Y Siarter Iaith
Wythnos 6 / Week 6
11.5.2020-15.5.2020
Band yr wythnos / Band of the week
Ein band yr wythnos hon yw Derw. Band o Gaerdydd ydyn nhw. Gwrandewch ar fersiwn acwstig o'r sengl 'Dau Gam' isod.
Our band of the week is Derw. They are a new Welsh band from Cardiff. Listen to the acoustic version of their single 'Dau Gam' by following the link below.
Patrwm iaith yr wythnos / Language pattern of the week
Mae patrwm iaith yr wythnos hon yn gyfle i chi ymarfer defnyddio'r berfau gorchmynnol. Mae berfau gorchmynnol yn cael eu defnyddio i roi cyfarwyddiadau.
e.e. cerddwch rhedwch symudwch eisteddwch trowch codwch
Beth am ddefnyddio'r berfau gorchmynnol mewn sesiwn ymarfer corff ar gyfer eich teulu fel Joe Wickes? Gwyliwch y clip isod. Recordiwch eich sesiynau a'u rhannu ar dudalen Trydar yr ysgol.
e.e. Cerddwch yn yr unfan.
Trowch eich breichiau mewn cylch.
Codwch eich coesau yn uchel.
Our language pattern this week will help the children to practise using imperative verbs. We use imperative verbs to give instructions.
e.g cerddwch ( walk) rhedwch (run) symudwch (move) eisteddwch ( sit) trowch (turn) codwch ( stand)
How about using imperative verbs during a P.E. session for your family like Joe Wickes? Watch the clip below. Record your sessions and share them on the schools Twitter page.
e.g. Cerddwch yn yr unfan. ( Walk on the spot.)
Trowch eich breichiau mewn cylch. ( Circle your arms.)
Codwch eich coesau yn uchel. ( Lift your legs up high.)
Gêm yr wythnos / Game of the week
Defnyddiwch y gemau iaith isod er mwyn ymarfer defnyddio'r berfau gorchmynnol. Recordiwch eich gwaith ar dudalen Trydar yr ysgol.
Use the language games below in order to practise using imperative verbs. Post your efforts on the schools Twitter page.
Cliciwch ar y linc isod i chwarae mwy o gemau fydd yn eich helpu chi i ddysgu mwy am ferfau gorchmynnol. Mae modd newid y gêm drwy glicio ar y darn 'switch templates' sydd ar ochr y dudalen.
Click on the link below to play more games that will help you learn more about imperative verbs. You can choose different games by clicking on 'switch templates' which is on the side of the page.
https://wordwall.net/resource/1111765/welsh/berfau-gorchmynnol
Her Iaith / Language Challenge:
Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru sydd yn gyfrifol am osod her iaith yr wythnos hon eto. Eich tasg yw ysgrifennu cerdd syml, ychydig o frawddegau neu eiriau yn disgrifio 'Beth wela' i drwy'n ffenest fach i?' Gallwch chi addurno eich gwaith hefyd. Postiwch eich gwaith ar dudalen Trydar yr ysgol.
Darllenwch gerddi Gruffudd Owen a Miss Williams isod.
Gruffudd Owen, this years Children's Laureate has set this weeks language challenge. Your task is to write a poem, a few sentences or just words describing 'What you can see outside of your window?' How about adding some pictures to your work? Post your work on the schools Twitter page.
Read Gruffudd Owen and Miss Williams' poems below.
Apiau yr wythnos/ Apps of the week:
Y Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase:
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol sy'n rhoi sylw i'r thema Ti a Fi yw'r ap 'Ti a Fi'. Gallwch newid yr iaith er mwyn clywed y wybodaeth yn y Gymraeg neu'n Saesneg.
The app 'You and Me' is a series of themed interactive resources which will help pupils learn about themselves and others. You can play the games in Welsh or in English by changing the language setting.
https://hwb.gov.wales/repository/resource/2ec6e871-a2da-471e-aec1-022c49ecf2cf/cy
Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2
E-bapur newydd cyfrwng Cymraeg yn addas ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 ydy 'Y Cliciadur'. Mae'n llawn erthyglau a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas ar hyn o bryd. Mae modd darllen y wybodaeth yn y Gymraeg neu'n Saesneg drwy newid yr iaith. Defnyddiwch y linc isod i agor y ddogfen.
'Click-it Cymru' is an online newspaper for Key Stage 2 learners, containing a number of different articles and information about things which are happening in the world. You can read the articles in Welsh or in English. Follow the link below to open the document.
https://hwb.gov.wales/repository/resource/ff4afd70-678d-4b46-9ad6-dad079eb9f54/cy
Amser Stori / Story Time
Gwrandewch ar stori ' Douglas a'r Gacen Fêl' drwy glicio ar y linc isod.
Listen to the story ' Douglas a'r Gacen Fêl' by clicking on the link below.
Heriau Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter Challenges
Ydych chi'n awyddus i ymarfer eich sgiliau Cymraeg? Beth am gwblhau rhai o dasgau Seren a Sbarc isod? Rhannwch eich gwaith ar safle Trydar yr ysgol.
Are you looking for ways to practise using your Welsh language skills? How about completing some of Seren and Sbarc's challenges below? Share your work on our Twitter page.