Blwyddyn 3 / Year 3

Wythos 9 / Week 9

8.6.2020-12.6.2020:

Gwaith Cymraeg / Welsh work:

Bore da! Cliciwch ar y linc isod cyn dechrau eich gwaith er mwyn derbyn neges gan Miss Westphal. Ewch i 'Log in with Google' a rhowch eich e-bost Hwb i mewn. Wedyn, ychwanegwch fideo cyn diwedd yr wythnos, drwy glicio ar y botwm gwyrdd mawr. Rhannwch eich fideos gyda ni os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr.

Good morning! Click on the link below before starting your work to see a message from Miss Westphal. Go to 'Log in with Google' and you'll need to enter your Hwb e-mail to gain access. Then, to post a video before the end of the week, click on the big green button. Please share your videos with us. Diolch yn fawr.

Darllen / Reading:

Tasg: Fedrwch chi ateb y cwestiynau isod? Defnyddiwch y llun er mwyn darganfod yr atebion.

  1. Beth yw'r tymheredd ym Mhorthmadog?

  2. Ym mhle mae hi'n 7˚C?

  3. Rhestrwch y ddau le sy'n cychwyn gyda'r llythyren Ll.

  4. Ym mha ddau le mae'r tymheredd yr un fath?

  5. Ym mhle mae hi'n 11˚C?

  6. Ym mhle mae hi 1˚C yn dwymach na Llanfyllin?


Task: Can you answer the questions below? Use the picture to help you discover the answer.

  1. What is the temperature in Porthmadog?

  2. Where is it 7˚C?

  3. List the two places that begin with the letter Ll.

  4. In which two places is the temperature the same?

  5. Where is it 11˚C?

  6. Where is 1˚C warmer than Llanfyllin?

Sillafu / Spelling:

Tasg: Lluniwch enfys yn eich llyfr ac ymarferwch sillafu'r geiriau allweddol isod tu fewn iddo.

Task: Draw a rainbow in your book and practise spelling the key words below inside it.

Ysgrifennu / Writing:

Tasg- Cadw dyddiadur o'r tywydd:

Lluniwch dabl yn eich llyfr fel y gwelwch yn y llun. Yna cofnodwch y tywydd bob dydd am wythnos. Tynnwch lun o'r tywydd, ysgrifennwch frawddeg yn ei esbonio ac yna 1 peth y gwnaethoch chi yn ystod y diwrnod hynny.

Enghraifft- Heddiw roedd hi'n heulog. Chwaraeais i yn yr ardd ar y trampolîn.


Task- Keeping a weather diary:

Create a table in your book as seen in the picture. Then, record the weather everyday for a week. Draw a picture of the weather and then write a few sentences explaining the weather and 1 thing you did during that day.

Example- Today it was sunny. I played in the garden on my trampoline.


Tasg 2- Y llythrennau dwbl ll a ch:

Mae'r lluniau isod yn cynnwys y llythyren ddwbl ll neu ch. Gwnewch dabl yn eich llyfr, tynnwch lun o dan y llythyren ddwbl gywir ac yna ysgrifennwch y gair wrth ei ochr. Mae enghraifft isod i chi.

Task 2-Double letters ll and ch:

The pictures below include the double letters ll or ch. Draw a table in your books, draw the pictures under the correct double letter and then spell the word by its side. There is an example below for you.



Atebion : Ar ôl cwblhau eich gwaith, gallwch wirio'r atebion ar y sleid.

Answers : After completing your work you can check the answers on the slide.

Atebion ll neu ch

Mathemateg / Mathematics:

Tasg 1-Creu cloc dysgu:

Ydych chi'n gallu creu cloc i'ch helpu gyda dweud yr amser? Cofiwch: mae gan bob rif bartner e.e. 1=5, 2=10 a 9=45.Mae cyfarwyddiadau ar sut i greu eich cloc dysgu ar y wefan yn y linc isod.

Task 1- Creating a learning clock:

Can you make a clock to help you tell the time? Remember: Each number has a partner e.g. 1=5, 2=10 and 9=45. Instructions on how to make your own learning clock are on the website in the link below.

https://www.makingmotherhoodmatter.com/creative-activities-for-preschoolers/

Tasg 2- Faint o'r gloch yw hi?

Darllenwch yr amser ar y clociau analog isod. A allwch chi ysgrifennu sut y byddai'r amseroedd hyn yn edrych ar gloc digidol?

Cofiwch: Ar glociau analog a digidol, yr awr sy'n dod gyntaf (bys bach) ac yna'r munudau (mawr=munudau).

Task 2- What time is it?

Read the time on the analogue clocks below. Can you write how these times would look on a digital clock?

Remember: On both analogue and digital clocks, the hour comes first (small hand) and then the minutes (big hand).


Clociau

Tasg 3- Her amseru:

Isod mae tabl o weithgareddau i chi geisio eu gwneud o fewn amseroedd penodol. I ddechrau, dyfalwch sawl gwaith y byddwch yn medru gwneud y weithgaredd ac yna ewch amdani. Mae amserydd munud a 30 eiliad isod i'ch helpu.

Task 3- A timed challenge:

Below is a table of activities for you to try to do within set times. First, guess how many times you will be able to do the activity and then go for it. Below is a minute and 30 second timer to help you.

Tasg 4-Fy nyddiadur diwrnod:

Isod mae rhai pethau y byddwch, efallai, yn eu gwneud yn ystod diwrnod. Copïwch y lluniau yn eich llyfr ac yna cofnodwch yr amser y gwnaethoch chi'r weithgaredd.

Task 4- My day diary:

Below are some things you might do during a day. Copy the pictures below in your books and then record what time you did each of the activities.


Gwaith thema / Theme work:

TGCh:

Sgil TGCh: Codio

Yr wythnos hon, ymchwiliwch sut i godio trwy ddefnyddio'r fideos addysgu ar y wefan. Eich her yw codio gêm ryngweithiol. Dilynwch y linc isod a chliciwch 'Chase the pizza'. Mwynhewch!

ICT:

ICT skill: Coding

Research how to code a new game by following the tutorials on the website. Follow the link below and click 'Chase the pizza'. Enjoy!

https://arcade.makecode.com/#

Gwyddoniaeth:

Ffocws Gwyddoniaeth: Solid, hylif a nwy

Darllenwch y pwerbwynt yn ofalus a chasglwch yr adnoddau sydd eu hangen i gwblhau'r arbrawf syml. Ar ôl cwblhau'r arbrawf, trafodwch eich arsylwadau a cheisiwch ddod o hyd i wybodaeth sy'n cefnogi eich arsylwadau. Mae yna fideos defnyddiol i'ch cefnogi.

Science:

Science Focus: Solids, liquids and gases

Read the power point carefully and collect the resources you need to complete the simple experiment. After completing the experiment, discuss your observations and try to find information to support your observations. There are a few videos to help you.

Gwyddoniaeth CA2 1

Gwylio rhaglen Gymraeg:

Dyma raglen o gyfres sy'n dogfennu'r hyn y mae plant Cymru yn eu gwneud wrth hunan-ynysu, drwy gyfrwng flogs wedi eu creu ganddyn nhw.

Tasg :Yn y rhaglen mae'r plant yn defnyddio bocsys cardfwrdd er mwyn creu pethau. Beth am i chi greu rhywbeth allan o focs sydd gyda chi yn y tŷ? Mae rhai syniadau yn y rhaglen.

Watching a Welsh television programme:

This is a programme from a series documenting what children in Wales are doing while isolating, through blogs created by them.

Task: In the programme the children use cardboard boxes to create different things. How about making something out of boxes you have in your house? There are some ideas in the programme.

Cwis Kahoot!

Dyma cwis i blant CA2. Mae angen i chi glicio ar y linc isod i fynd i'r dudalen cywir. Rhowch eich enw fel 'nickname'. Efallai bydd angen y 'pin number' isod arnoch.

Kahoot quiz!

Here is a quiz for KS2 children. You need to click on the link and it will take you to the correct quiz. Use your name as 'nickname'.You might also need to enter the pin number below.

Pin number: 0378582

https://kahoot.it/challenge/0378582?challenge-id=715bbcd3-5418-48a0-8a40-048df13a226b_1591082805172


Cerddoriaeth:

Defnyddiwch y wefan 'Classic for kids' (linc isod) ar gyfer dod i adnabod rhannau o'r gerddorfa.

https://www.classicsforkids.com/music/instruments_orchestra.php

Cyfansoddodd Tchaikovsky ddarn cerddorfaol enwog o'r enw 'Peter and the Wolf'. Mae'r stori yn cael ei ddweud trwy gerddoriaeth. Yn y stori mae 7 cymeriad ac mae pob cymeriad yn y stori yn cael ei gynrychioli gan offeryn penodol. Gwrandewch ar y stori a'r gerddoriaeth er mwyn gallu cwblhau'r gwaith.

Music:

Use the website 'Classic for kids' to learn about the orchestra.

https://www.classicsforkids.com/music/instruments_orchestra.php

Tchaikovsky composed a famous piece of music called 'Peter and the Wolf'. The story is told through music. There are 7 characters in the story and they are all represented by a different instrument. Listen to the story and the music in order to complete the work.

Y dasg: Yn eich ffeiliau wedi rhannu ar J2launch ar Hwb (shared files) mae gwaith trefnu wedi ei osod i chi. Gwyliwch y clip fideo isod i ddangos sut mae dod o hyd i'r gwaith a beth sydd angen ei wneud.

The task : In your shared files in J2Launch in Hwb, work has been set for you. Watch the clip first to show you how to get to the work and some little tips on working on the task.

The link below should also take you to the work.

https://www.j2e.com/ysgol-gymraeg-cwmbr%c3%a2n/NerysG/Offerynnau/

Offerynnau.webm

Celf :

Beth am wneud portread o’ch athrawes/athro neu hunanbortread? Gwyliwch y fideo i weld sut mae’r arlunydd Giulia Bernardelli yn creu lluniau drwy ddefnyddio te neu goffi yn unig. Rhannwch eich lluniau gyda ni - un ai e-bostiwch y llun neu rhannwch ar twitter - @ygcwmbran

Art:

Why not make a portrait of your teacher or a self portrait? Watch the video to see how the artist Giulia Bernardelli creates pictures using only tea or coffee. Share your photos with us - either email the photo or share on twitter - @ygcwmbran

Enghreifftiau / Examples: