ydy Cadair Idris. Dewch i wrando ar hanes Idris y Cawr. Mae'r stori yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Cadair Idris is one of Wales' most famous mountains. Come and listen to the story of Idris the Giant. The story is in both Welsh and English.

https://youtu.be/269TzyyMgzw