Daeth Gwyneth Glyn a Twm Morys draw atom yn Ysgol yr Eifl er mwyn cyfansoddi'r geiriau ar gyfer ein cân ni. Mae'r geiriau yn dathlu hanes ardal Trefor, a beth sydd yn bwysig yno heddiw hefyd.
Anthem Ysgol yr Eifl
Ym mhentref bach Trefor yng nghysgod y mynydd
Mae Ysgol yr Eifl,
Lle hwyliog a hapus a braf ymhob tywydd
Yw Ysgol yr Eifl,
Er bod y llwybyr yn droellog a chul
Does neb yn cael mýll na llyncu’r un mul
Achos bob p’nawn dydd Mercher cawn ginio dydd Sul
Yn Ysgol yr Eifl yn Nhrefor.
Dim swn yn y bore ond corn Moto Coch
Yn Ysgol yr Eifl,
A chorn býs y Berwyn yn ateb yn groch
Yn Ysgol yr Eifl,
Cyrn y geifr yn cwffio gerllaw
Corn y Gwaith mawr yn galw’n y glaw
A chyrn y band enwog o Fethlehem draw
Yn Ysgol yr Eifl yn Nhrefor.
Rhwng y mynydd mawr a’r lli
Dacw hi, Ysgol Ni!
Lle bynnag yr awn ni i grwydro’r hen fyd
O Ysgol yr Eifl,
Anghofiwn ni byth am y pentra bach clyd
Lle mae Ysgol yr Eifl,
Tre’r Ceiri, Garn Ganol a Mynydd y Gwaith
Yn gwarchod ein hanes a gwarchod ein hiaith
Ac adra y down ni ar ddiwedd y daith
I Ysgol yr Eifl yn Nhrefor.